Thursday, December 16, 2010

Yr anghytundeb yn Golwg rhwng Cymdeithas yr Iaith a Llais Gwynedd

Roeddwn wedi synnu braidd o ddarllen yn Golwg yr wythnos yma bod Rhys Llwyd wedi trafferthu i ysgrifennu llythyr yn ymateb i gwynion a fynegwyd yr wythnos cynt gan un o gynghorwyr Llais Gwynedd, na chawsant annerch y dyrfa ym mhrotest Cymdeithas yr Iaith yng Nghaernarfon.

Mae'n ymddangos i mi y byddai yn gwbl amhriodol i wahodd y grwp i'r rali. Roedd y grwpiau a gafodd wahoddiad yn ddi amwys yn erbyn y toriadau - neu a'i roi mewn ffordd arall, yn grwpiau sydd ar y Chwith.

Mae sefyllfa Llais Gwynedd yn wahanol. 'Dwi'n dilyn gwleidyddiaeth yn weddol agos, a 'dwi ddim yn siwr o bell ffordd beth ydi eu hagwedd at y toriadau. Yn sicr, a barnu o'u blogiau roeddynt yn rhyw led groesawu'r glymblaid toriadau - hobnobian mewn cyfarfodydd etholiadol Toriaidd, gwichian pan mae dyn yn tynnu sylw at y ffaith bod bron i holl gabinet y glymblaid yn bobl sydd ddim yn gorfod poeni am unrhyw doriadau mewn gwariant cyhoeddus, ymateb yn ecstatig pan mae'r Toriaid yn cael ychydig o hwyl ar recriwtio, cynhyrchu amddiffyniadau dagreuol pan roedd rhywun neu'i gilydd yn beirniadu'r Blaid Doriaidd, ymosod ar y pleidiau gwrth Doriaidd ac ati ac ati (mae yna gryn dipyn mwy o'r stwff yma). Roeddynt hyd yn oed wedi argyhoeddi eu hunain mai protest yn rhannol yn erbyn Plaid Cymru oedd y Gymdeithas wedi ei threfnu.

Yn fy marn bach i mi fyddai'r Gymdeithas wedi bod yn ffol iawn i roi gwahoddiad i Lais Gwynedd - Duw a wyr beth fyddai wedi digwydd - mae'n ddigon posibl y byddai rhywun neu'i gilydd wedi sefyll ar y platfform ar eu rhan a chanu clodydd y Toriaid a chyfiawnhau'r toriadau.

Protest yn erbyn y toriadau oedd hi wedi'r cwbl.

13 comments:

Plaid Whitegate said...

Mi nath Alwyn Gruffudd drio honni yn Golwg wsnos dwytha fod na bias gwrth-LlG yn y Gymdeithas oherwydd iddo gael ei wrthod rhag cymryd rhan mewn cynhadledd yn Wrecsam. Ond mi gafodd o lwyfan efo tri gwleidydd arall... doh!

menaiblog said...

Beth ydi'r cysylltiad rhwng LlG a Wrecsam?

Anonymous said...

Roeddwn i yn y gynhadledd yn Wrecsam ac fe gafwyd cyfraniadau diddorol iawn gan nifer o wleidyddion ac ymgyrchwyr, ond er ei fod wedi mynnu siarad ,arwynebol ac anrhefnus oedd cyfraniad Alwyn Gruffudd.

Alwyn ap Huw said...

Os wyt am inni gredu mai Tori gwrth Gymraeg yw Alwyn Gruffudd, o bawb, mae angen teimlo dy fymps Cai.

Roedd Alwyn yn arwain y gad ac yn cael ei ddiarddel o brifysgol Bangor er mwyn amddiffyn Cymreigrwydd y sefydliad pan oeddet ti yn dal i wisgo trowsus byr. Mae'r dyn wedi rhoi oes o wasanaeth ac aberth dros yr iaith, ac mae ceisio cogio yn wahanol oherwydd anghytundeb pleidiol yn dan dîn ac yn gwbl anhaeddiannol.

Be fydd testun dy bost nesaf? Gwynnys yn gefnog boddi cymoedd Cymru er mwyn rhoi dŵr i Lerpwl, neu Seimon o blaid annog mewnlifiad i'r Fro Gymraeg!

Bydda'r ddau destun mor hurt â dy awgrym bod Alwyn ddim yn gefnogwr di gyfaddawd i'r iaith.

Anonymous said...

Dwi'n amau fod Llais Gwynedd yn diodde' i raddau o'r un trallod a'r Lib Dems - hynny yw gwrthblaid tanllyd sy'n tynnu pob math o bobl at ei rhengoedd, ond heb o reidrwydd cysylltiad rhwng eu syniadau gwleidyddol. Mae hynny yn esbonio sut gall cendlaetholwyr Cymreig gyd-fyw gyda chenedlaetholwyr Prydeinig gwrth-Gymraeg yn Llais Gwynedd.

menaiblog said...

'Dwi erioed wedi bwrw amheuaeth ar ymlyniad Alwyn G tuag at yr iaith - a fedra i ddim deall yn iawn o ble ti wedi cael yr argraff yna:
Dau bwynt brysiog Alwyn:

(1) Pe byddai LlG wedi cael gwahoddiad, gallent fod wedi anfon pwy bynnag y mynent i'r digwyddiad.

