Diwrnod olaf y flwyddyn yn barod! Mae'r blynyddoedd 'ma yn hedfan fel gwenoliaid fel mae dyn yn heneiddio.
Ta waeth am yr athronyddu - mi fydd y flwyddyn nesaf yn un diddorol yn wleidyddol - yma, yn yr Alban a thros y Mor Celtaidd. Mi fydd yna ddwy refferendwm - un yn ymwneud a newid y drefn bleidleisio, a'r llall yn ymwneud a rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad. Mae etholiadau'r Cynulliad a Senedd yr Alban yn gyflym agosau, bydd yna etholiadau Cynulliad a chyngor yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'n 99.9% sicr y bydd yna etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon hefyd.
Mae'r etholiadau Gwyddelig yn fwy diddorol nag ydi rhai'r Alban a Chymru. Mae yna bosibilrwydd yng Ngogledd Iwerddon y bydd y brif blaid genedlaetholgar (Sinn Fein) yn ennill mwy o seddi na'r blaid unoliaethol fwyaf (DUP), a byddai hynny yn ei dro yn arwain at Weinidog Cyntaf cenedlaetholgar. 'Dydw i fy hun ddim yn gweld hynny yn digwydd y tro hwn, ond mae'n bosibilrwydd. Mi fydd yna ddiddordeb hefyd yn yr etholiadau lleol yn Belfast. Yn ogystal a bod yn gyngor mwyaf y dalaith o ddigon mae Belfast yn dalwrn o ran demograffeg, ac mae'n debygol bod yna fwy o etholwyr o gefndir Pabyddol na sydd yna o gefndir Protestanaidd yno bellach. Gallai hyn yn ei dro newid cyfansoddiad cyngor y ddinas a rhoi mwyafrif i'r cenedlaetholwyr am y tro cyntaf erioed. Byddai hynny'n gryn garreg filltir yn hanes gwleidyddol y dalaith.
Mae'r diddordeb yn etholiadau'r Weriniaeth yn wahanol. Ers sefydlu'r wladwriaeth mae'r hollt wleidyddol wedi cwmpasu hafn mewn cymdeithas Wyddelig a agorwyd gan y Rhyfel Cartref. Mae'r brif blaid, Fianna Fail, yn cynrychioli'r sawl a wrthododd y cytundeb efo'r DU ac a gollodd y Rhyfel Cartref, ac mae'r ail blaid, Fine Gael, wedi esblygu o'r elfennau a enillodd y Rhyfel Cartref ond a gollodd y rhyfel etholiadol wedi hynny. Mae'r model yma wedi bod yn un hynod o wydn, ac mae wedi parhau ymhell, bell wedi i'r ffactorau a'i creodd ddiflannu i'r gorffennol.
Mae'r drychineb ariannol sydd wedi amgylchu'r Weriniaeth yn ddiweddar fodd bynnag yn bygwth y model mewn ffordd nad yw wedi ei fygwth o'r blaen. Mae'r polau yn awgrymu i gefnogaeth Fianna Fail chwalu tros y misoedd diwethaf, gyda'u cefnogaeth yn mynd i pob cyfeiriad. Y cwestiwn diddorol ydi beth sydd yn digwydd nesaf? - a wnaiff a model chwalu am byth gyda gwleidyddiaeth Gwyddelig yn cymryd y ffurf De / Chwith sy'n fwy cyffredin yn Ewrop? Er mwyn i hyn ddigwydd byddai'n rhaid i'r Chwith Gwyddelig, sydd wedi ei hollti i sawl cydadran gwahanol, weithredu mewn ffordd gweddol gydlynus, naill ai fel gwrthblaid neu (yn llai tebygol o lawer) fel llywodraeth. Os na ddigwydd hyn, gallai'r hen fodel ail ymddangos - mewn ffurf diwygiedig.
Mae yna rhywbeth yn ddigon tebyg am yr etholiadau yng Nghymru a'r Alban - y cwestiwn ydi os ydym yn mynd yn ol i'r dyfodol fel petai. Hynny yw os y byddwn yn dychwelyd at lywodraethau Llafur. Llywodraeth Llafur / Plaid ydi'r un yng Nghaerdydd wrth gwrs, a bydd Llafur yn gobeithio mynd yn ol i'r sefyllfa 2003 - 2007 lle'r oeddynt yn rheoli ar eu pennau eu hunain. Mae hynny'n anodd - ond mae'n sicr yn bosibl.
Mi fyddan nhw hefyd yn gobeithio ennill grym yn yr Alban. Mae'n anodd dychmygu y byddant yn mynd yn ol i glymblaid efo'r Lib Dems oherwydd amgylchiadau yn San Steffan, ond mae yna pob tebygrwydd o lywodraeth leiafrifol Llafur (mae'n anodd iawn cael mwyafrif llwyr yn yr Alban). Mi fydd llywodraeth leiafrifol Lafur yn llai sefydlog na'r un SNP, ac mi fyddai yna gryn dipyn o wrth daro am flynyddoedd.
Mi fyddai'n anffodus a dweud y lleiaf petai llywodraethau Caeredin a Chaerdydd yn mynd yn ol i rhywbeth tebyg i drefn cyn 2007 - mae'r llywodraethau o dan ddylanwad y cenedlaetholwyr wedi bod yn fwy effeithiol, mwy creadigol a mwy arloesol na'r rhai blaenorol. Mae'r rhagolygon o osgoi mynd yn ol i'r gorffennol yn well yng Nghymru nag yw yn yr Alban.
Mi fyddaf i yn pleidleisio Ia yn y refferendwm AV, ond 'dwi ddim yn meddwl y caiff y cynnig ei dderbyn. Bydd gwleidyddiaeth ehangach yn amharu ar y canlyniad - bydd cefnogwyr Llafur yn pleidleisio Na er mwyn rhoi cic i'r llywodraeth, a bydd llawer o Doriaid yn pleidleisio Na am nad ydyn nhw'n hoffi unrhyw newid cyfansoddiadol o unrhyw fath. Dyna ydi'r broblem efo refferenda - mae pobl yn pleidleisio yn aml gyda materion ag eithrio'r un dan sylw yn eu meddyliau.
Ac yn eironig ddigon bydd y ffaith etholiadol yma yn gwneud pleidlais Ia yn llawer mwy tebygol ar Fawrth 3. Mae lliw gwleidyddol y llywodraeth yng Nghaerdydd mwy at ddant y rhan fwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd nag ydi lliw gwleidyddol y llywodraeth yn San Steffan. Bydd hyn yn effeithio ar y canlyniad, ac oherwydd y ffaith yma rwy'n llawer mwy hyderus bellach mai Ia fydd yr ateb nag oeddwn chwe mis yn ol.
No comments:
Post a Comment