Sunday, December 06, 2009

Pam ei bod yn bwysig i'r gwahaniaeth rhwng cefnogaeth Llafur yng Nghymru a Phrydain barhau i erydu?


Mi soniais yr wythnos diwethaf bod y Toriaid yn cael trafferth i gyrraedd 40% yn y polau piniwn. Mae yna ddau bol heddiw yn eu rhoi nhw ar union 40%. Gweler yma ac yma.

Nodwedd arall o'r ddau bol ydi eu bod yn rhoi Llafur yn is na 30%. Mae cyfres hir o bolau diweddar wedi cyflwyno'r neges yma. Byddai'n gryn syndod i mi petai Llafur yn profi'r polau yn anghywir ac yn curo 30% yn etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Petai Llafur yn cael llai na 30%, byddai'n ddigwyddiad tra anarferol - mwy anarferol o lawer nag i blaid ennill etholiad cyffredinol gyda llai na 40% o'r bleidlais. Yn wir nid yw Llafur ond wedi cael llai na 30% dros Brydain mewn etholiad cyffredinol unwaith ers 1922 - yn 1983. Roedd yr etholiad hwnnw yn eithriadol ar sawl cyfri - roedd yn dilyn Rhyfel y Malfinas, roedd arweinydd Llafur - Michael Foot yn gwbl anerbyniol i gydadran sylweddol o'r etholwyr ac roedd Llafur newydd hollti i lawr y canol gan adael i blaid newydd yr SDP ddod i fodolaeth. 27.6% oedd canran Llafur tros Brydain y tro hwnnw, ond roedd eu perfformiad yng Nghymru yn fwy parchus - 37.5%.

Mae'r 10% o wahaniaeth rhwng canran pleidlais Llafur yng Nghymru a Phrydain yn edrych yn dda o safbwynt y Blaid Lafur Gymreig, ond roedd gwell i ddod. Yn 1987 cawsant 45.1% o gymharu a 30.8% ym Mhrydain ac yn 1992 gwnaethant yn well eto gan sgorio 49.5% o gymharu a 34.2% tros Brydain. Ag ystyried mai'r Cymro, Neil Kinnock oedd yn arwain y blaid yn 87 a 92 gellir priodoli maint y gwahaniaeth i falchder lleol / cenedlaethol. Mae'n wir ei bod yn gyffredin i Lafur sgorio tua 10 pwynt canranol (ceir amrediad o 7% i 12%) yn uwch yng Nghymru nag ym Mhrydain, ond roedd y 15 pwynt o wahaniaeth yn 87 a 92 yn anarferol iawn - er i'r Blaid Lafur Gymreig wneud yn eithaf da yn 1997 o dan arweinyddiaeth Tony Blair gyda 11.6% o wahaniaeth (54.8% i 43.2%).

Ers hynny mae'r gwahaniaeth wedi bod yn isel wrth safonau hanesyddol - tua 7% (41.41% i 48.6% yn 2001 a 42.7% i 35.3% yn 2005). Mi fyddwn yn disgwyl i'r bwlch yma gau eto y flwyddyn nesaf (mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod y bwlch yn parhau i gau - roedd y gwahaniaeth yn etholiadau Ewrop yn is na 5%, ac roedd y pol Cymreig YouGov yn awgrymu rhywbeth tebyg).

Felly mae'n rhesymol i gasglu y bydd Llafur yng Nghymru yn cael llai na thraean o'r bleidlais os ydi'r blaid ym Mhrydain yn cael y tua 28% mae'r polau yn ei awgrymu ar hyn o bryd. Mi fyddai hyn yn dir newydd o ran cefnogaeth Llafur yng Nghymru. Y tro diwethaf (a'r unig dro ers 1918) iddynt gael llai na 40% oedd yn 1983. Roedd y Blaid Lafur Gymreig yn rhyfeddol o effeithiol yn ad ennill y tir a gollwyd tros y bymtheg mlynedd ddilynol.

Y sialens i Blaid Cymru fydd sicrhau nad yw hanes yn ail adrodd ei hun, a bod y bwlch hanesyddol rhwng pleidlais Llafur yng Nghymru a Phrydain yn parhau i erydu, ac yn wir ddiflanu. Ar un ystyr, y bwlch pharhaol hwn ydi un o'r rhesymau pam bod Llafur yn apelio at lawer o bobl yng Nghymru, a pham eu bod yn eu hystyried yn y blaid Gymreig. Dyna pam, er gwaethaf bod Llafur yn debyg i ni ar sawl golwg, er gwaethaf ein bod mewn clymbaid efo nhw, mai difa'r canfyddiad ohonyn nhw fel y blaid sefydliadol Gymreig ydi prif dasg Plaid Cymru yn y tymor byr - y cam pwysicaf ar y llwybr at ddemocratiaeth Gymreig gyflawn.

3 comments:

Anonymous said...

fydd yn bwysig i'r Blaid hefyd sylwi fod yr etholwyr yn symud yn raddol i'r dde. Nid ar bob pwnc ac nid i'r dde gyfalafol chwaith ond yn sicr ar rai pynciau i'r dde 'wladwriaethol' os gellid bachu'r fath beth.

Mae angen i'r Blaid ddatlygu naratif o son am broblemau gwrth-cymdeithasol gyda'r polisiau asgell chwith call fyddai'n rhoi trefn ac balans yn ol i bobl gyffredin ac allan o ddwylo y City etc. Byddai agenda o drafod materion gwrth-gymdeithasol (dydy hynny ddim yn golygu mynd i default daily Mail fel mae nifer o bleidwyr yn credu) + yr angen am genedl wladwriaeth gref i amddiffyn swyddi ac yn enwedig gwneud elw o adnoddau craidd cyfeothog Cymru (dwr) yn naratif gref.

Y peerygl i'r Blaid yw ei bod hi'n mynd am y default soft left di-ddim.

Dydy'r cyhoedd ddim yn trystio'r dde gyfalafol ... na'r chwith draddodiadol. Mae'n rhaid i'r Blaid ffeindio ffordd o fynegu rhywbeth sy'n amgen na hynny.

menaiblog said...

Dwi ddim yn meddwl dy fod yn bell iawn o dy le.

Anonymous said...

Thanks tο my fatheг whо stated
to me οn thе topіc of this website,
this webpage is genuinelу amazing.
Look at my weblog : www.senioretgay.fr