Wednesday, December 22, 2010

Mwy am y Lib Dems

Ymddengys bod ffigyrau polio Cymreig ITV / YouGov yn ddigon tebyg i'r joban cefn amlen sydd gen i isod - ond eu bod mymryn yn waeth i'r Lib Dems hyd yn oed.

Mae yna bosibilrwydd real mai Peter Black fydd y Blaid Lib Dem yn y Cynulliad ac mai pumed neu chweched plaid fydd hi yno gydag UKIP ac o bosibl y BNP hyd yn oed yn dod o'u blaenau.

Yr unig gysur iddynt am wn i ydi'r ffaith y caiff ego Peter ei gynnal trwy fod yn arweinydd ei blaid yng Nghymru yn ogystal a bod yn llefarydd iddynt ar pob agwedd o fusnes y Cynulliad.

Gobeithio y bydd ganddo ddigon o amser ar ol i flogio, wir Dduw!

7 comments:

Hogyn o Rachub said...

O ran chwilfrydedd, be 'di dy farn ar berfformiad y Blaid yn y polau hyd yn hyn? Maen nhw'n gyson o amgylch y marc 20% ond eto ac er gwaetha'r cyd-destun gwleidyddol siwr o fod bod hynny'n siomedig?

Cai Larsen said...

Mae o'n sefyllfa diddorol - a siomedig ar un olwg - ond dydi o ddim yn sefyllfa anisgwyl braidd. Mi wna i flogiad bach ar y pwnc heddiw neu fory - mae stwff ar y dudalen flaen yn cael mwy o ddarlleniad o lawer.

BoiCymraeg said...

Wy'n methu peidio a meddwl nad yw'r argoelion i'r Blaid yn rhy dda. Os mae'r Ceidwadwyr yn colli etholaethau ee i'r blaid Lafur, mae'n debyg y byddan nhw'n cymryd seddi rhestr oddi ar y Blaid o ganlyniad. Hyd yn oed os enillif y Blaid etholaeth newydd (rhywbeth nad yw'n sicr o gwbwl), mae'n anodd gweld sefyllfa lle bydd nifer eu seddi'n mynd yn uwch nag 15. Yn anffodus, mae'r Blaid yn dibynnu ar aflwyddiant y blaid Lafur, ac mae'n edrych taw eu etholiad nhw fydd 2011.

Anonymous said...

Ydych chwi am blogio am y ffaith bod Plaid Cymru nawr o dan y Tori's YNG NGHYMRU!?! Er bod Llafur sydd gyda nhw yn y Llywodraeth i fyny.

Pam ydy hyn?
Ydio oherwydd bod IWJ yn SHIT?. Fel hogyn o fon, sydd wedi pledleisio drosto, allaim diodde'r dyn, diom yn neud DIM i Fon. Dani dal mor dlawd ag ydan ni erioed, da chin gyrru llythyr iddo a diom yn ateb yn ol. Maen pathetic. A dio ddim yn arweinydd sydd yn excitio fi chwaith.

A pam tydy'r Tori's ddim yn cael 'punishment' am be mae nhw wedi'i neud- dim ond y 'Dems'.

Ag allan or Dem's i gyd, yr un swni eisiau i fynd fwyaf ydy Peter Black!!- fysan anffodus iawn os fysa pawb arall yn gadael, a dim ond y fo ar ol. Cringe!.

Anonymous said...

Oh sori! newydd weld comment A.Pearce! diddorol.

Ond wir dwisio newid yn y Bae- dwim isio Llafur yng Nghymru am ryw dymor, just i weld be fysan digwydd.

Anonymous said...

Oh sori DAU- newydd weld comment chwi MenaiBlog..... ymddiheuriadau!. Dwi'n ei sgwenu ar iphone felly allai ddim gweld y sgrin yn fawr!

Cai Larsen said...

Fel y dywedais mi 'sgwenna i rhywbeth am y Blaid maes o law.

O ran pam nad ydi'r Toriaid yn cael eu cosbi mae'r ateb yn weddol amlwg. mae eu cefnogwyr o blaid toriadau mewn gwariant cyhoeddus. 'Dydi'r un peth ddim yn wir am y Lib dems.