Saturday, December 18, 2010

Refferendwm newydd, ond yr un hen g**hu gyfeiriad yr ochr Na

Yn ol yr ymgyrch Na, ni allant ddod o hyd i'r un enaid byw sy'n fodlon siarad yn y Gymraeg trostynt efo'r cyfryngau - mae'n ymddangos bod ganddynt ddigon o gefnogwyr Cymraeg eu hiaith - ond bod y rheiny'n ofn dychwelyd i'w cymunedau ar ol mynegi safbwyntiau sy'n wrthwynebus i roi pwerau deddfu i'r Cynulliad.

Rwan, mae'n ddrwg gen i - ond 'dydw i ddim yn credu gair o'r nonsens yma.

Mae gennym fel Cymry Cymraeg draddodiad maith o gynhyrchu hunan gasawyr niwrotig ym mowld y diweddar D Elwyn Jones, a does yna'r un ohonyn nhw wedi dod i unrhyw niwed. Petai'r ymgyrchwyr Na yn trafferthu chwilio byddant yn dod o hyd i ddigonedd o bobl fyddai ond yn rhy fodlon i gael eu hwynebau ar ein sgriniau teledu i ddadlau eu hachos. Mi allant ddechrau holi ymysg y criw bach dethol o aelodau seneddol Toriaidd Cymraeg eu hiaith.

Mae'r cysyniad bod yr holl Gymry Cymraeg yn byw mewn cymunedau Cymraeg hefyd yn un rhyfedd. Heb fynd trwy'r ffigyrau'n fanwl, mi fyddwn yn awgrymu'n bod mwy na 40% o siaradwyr Cymraeg yn byw mewn cymunedau sy'n defnyddio'r Saesneg yn unig i bob pwrpas.

Felly pam creu'r nonsens rhyfedd yma? Mae'r ateb yn weddol amlwg mi dybiwn. Mae'n ddefnyddiol i'r ymgyrch Na bortreadu'r Cymry Cymraeg fel cenedlaetholwyr plwyfol, chwerw sydd i gyd yn byw yn yr un pentrefi ofnadwy yn rhywle yn y Gorllewin pell, a sy'n taflu tar a phlu tros bawb sydd ddim yn cytuno efo'u rhagfarnau.

Roedd pardduo Cymry Cymraeg yn ffrwd bwysig o dan wyneb yr ymgyrch Na, yn 79 ac yn 97, ac mae rwdlan diweddaraf True Wales i'w ddeall yn y cyd destun hwnnw.

3 comments:

Anonymous said...

Er mwyn sicrhau'r bleidlais Ie uchaf bosib, mae'n hanfodol fod yr ymgyrch Na yn darparu llefarwyr Cymraeg.

Beth am Felix Aubell? Sut siap sydd ar Gymraeg y Cyng. Loise Hughes erbyn hyn (mae'n dysgu ers rhai blynyddoedd mae'n debyg)?

Anonymous said...

Yn union.

Mae hefyd yn profi pa mor blwyfol mewn gwirionedd yw 'r ymgychwyr 'na'.

Fel rwyt ti'n ddweud mae yna hen ddigon o siaradwyr Cymraeg sydd yn anffodus am gefnogi'r ymgyrch 'na' - rhai yn ymddangos ar Pawb a'i Farn yn achlywurol, ond y gwir yw fod Rachel Banner a'i chriw mor blwyfol fel nad yw eu rhwydwaith cul nhw yn eu galluogi i gyd-gysylltu gyda'r bobl yma, i adnabod eu gilydd, a hyd yn oed bod yn ymwybodol o'u gilydd.

Ochr bositif hyn yw ei fod yn dangos pa mor wirioneddol anrhefnus, di-arweiniad, a 'fractured' yw'r ymgyrch 'Na'.

Wedi dweud hynny gall casgliad o unigolion yn gwneud digon o swn a dweud digon o gelwyddau fod yn handwyol i'r ymgyrch 'Ie'. Gyda rheolau newydd ynghylch gwariant ac ati, bydd yn rhaid i'r ymgyrch 'Ie' ffurfiol fod yn ofalus o gywirdeb eu negeseuon. Os mai casgliad eclectig o 'nay-sayers' fydd yn eu gwrthwynebu fel unigolion ac nid fel ymgyrch bydd hi'n anos cadw trefn a rheolaeth ar gywirdeb eu datganiadau.

Anonymous said...

Re: sylw dienw 1:

Mae Felix Aubel yn cefnogi, fel llawer o geidwadwyr Cymreig, ymreolaeth i Gymru.