Thursday, December 30, 2010

Newyddion da o'r diwedd i'r byd darlledu yng Nghymru



Fel rydym wedi trafod sawl gwaith yn ddiweddar ar y blog yma mae yna cryn dipyn o newyddion drwg yn amgylchu'r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd. Ond mae'n braf weithiau gallu cyfeirio at ychydig o newyddion cadarnhaol.

Daw hwnnw o gyfeiriad y grwp cynhyrchu Boomarang Plus. Er nad ydi canlyniadau (ariannol) y grwp wedi bod yn arbennig o wych yn ddiweddar, gydag elw o 2.4% o gymharu a chymedr yn y diwydiant o 8% i 10%, mae'r dyfodol yn edrych yn well - Yn ol eu canlyniadau ariannol mae ganddynt werth £50m o waith ar y gweill.

Rwan, mae'n lled anhebygol mai o gyfeiriad S4C y daw'r rhan fwyaf o'r gwaith hwnnw - fel y gwyddom mae'r sianel yn wynebu toriadau sylweddol iawn tros y blynyddoedd nesaf, ac ar ben hynny dydi'r tendrau yr ydym yn gwybod amdanynt sy'n dod o gyfeiriad S4C ddim yn dod yn agos at gyfanswm o £50m. Mae'n rhesymol casglu felly bod Boomarang Plus wedi llwyddo i ddenu gwaith sylweddol o Loegr, neu'r tu hwnt. Mae llwyddo i ddenu gwaith sylweddol o'r sector Saesneg yn dra anarferol i gwmniau cynhyrchu Cymraeg - felly llongyfarchiadau i Boomarang.

Mi fydd hi'n ddiddorol gweld yn union beth ydi'r gwaith.

2 comments:

Anonymous said...

Da gweld hyn, gobeithio yn nawr fe wneith S4C rhoi ychydig o arian ma nhw wedi rhoi i Boomerang i cwmniau bach, arbennig ac annibynnol. Yn lle cael rhaglenni gwael gan cwmniau mawr fel Tinopolis ai is-gwmniau.

BlogMenai,
ydych chwi wedi trafod AV a Plaid Cymru? dwin deall eu bod ei ASau am cefnogi AV. Ond beth fydd effaith hyn ar y Blaid yn Nghymru? mwy, llai neud dim newid yn y seddi i gymharu a etholiadau gorffenol?.

Yn amlwg fe wneith Llafur colli yn y Cymoedd, ond pwy wneith enill fwy o seddi?

Cai Larsen said...

'Dwi ddim yn meddwl y gwnaiff AV wahaniaeth i seddi'r Blaid nag yn y Cymoedd. Mi allai wneud gwahaniaeth mewn seddi megis y rhai dinesig, Ynys Mon ac Aberconwy.