(2) 'Dwi'n gwybod nad oeddet yn gallu bod yn y brotest - ond 'dwi'n cymryd dy fod yn sylwi mai protest yn erbyn toriadau mewn gwariant cyhoeddus oedd hi.

Anonymous said...

Rwyf innau'n gresynu fod Alwyn Gruffydd wedi cael ei dynnu i ffasiwn botes o blaid. Mae Llais Gwynedd yn llawn pobl sydd a cymhelliad gwrth-Gymreig , sydd ond yn bodoli fel 'gwrth' blaid, i bob pwrpas.
Wedi dweud hynny, cytunaf gyda Alwyn ap Huw am gyfraniad ac aberth 'Ali' yn y 70au yn y brifysgol ym Mangor. Bu hefyd yn ohebydd radio ardderchog, na guddiodd erioed o dan yr ymbarel 'di-duedd' . Ni fu'n foi i gymodi erioed. Collodd Plaid Cymru gydymdeimlad llawer yng Ngwynedd gryn ddegawd yn ol - y diffyg cefnogaeth i Seimon Glyn oedd asgwrn y gynnen i lawer . Bu Rhys Llwyd ei hun ddigon beirniadol o Blaid Cymru dechrau'r flwyddyn, cofier. Mae'n syndod sut mae 'Y Toris' yn gallu bod yn elyn mor hawdd, gan alluogi rhai ohonom i anghofio mai Prydeindod a Seisnigrwydd yw'r gwir elyn.

menaiblog said...

Anhysb: 12.18

'Dwi ddim yn anghytuno efo llawer o dy sylwadau a dweud y gwir.

Fy mhwynt i yn y blogiad oedd bod amwyster ynglyn ag agwedd LlG at y toriadau. Roedd y brotest yn llawer ehangach o ran ei beirniadaeth na'r toriadau i S4C yn unig.

Cigfran said...

Ar lawr gwlad yma'n Llyn,clymblaid wrth Plaid Cymru yw llais gwynedd,gyda elfennau hynod wrth gymreig yn celu ymysg eu cefnogwyr.


Gwelir eu hymgeisydd yn etholida cyngor sir yn Abersoch tro diwaethaf-Edmund James Cartwright,dyn lliwgar iawn fu'n gohebu llawer yn y wasg yn y gorffennol dros wastraff arian cyhoeddus ar yr iaith a diwilliant.Mi oedd yn sefyll yn erbyn Wyn Williams dros y blaid, un o hoelion wyth cymreictod yr ardal.

Mi aiff LlG i'r gwellt yn hwyr neu hwyrach,yn annffodus mae llawer o'u haelodau cyffredin ac etholedig am fod ddigon bodlon gyda hynny cyn belled eu bod yn mynd a cynghorwyr y blaid i lawr efo nhw!

Mae enghraifftiau o'r anghysondeb bron yn ddyddiol.Mae aelod Llanwnda'n feirniadol iawn o'r £8,000,000 o fuddsoddiad yng nghanolfan hwylio Pwllheli,ei fod yn llawer o bres am 8 swydd,heb wrth gwrs ystyried y gwariant ehangach yn yr ardal gan ymwelwyr ddaw hefyd yn yr hydref a'r gwanwyn yn ogystal a'r haf

Does dim smic o farn Bob Wright ,cynghorydd Ll.G o'r dre o sylwadau ei gyd aelod,sgwn i pam?

Un o Eryri said...

Cytuno yn llwyr a dy sylwadau mai Plaid asgell dde yw Ll.G. ac nid oes gan hynny unrhyw beth i wneud a chefnogaeth i'r iaith. (er rhaid dweud bod lle hyd yn oed i amau hynny ar adegau)
Rhyw flwyddyn yn ol 'roedd Ll. G. yn dadlau mai y ffordd i ymateb i broblemau ariannol Cyngor Gwynedd oedd diswyddo gorfodol i 1,000 o staff. Gofynwch i rai o aelodau amlycaf y Llais pa wladwriaeth maent yn edmygu fwyaf.
Ar ol etholiadau Ewrop fe wnes i ddatgan fod 'roeddwn ar ddeall fod holl gynghorwyr Ll.G. ar wahan i un, wedi pleidleisio i'r blaid asgell dde eithafol honno UKIP. Ni wnaeth unrhyw gynghorydd wadu hynny, ond fe wnaeth Alwyn ap Huw geisio cyfiawnhau y bleidlais.
Cofiwch pwy yw un o brif ffrindiau y carcharor

menaiblog said...

Mi fyddai'n gryn syndod i mi petai cynifer o gynghorwyr LlG wedi pleidleisio i UKIP a dweud y gwir - er mae'n bosibl bod un neu ddau wedi gwneud hynny am wn i.

Byddai'n fwy o syndod hyd yn oed petai Alwyn wedi cyfiawnhau fotio i UKIP. Beth bynnag y gwahaniaethau rhwng Alwyn a fi, dwi'n gwybod i sicrwydd ei fod yn casau plaid Farage.

Un o Eryri said...

edrych yn ol ar sylwadau Alwyn adeg yr etholiad os ydynt yn dal ar gael. 'Rwyf yn cofio yn dda ei gyfiawnhad, nid ei fod ef wedi pleidleisio iddynt ond pam fod cefnogwyr eraill Ll.G wedi pleidleisio iddynt

menaiblog said...

'Dwi'n siwr y bydd Alwyn yn galw draw i siarad trosto ei hun maes o law!