Sunday, December 27, 2009

Llanelli, Castell Nedd a Cheredigion

Mae yna ychydig o drafodaeth wedi bod ynglyn ag etholaethau Llanelli, Castell Nedd a Cheredigion ar dudalen olaf fy mlog ar yr ods betio, gydag un neu ddau yn gweld yr ods hynny yn rhyfedd.

Mae Hogyn o Rachub yn nodi nad ydi'r bwcis yn anghywir yn aml. Mi fyddwn i'n tueddu i anghytuno - yn arbennig rai misoedd cyn etholiad. Yn aml does yna ddim llawer o bres wedi ei fetio bryd hynny, a mympwy'r bwci sy'n gyrru prisiau ar y cychwyn. Fel mae'r etholiad yn dynesu bydd mwy o bres yn cael ei fetio - a phan mae hynny'n digwydd, mae'r ods yn mynd yn fwy 'cywir' wedyn. Neu mewn geiriau eraill, os ydych eisiau gwneud pres yn betio, betiwch yn gynnar.

Reit, mi gawn ni olwg frysiog iawn ar y dair etholaeth.

Castell Nedd:

Mae'r 4/1 ar Blaid Cymru yn ymddangos yn ddigon crintachlyd ag ystyried bod gan Peter Hain 12,700 (35.5%) o fwyafrif a bod Llafur wedi gwneud yn gymharol dda yn yr etholiadau lleol yn yr ardal, ac hefyd wedi dod yn gyntaf ar lefel Cynulliad ac Ewrop. Adlewyrchiad o'r ffaith bod Peter Hain wedi colli blots mawr o inc ar ei lyfr llawysgrifen ydi hynny mae gen i ofn. Bu mewn perygl o fod o flaen ei well wedi'r smonach efo'i ymgyrch drychinebus am is arweinyddiaeth ei blaid. Wnaeth ei ymgais i hawliau treuliau ar ddau dy fawr o les iddo chwaith, ac mae yna nifer o ddigwyddiadau bach eraill, fel hwn er enghraifft, wedi codi yn ddiweddar. Go brin y bydd Hain yn colli, ond dwi'n mawr obeithio y bydd Alun Llywelyn yn rhoi ychydig o fraw iddo - ac yn gosod ei hun mewn safle da i gymryd y sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011.

'Dwi yn meddwl bod ods y bwcis ychydig allan ohoni yn achos Ceredigion. Rydym eisoes wedi edrych sut mae'r etholaeth wedi dechrau ymdebygu i un o tribal head counts Gogledd Iwerddon. Serch hynny mae'n ymddangos i mi bod y ffaith i'r Blaid guro'r Lib Dems yn eithaf hawdd dair gwaith ers 2005 (Cynulliad, Ewrop ac etholiadau lleol) a'r ffaith bod pleidlais Elin yn 2007 yn uwch nag un Simon yn 2005 yn awgrymu mai'r Blaid sydd ar y blaen. Byddwn hefyd yn ychwanegu hyn - roedd yn gryn gamp i'r Lib Dems gornelu cymaint o'r bleidlais gwrth Plaid Cymru yn 2005 a 2007, a dydi hi ddim yn amhosibl iddynt wneud hynny eto. Ond mi fydd yn fwy anodd yn wyneb symudiad Prydain gyfan tuag at y Toriaid. Mi fydd hon yn agos, ond mi fyddwn i'n hapusach o lawer yn betio ar y Blaid ar 5/6 na'r Lib Dems.

Mae'r Blaid hefyd wedi curo Llafur dair gwaith ers 2005 yn Llanelli. Serch hynny mae Llafur yn ffefrynnau clir yn ol y bwcis (1/2 i 6/4). Ag ystyried bod bwlch o 7,000 a bod y Blaid angen gogwydd o tros i 10% mae hyn yn ymddangos yn weddol rhesymol. Ond mi fyddwn i'n ychwanegu un pwynt bach, mi ddaru Llafur yn well yn Llanelli yn 2005 nag a wnaeth mewn nifer o'r etholaethau o'u cwmpas - wna i ddim cweit galw'r peth yn blip, ond mae yna elfen o hynny. Mae pob dim wedi mynd a'i ben iddi iddynt yn yr etholaeth ers hynny. Mi fydd yna ogwydd sylweddol tuag at y Blaid y flwyddyn nesaf yn Llanelli, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn agos at 10%. Etholwyd Cynnog Dafis yng Ngheredigion yn sgil mwy o ogwydd o lawer yn 92.

5 comments:

James Dowden said...

Efallai y bydd Pontypridd yn fwy ddiddorol na Chastell-nedd.

Cai Larsen said...

Pwy sy'n sefyll yno?

Hogyn o Rachub said...

Oes gan Alun Llywelyn beiriant amser tybed?

Cai Larsen said...

Mi'r oedd Alun yn y coleg efo fi ers talwm er fy mod yn 'nabod ei frawd Iolo ychydig yn well.

Doedd gan y naill na'r llall beiriant amser bryd hynny hyd y gwn i, er y byddai peiriant felly yn ddefnyddiol iawn i rhywun sydd a diddordeb mewn betio.

Mi'r oedd gan Iolo hen got Parka roedd mor hoff ohoni nes ei fod yn cysgu ynddi pan oeddwn yn ei adnabod yn gyntaf, ond mi ddiflanodd honno yn fuan wedi i Lillian ymddangos.

Hwyrach bod ganddi hi beiriant amser yn rhywle.

Unknown said...

Dyma gyfeiriad gwefan Myfanwy Davies sy'n sefyll dros y Blaid yn etholaeth Llanelli - http://www.myfanwydavies.org/