Ychydig iawn o arwyr go iawn sydd gan Gymru - wel ers dyddiau Owain Glyndwr beth bynnag. Beth dwi'n ei olygu efo arwyr go iawn ydi pobl lle nad oes yna unrhyw amheuaeth o gwbl am eu dewrder moesol, ysbrydol a chorfforol. Waeth i ni wynebu'r peth 'dydan ni ddim fel yr Iwerddon yn hyn o beth - mae ganddyn nhw lawer iawn o arwyr, a dweud y gwir mae ganddynt lawer mwy nag ydynt eu hangen nag yn wir eu heisiau.
Ond mae'n dda gen i ddatgan i'r genedl bod y bwlch trist yma'n cael ei lenwi fel 'dwi'n 'sgwennu'r ychydig eiriau hyn. Son ydw i wrth gwrs am y criw bach o bobl fydd yn gadael sylwadau ar flog Gwilym Euros (gellir gweld rhai o'u sylwadau yma, yma, yma ac yma enghraifft). Mae'r doethinebu yma'n ofnadwy, ofnadwy o ddewr - maen nhw'n galw eu gwrthwynebwyr gwleidyddol yn fradwyr dragwyddol. Maen nhw hefyd o bryd i'w gilydd yn galw ar pob cynghorydd sy'n pleidleisio yn groes i Lais Gwynedd i ymddiswyddo, i aelodau o'r cyhoedd sy'n dadlau'n groes i safbwyntiau LlG gael eu diswyddo tra'n egluro'r ffaith nad ydi eu gwrthwynebwyr yn cytuno efo LlG yn nhermau problemau iechyd meddwl, problemau deallusrwydd, diffyg moesau neu gefndir ethnig anaddas neu oedran ar ran y cyfryw wrthwynebwyr. 'Dydi'r hogiau (neu'r genod) ddim wedi cweit magu'r dewrder i roi eu henwau wrth eu sylwadau eithafol a gwrth ddemocrataidd eto, ond dyna fo, fedran ni ddim cael pob dim.
Mae'n hawdd chwerthin ar ben nifer o'r cyfraniadau amrwd ar y blog, ac mae'n hawdd crechwenu wrth feddwl am bobl sy'n ystyried eu bod yn ddewr am ddweud pethau mawr yn ddi enw ar dudalen sylwadau blog, ond mae ochr ddifrifol i'r peth i gyd os ydi rhywun yn aros i feddwl am funud. Mae gan yr agwedd yma at wleidyddiaeth - y gred bod methiant i gydymffurfio a'ch barn chi yn deillio o broblemau meddyliol, moesoldeb isel, typdra neu gefndir ethnig anaddas - hanes hir wrth gwrs. I unrhyw un sy'n meddwl bod y math yma o beth yn dderbyniol mewn ymgom wleidyddol byddwn yn awgrymu eu bod yn darllen The Gulag Archipelago gan Solzhenitsyn neu fynd i weld cynhyrchiad o feirniadaeth feistrolgar Arthur Miller o ymysodiadau McCarthy ar werthoedd democrataidd America - The Crucible. Yno, mae gen i ofn mae pen draw eithafol methiant i dderbyn bod gan bawb hawl i'w farn, a hawl i fynegi'r farn honno.
Mi fyddai dyn yn gobeithio ein bod ni'n symud i gyfeiriad mwy democrataidd, cynhwysfawr a goddefgar erbyn heddiw - a dwi'n siwr ein bod ni. Ond mae'n drist gweld yr hen agweddau yma'n dod i'r wyneb o bryd i'w gilydd drachefn.
Peidiwch a fy ngham ddeall i - dwi'n credu 100% yn yr hawl i ymosod ar wleidyddiaeth eraill - mae'r blog yma'n dystiolaeth o hynny, fel mae'r ffaith fy mod yn cyhoeddi pob ymysodiad ar fy ngwleidyddiaeth sy'n ymddangos ar y blog cyn belled nad yw'n enllibio neb.
