Tuesday, December 01, 2009

Addysg Feithrin a strategaeth ryfeddol Llais Gwynedd


'Dwi'n sylweddoli bod mwyafrif darllenwyr y blog yma'n byw y tu allan i Wynedd, ond blogiad bach ar wleidyddiaeth pwmp y plwyf ydi hwn eto mae gen i ofn - felly ymddiheuriadau i'r rheiny ohonoch sy'n byw y tu allan i'r Sir.

Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod y ffordd mae Llais Gwynedd wedi bod yn ymateb i rai o broblemau diweddaraf Cyngor Gwynedd wedi ymylu ar y bisar. Mae hyn wedi bod yn wir am eu llythyrau i'r wasg, eu gwleidydda yn siambr y cyngor yn ogystal a'u gwleidydda ar y We. Mi arhosaf, er mwyn eglurder efo un agwedd ar un ffurf o wleidydda'r grwp, sef blog Gwilym. Serch hynny mae'r un pwyntiau sy'n codi yma yr un mor wir am wleidydda ehangach Llais Gwynedd. 'Dydw i ddim eisiau pigo ar Gwilym fel petai.

Prif broblem Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd ydi'r posibilrwydd o doriadau o hyd at £16 miliwn tros y tair blynedd nesaf. Mae'r cyngor wedi creu strategaeth i fynd i'r afael a hyn, sef gofyn i benaethiaid pob adran chwilio am doriadau posibl yn eu hadrannau a chyflwyno'r rheiny i'r haenen etholedig fel y gallai'r rheiny ddod i gasgliadau ynglyn a pha doriadau sy'n dderbyniol, a pha rai na ddylid ymgymryd a nhw.



Fel rydym wedi trafod eisoes sawl gwaith, mae Gwynedd yn anarferol yn y ffordd mae'n cael ei llywodraethu yn yr ystyr bod 'clymblaid' sy'n cynnwys pob un o'r pleidiau yn llywodraethu. Mae Llais Gwynedd yn rhan o'r glymblaid yma, ac mae ganddynt ddau gynrychiolydd ar Fwrdd Rheoli'r cyngor - y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, a Gwilym ei hun. Mae ganddynt hefyd eu siar priodol o gadairyddiaethau pwyllgorau ac ati. Roedd y penderfyniad i ofyn i benaethiaid adrannau am restr o doriadau posibl yn unfrydol.

Aeth yr adrannau ati i ddod o hyd i doriadau posibl, a chyflwynwyd rhestr gan pob adran. Roedd y rhestr yn faith, ac yn amrywiol gyda rhai cynigion yn gynhenus iawn ac eraill yn rhai na fyddai neb llawer yn eu hystyried yn broblem. Roedd ymateb Gwilym ar ei flog i rai o'r posibiliadau oedd yn cael eu cynnig yn ymylu ar fod yn rhyfeddol.

Er enghraifft yn y blogiad yma mae'n honni bod y posibiliadau mwyaf cynhenus a gyflwynwyd gan y penaethiaid - torri ar y grantiau i'r Mudiad Meithrin a'r Trydydd Sector er enghraifft - yn doriadau oedd yn perthyn yn benodol i un o'r pum grwp sy'n rhedeg Cyngor Gwynedd - Plaid Cymru wrth gwrs. 'Dydi o ddim yn trafferthu egluro pam bod y posibiliadau hynny'n rhai sy'n ymwneud yn benodol a Phlaid Cymru yn hytrach nag i'r grwp Llafur, neu Lais Gwynedd er enghraifft, ond mae'n dweud rhywbeth neu'i gilydd am Einstein, y canwr poblogaedd Trebor Edwards, a chi o'r enw Siep.

Mae'r blogiad yma hyd yn oed yn fwy arall fydol - ymddengys ei fod yn ystyried rhai o'r cynigion - rhai mae o ei hun ynghyd a gweddill aelodau'r cyngor wedi gofyn amdanynt - yng nghyd destun strategaeth (sy'n bodoli yn nychymyg Gwilym yn unig) ehangach gan Blaid Cymru o ymosod ar hawliau merched yn y gweithle.

Beth bynnag, cyflwynwyd y cynigion i sylw'r cynghorwyr, cafwyd cyfleoedd i roi ystyriaeth fanwl i oblygiadau gweithredu pob un ohonynt a chyflwynwyd adroddiad gan swyddogion y cyngor oedd yn cynnig argymhellion a fyddai'n arbed bron i £11m tros y tair blynedd. 'Doedd llawer o'r toriadau mwyaf cynhenus dim yn gynwysiedig - fel roedd bron i bawb yn rhagweld - oherwydd na fyddent yn dderbyniol i'r haenen etholedig. Mewn geiriau eraill roedd y broses wedi gweithio fel y bwriadwyd iddi weithio.Ychydig cyn cyflwyno'r adroddiad hwnnw gwnaed cynnig gan grwp Plaid Cymru i amddiffyn addysg feithrin yng Ngwynedd. Mae'n anodd gen i feddwl am air mwy addas na afresymegol i ddisgrifio ymateb Gwilym i'r cynnig hwnnw.

Mae'n honni i arweinydd y Cyngor, Dyfed Edwards ddadlau'n gryf o blaid y toriadau yn y grant meithrin - ac yn darparu linc i 'brofi' hynny. Ond yr unig beth sydd y tu ol i'r linc ydi erthygl yn nodi bod Dyfed Edwards yn amddiffyn y broses oedd wedi ei chytuno gan y cyngor ac yn egluro na fyddai pob un o'r cynigion yn cael eu gweithredu. 'Does yna ddim ymdrech o unrhyw fath i ddadlau y dylid torri'r grant i addysg feithrin. Wedyn mae'n mynd ati i ddweud bod y cynnig yn pathetic attempt to save face er ei fod o ei hun (dwi'n credu) yn cytuno efo'r cynnig - felly mae ymdrech i amddiffyn addysg feithrin yn pathetic attempt to save face pan mae'n dod o gyfeiriad rhywun arall, ond yn fater egwyddorol pan y daw o'i gyfeiriad ei hun. Wedyn mae'n mynd ati i gyfeirio at fater cwbl anghysylltiedig y cynllun i ail strwythuro ysgolion yn ardal Tywyn.

Yn y cyfamser roedd Dyfed Edwards a Liz Saville (deilydd portffolio addysg y sir) wedi cyfarfod a'r Mudiad Ysgolion Meithrin yn lleol ac yn genedlaethol i edrych ar yr holl faes. O ganlyniad mae syniad newydd, sef gweithio ar Strategaeth Feithrin i Wynedd i gael ei gweithredu. Dim sgrechian, dim strancio, dim gweiddi ar bawb, dim gweld bai ar wrthwynebwyr gwleidyddol ond gweithio'n dawel yn y cefndir er mwyn lles y sir. Some people protest, others govern.

Rwan mae'r ymateb eithriadol yma i un agwedd ar fywyd y cyngor yn nodweddiadol o ymateb Llais Gwynedd i lawer o fywyd a gwaith y cyngor - ymateb sy'n cael ei nodweddu gan ddealltwriaeth rhannol o pob dim sy'n digwydd, dealltwriaeth sydd pob amser yn gweddu i naratif Llais Gwynedd o Blaid Cymru ddiafolaidd a Llais Gwynedd sanctaidd - mi fyddwn i'n ei disgrifio fel strategaeth smalio bod yn ddwl.

No comments: