Saturday, December 04, 2010

Protest Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru


'Dwi ddim yn hollol siwr faint o bobl ddaeth i ganol glaw mis Rhagfyr yng Nghaernarfon i brotest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn toriadau'r glymblaid - ond roedd y dorf yn un anrhydeddus iawn. Efallai y byddai cyfri'r ymbarels wedi rhoi syniad go lew i mi o faint oedd yna. Fel y trafodwyd yma am y brotest yng Nghaerdydd, roedd yna amrediad da o ran oedran y sawl a fynychodd - mi welais bobl roeddwn yn eu hadnabod yno o 2 i 85 oed.

Rwan mae protestiadau fel un Caernarfon ac un Caerdydd yn bwysig o ran mynegi safbwynt a dangos i bawb bod yna wrthwynebiad i bolisiau llywodraeth San Steffan. Maent hefyd yn bwysig i'r Mudiad Cenedlaethol ei hun i'r graddau eu bod yn mynd a ni'n ol at ein gwreiddiau. 'Dydi Plaid Cymru ddim yn gyfystyr a'r Mudiad Cenedlaethol wrth gwrs, ond y Blaid ydi'r gydadran bwysicaf a mwyaf dylanwadol ymysg y teulu cenedlaetholgar yng Nghymru. Plaid brotest oedd Plaid Cymru am y rhan fwyaf o'i hanes, a datblygiad cymharol newydd yn ein hanes ydi cael ein hunain yn ymarfer grym ar lefel leol, heb son am ar lefel genedlaethol. Mae ymarfer grym yn beth da wrth gwrs - pwrpas gwleidydda ydi ennill ac ymarfer grym er mwyn symud pethau yn eu blaenau - ond mae yna bris i'w dalu, sef bod plaid yn gallu cael ei hun yn magu delwedd sefydliadol.

'Dydi hynny ddim yn broblem i bleidiau sydd a'i chefnogwyr yn sylfaenol sefydliadol o ran agweddau - fel y Blaid Doriaidd. Ond mae'n broblem i blaid sy'n tueddu i apelio at bobl sydd yn wrth sefydliadol eu hanian - fel y Blaid. Dyma baradocs Plaid Cymru - pan mae'n ymarfer grym mae'n symud pethau yn eu blaen yn sylweddol, ond mae'r cyflwr o fod mewn grym yn un anghyfforddus i lawer o'i chefnogwyr naturiol. Yn hyn o beth, mae cael niferoedd mawr o'n haelodau allan ar y stryd, neu'n annerch torfeydd ar y stryd, yn gwneud byd o les i'n delwedd.

9 comments:

Anonymous said...

Byddai cael plaid cenedlaetholgar yng Nhymru yn syniad da.

Anonymous said...

Cytunaf yn llwyr a'r sylw hwn. Sut mae Plaid Cymru'n defnyddio'r grym sydd ganddi sy'n bwysig, yn arbennig felly pan fo'n dod at bethau sylfaenol fel yr iaith - a rhoi statws swyddogol cyflawn iddi. Does a wnelo'r Ceidwadwyr yn Llundain ddim oll a hynny. Gwylier y Cynulliad ddydd Mawrth i weld a fydd unrhyw un heblaw Bethan Jenkins yn driw i enw a phwrpas y blaid.

Anonymous said...

Braf darllen dy fod wedi cydnabod bod delwedd y Blaid, o leiaf yn lleol, angen e chodi.

Tasa'r Blaid yn ymarfer y grym lleol, ar seiliau'r hyn oeddant yn ei brotesio'n ei erbyn yn wreiddiol, byddant wedi cadw mwy o'u cefnogwyr sylfaenol.
Tydi'r ymdeimlad fod y Blaid yn Nghwynedd yn symud i fod yn un sefydlianol, drefol ddim yn helpu.

Mae'r Blaid yn Ngwynedd dwi'n siwr wedi bod yn ysu am gyfle i dynny'i chefnogwyr, ac yn wir ei chyn gefnogwyr, allan efo'u gilydd i brotestio am achos gwladgarol lle nad oedd gan y Blaid ddim rhan yn ei achosi.

Cai Larsen said...

Wel - fel y dywedais mae yna gost i blaid sydd a syniadaeth greiddiol sy'n wrth sefydliadol, pan mae'n ymarfer grym. Mae hyn yn arbennig o wir pan rennir grym, ac mae'n rhaid cyfaddawdu ynglyn a'r syniadaeth honno. Ond felly mae hi - mae'n rhaid cymryd grym pan mae ar gael, neu does yna ddim pwynt mewn gwleidydda.

'Does gen i fawr o amynedd efo cenedlaetholwyr sy'n meddwl bod eu purdeb ideolegol nhw eu hunain yn bwysicach na symud yr agenda genedlaetholgar yn ei blaen yn raddol. Rydym eisoes wedi trafod hyn sawl gwaith ar y blog yma. Hwyrach ei bod yn bryd mynd yn ol at y pwnc.

Anonymous said...

Sori i lygru'r blog ond rhaid darllen
"It's not my fault!" ;-)
http://aeronmjones.blogspot.com/

Ella'i fod o'n achos i dynnu hen ffrindiau at ei gilydd wedi cyfan!!

Anonymous said...

Mae yna gyfaddawdu a chyfaddawdu yn y byd yma. Doedd dim angen cyfaddawdu ar y Mesur Iaith (os dyna ddigwyddodd) am ei fod ar gael ar blat i Blaid Cymru yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Deddfu yn yr haf. Bydd plat arall yn cael ei weini ddydd Mawrth gan Bethan Jenkins. Y peth pragmataidd i'w wneud yw ei dderbyn.

Cai Larsen said...

Anon 9.57 - A wel o leiaf mi'r ydan ni'n gwybod pwy i beidio a'i feio bellach.

Rhyfedd bod yna'r holl aelodau 'na o Blaid Cymru yn protestio yn erbyn Plaid Cymru, tra bod LlG at ei gilydd wedi cadw draw.

Anon 10:32 - fyddwn i ddim yn anghtuno llawer.

Alwyn ap Huw said...

Gan fy mod wedi mynychu cynhebrwng Mam un o Gynghorwyr Llais Gwynedd ddoe doedd dim modd imi fod ar Faes Caernarfon hefyd.

Roedd tua 800 ar y Maes yn ôl y son!

Pob un yn codi llais am bwnc nad wyt wedi ei glywed ar y ddrws fel canfasiwr!

Snobs; Pob un!

Cai Larsen said...

Wnes i ddim gweld llawer o'r ideolegol bur yna a ddweud y gwir Alwyn.