'Dwi ddim yn gwybod os mai ysgolion rhydd ydi'r cyfieithiad gorau i gynllun free schools Michael Gove, ond mae'n syndod gen i ddeall o Dragon's Eye bod Llais Gwynedd yn credu y dylid cyflwyno'r cynllun yng Nghymru.
Rwan, amrywiaeth ar gynllun optio allan y Ceidwadwyr yn y blynyddoedd cyn 1997 wedi ei ail dwymo ydi'r cynllun ysgolion rhydd mewn gwirionedd. Roedd yr hen gynllun yn caniatau i ysgolion gael eu hariannu'n uniongyrchol o San Steffan yn hytrach na thrwy awdurdodau lleol. Bydd y cynllun newydd yn caniatau i grwpiau o rieni, elysennau, busnesau neu athrawon greu eu hysgolion eu hunain a derbyn arian yn uniongyrchol o San Steffan. Petai'r Toriaid Cymreig a Llais Gwynedd yn cael eu ffordd, byddai'n rhaid i'r Cynulliad ariannu ysgolion rhydd yng Nghymru hefyd.
Mae ysgolion rhydd (fel yr ysgolion oedd wedi optio allan) yn gynhenus iawn. Mae'r Toriaid yn eu hystyried yn dda oherwydd eu bod yn creu amrywiaeth o ran darpariaeth ac yn cyflwyno mwy o gystadleuaeth i'r gyfundrefn addysg. Mae'r Toriaid yn hoffi cystadleuaeth. Nid ydi undebau athrawon a'r gwrthbleidiau yn hoff ohonynt oherwydd eu bod yn eu gweld fel preifateiddio trwy'r drws cefn, eu bod yn poeni am amodau gwaith athrawon ac y byddant yn ariannol aneffeithiol ac yn sugno arian allan o'r gyfundrefn addysg prif lif. Yng Nghymru ceir yr ofn ychwanegol y gallai carfannau o rieni mewn ardaloedd Seisnig yn y Fro Gymraeg eu defnyddio fel ffordd o osgoi polisiau dwyieithrwydd awdurdodau lleol.
Wna i ddim mynd ar ol y dadleuon yma - ond bydd darllenwyr cyson y blog yn dyfalu mae'n debyg fy mod yn wrthwynebus iawn i'r syniad - a byddai'r canfyddiad hwnnw yn un cywir. Mae un Caergeiliog yn ddigon diolch yn fawr iawn. Mi hoffwn fodd bynnag wneud ychydig o sylwadau am sefyllfa Llais Gwynedd parthed hyn oll.
Mae'n debyg gen i mai'r hyn sydd gan Llais mewn golwg ydi caniatau i ysgolion sydd yn cael eu cau i wneud cais i'r Cynulliad i ail agor trwy'r cynllun ysgolion rhydd. Rwan mae'n ymddangos yn weddol amlwg na fyddai'r Cynulliad (hyd yn oed petai'n mabwysiadu'r cynllun, ac mae hynny'n hynod anhebygol ynddo'i hun) eisiau gwneud hyn. O gyfeiriad y Cynulliad y daeth y rhan fwyaf o'r pwysau i ddileu llefydd gweigion trwy gau ysgolion, ac mae awdurdodau lleol at ei gilydd wedi bod yn gyndyn i ddilyn y trywydd yma.
Ond a rhoi hynny o'r neilltu am ennyd, meddyliwch beth fyddai'n digwydd petai'r Cynulliad trwy rhyw ryfedd wyrth yn mabwysiadu'r polisi yma, ac yn caniatau i ysgolion ei ddefnyddio fel ffordd o osgoi cau. Byddai hynny'n creu cymhelliad pwerus i awdurdodau lleol gau llawer mwy o ysgolion na maent yn eu cau ar hyn o bryd. Byddai'n llawer iawn haws i awdurdod 'gau' ysgol os y byddai'n gwybod y cai ei chadw yn agored ar gost y Cynulliad. Ysgolion llai ydi'r rhai sy'n ddrud i awdurdodau eu hariannu, felly ysgolion llai fyddai'n 'cau'.
Mi fyddai'n ffordd i awdurdodau lleol drosglwyddo ysgolion 'drud' i ofal y Cynulliad, tra'n cadw'r rhai 'rhad'. Canlyniad hyn yn ei dro fyddai creu dwy haen o ysgolion - rhai rhad i'w rhedeg o dan ofalaeth awdurdodau lleol, a rhai drud a fyddai yn cael eu hariannu gan y Cynulliad ond a fyddai'n rhydd i sefydlu polisiau derbyn, polisiau iaith, polisiau crefyddol, polisiau lles ac ati eu hunain. Byddai'r ysgolion anffodus yma hefyd yn gorfod dod o hyd i ffyrdd o dalu cyflogau, gweithredu gweithdrefnau diswyddo a disgyblu, recriwtio ac ati ar eu liwt eu hunain.
Mewn geiriau eraill mae'r cynnig, fel llawer sy'n dod o gyfeiriad Llais Gwynedd, yn swnio'n addawol os nad ydym ond yn meddwl amdano am fwy nag eiliad neu ddwy, ond mae meddwl amdano am funud neu ddau - neu fwy hyd yn oed - yn dangos yn eithaf clir y byddai'n arwain at anrhefn ar raddfa eang. Yn wir byddai'n troi'r gyfundrefn addysg yng Nghymru yn rhywbeth nad oes ei debyg yn y Byd mawr crwn.
No comments:
Post a Comment