Y broblem ydi pan mae yna bobl yn credu nad oes gan eraill hawl i farn wleidyddol sy'n wahanol i un nhw eu hunain. Dyna sy'n gallu gwenwyno gwleidyddiaeth a gwneud prosesau democrataidd yn aneffeithiol. Dydi parch personol tuag at eraill ddim yn angenrheidiol er mwyn i werthoedd democrataidd ffynnu (er ei fod yn help) - ond mae parch tuag at yr egwyddor bod pobl eraill efo hawl i farn amgen yn angenrheidiol.
5 comments:
Gyda phob diwrnod dwi'n ei dreulio fel aelod o Gyngor Gwynedd, mae fy nghalon yn suddo rhyw ychydig bach. Dim ond symptom o afiechyd llawer iawn dyfnach yw'r math o sylwadau sy'n cael eu gadael ar flog Gwilym, a'r math o wleidyddiaeth sydd yn cael ei arddel gan Lais Gwynedd. Y mae populism amrwd, a gwleidyddiaeth y mob yn tyfy yn ddyddiol yng Ngwynedd, ac mae yn bygwth ein harwain ni lawr llwybr tywyll iawn.
Fel arfer does dim ymateb teilwng i'r edefyn nac i sylwadau Dyfrig ond...tyfwch fynnu hogia ;-))
Derbyniawch y ffaith fod yna Plaid ar y Cyngor sydd yn barod i'ch herio ac i ddangos chi am y methiant yr ydych ac bod y pobl bellach yn eich gweld yn union be ydych chi....a parhau i wneud hynny wnawn ni ar pob cyfri posib gan mai dyma mae'r Etholwyr yn disgwyl i ni wneud.
Mae darllen eich blogiau a sylwadau eich darllenwyr yn ddoniol ac mor rhagrithiol fedrai ddim stopio chwerthin.
Diolch i'r drefn fod Llais Gwynedd yn cynnig canwyll o obaith i pobl Gwynedd gan fod eich Plaid chi wedi cefnu arnynt yn bell yn ol.
Safonau dwbwl a brad ein cymunedau a'i yw mantra Plaid Cymru bellach ac mae'r ddau ohonoch yn llys genahdon perffaith i achos Llais Gwynedd. Daliwch ati ar pob cyfri!
Diolch Gwilym.
Efallai y gallet gyfieithu dy sylwadau i Gymraeg gweddol ddealladwy er mwyn i mi gael ceisio ymateb.
Gyda llaw mi gei di geisio ymateb i grynswth y blogiad os ti eisiau - dwi ddim yn meindio.
A chdi sy'n cwyno fy mod i'n bod yn bersonnol Cai?
Mae dy ymateb i sylw Gwilym yn nawddoglyd ac yn esiampl berffaith o dy ddull trahaus o ddadlau (nodweddiadol o ddirmyg dy blaid yng Ngwynedd tuag at y boblogaeth ond mater arall ydi hynny).
Yn hytrach na thrio ateb sylwedd sylwadau Gwilym ti'n chwarae'r dyn gyda sylw digon uchelael fyddai'n nodweddiadol o athro ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
Dwi hefyd yn dotio at y modd yr wyt ti a Dyfrig (ers ei droedigaeth) oedd yn arfer bod yn elynion ciaidd o fewn Maes E bellach yn gytun ar ddau bwynt;
Plaid Cymru = da a pherffaith
Llais Gwynedd = drwg iawn
Pawb Arall = drwg (OK tydi Dyfrig ddim yma eto ond fydd hi'n fawr o dro 'na fydd?).
Yn y bon dyma yw naratif gwleidyddol dy flog. O am fod wedi cael bywyd mor gysgodol y byddwn yn gallu gweld y byd mewn termau mor hynod syml a diniwed.
A, batio i Lais Gwynedd unwaith eto.
Dydi'r sylw ddim yn bersonol Guto - mar Gwilym wedi gwneud sylw brysiog (rfallai yn ei dymer, efallai ddim) ac mae'n anodd ymateb iddo gan nad yw'n glir beth yn union mae'n ei ddweud, a sut mae hynny'n perthnasu i'r blogiad ar y dudalen flaen?
Dyfrig a fi - gwrthwynebu'n gilydd? - siwr o fod, rydan ni'n dal i wneud. Ciaidd? Go brin. Mae gen ti well cof na fi.
Post a Comment