Thursday, December 24, 2009

Mae sawl ffordd o gael Phil i'w wely

Mae yna drafodaeth wedi bod ynghynt yn yr wythnos ar y blog hwn sydd yn anuniongyrchol yn ymwneud y phleidleisio tactegol, ac mae'r ddadl wedi ei datblygu yn ffau'r Hen Rech Flin. Wna i ddim ailadrodd yn fanwl sylwadau Alwyn, na fy ymateb i - gallwch edrych yma os oes gennych ddiddordeb.



Ers ymateb i Alwyn fodd bynnag 'dwi wedi bod yn rhyw g'noi cil ar y mater tra'n gwneud fy siopa 'Dolig munud diwethaf. Prif bwynt Alwyn ydi y byddai'n rheitiach ymosod ar Lafur mewn sedd fel Aberconwy nag ar y Toriaid. 'Rwan mae'n rhaid i mi gyfaddef bod Alwyn gyda llawer mwy o brofiad na fi o wleidydda mewn etholaeth lle mae pleidleisio tactegol yn bwysig. Serch hynny mi fyddwn yn gofyn os ydi'r syniad y dylai'r blaid sydd yn ail neu'n gyntaf dreulio gormod o amser yn ymosod ar y blaid sy'n bedwerydd neu'n drydydd, yn syniad da?

Fel 'dwi'n sgwennu hyn mae gen i bamffled etholiadol o etholaeth Canol Caerdydd o fy mlaen sy'n perthyn i'r Lib Dems - pencampwyr y bleidlais dactegol. Y Lib Dems sy'n dal y sedd gyda thua hanner y bleidlais gyda Llafur yn ail gyda thraean. Mae Plaid Cymru a'r Toriaid yn is na 10%. Mae'n amlwg bod rhan o'r bleidlais Lib Dem yn hen un Doriaidd - nhw sydd wedi dal yr etholaeth am gyfran helaeth o'i hanes. Yn y pamffled ceir ymysodiadau ar Lafur, brolio'r Lib Dems a dim gair am y Toriaid ag eithrio'r graffiau arferol, ods bwcis a chanlyniadau lleol i 'brofi' nad oes ganddynt obaith mul o ennill.

Y strategaeth yma yn amlwg ydi peidio ag ypsetio pobl sy'n gogwyddo tuag at y Toriaid trwy ymosod arnynt - dim ond eu hanwybyddu a honni nad oes ganddynt obaith ac mai'r unig ffordd o gadw Llafur allan ydi trwy roi fot i'r Lib Dems. Mae'r lled Bleidwyr a'r lled Doriaid yn siwr o fwynhau'r ymysodiadau ar Lafur yn fawr iawn.

Ydi hyn yn cyfieithu i sefyllfa fel un Aberconwy - hynny yw ymosod ar y Toriaid, ond dweud dim am Lafur a'r Lib Dems ag eithrio nad oes ganddynt obaith? A dweud y gwir 'dwi ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw - ond mae barnu'r math yma o beth yn gywir yn aml yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli etholiad.

Nid dweud bod Alwyn yn anghywir ydw i - dim ond codi'r cwestiwn.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Mae'n annhebygol iawn y bydd Llafur yn dal gafael ar etholaeth Aberconwy. Ar wahân i drafferthion Llafur ar lefel Prydeinig mae gan y blaid yn lleol trafferthion ychwanegol yn yr etholaeth. Dyw'r AS cyfredol heb wneud fawr ddim dros ei hetholwyr yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ac ers iddi gyhoeddi ei bwriad i sefyll lawr rhai misoedd yn ôl mae hi bron a bod wedi diflannu. Mae'r ymgeisydd Llafur yn ddyn amhoblogaidd iawn ymysg rhai carfanau o'i blaid yn lleol, yn wir roedd rhai o'i gyd gynghorwyr Llafur yn dymuno iddo gael ei ddiarddel o'r blaid ar ôl etholiadau cyngor 2008. Mae selogion Llafur yn yr etholaeth yn hynod ddigalon ac yn dangos diffyg brwdfrydedd arw parthed yr etholiad. Ond er gwaethaf hyn oll gwirion bydda anwybyddu Llafur ar y sail nad oes modd iddi ennill yma, mae'r ffaith iddi guro tair gwaith yn olynol yn brawf ei bod hi'n gallu ennill yma.

Tal hi ddim i Guto curo Phil ond methu cipio'r sedd a thal hi ddim i'r Blaid curo'r Ceidwadwyr heb guro Llafur hefyd, perygl y dacteg o gael brwydr etholiadol rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn unig yw y bydd hi'n rhoi ymgyrch esmwythach i'r Blaid Lafur nac y mae hi'n haeddu a chaniatáu iddi sleifio i mewn eto yn gwbl di haeddiant.

Cai Larsen said...

Fel ti Alwyn, dwi ddim yn meddwl bod gan Lafur obaith yn Aberconwy (na gweddill y Gogledd Orllewin), a fyddan nhw ddim yn sleifio i mewn.

Y cwestiwn yn y bon ydi hwn Alwyn - sut mae gwneud y mwyaf o niwed i Lafur yn Aberconwy, ymosod arnyn nhw ta'u hanwybyddu ag eithrio i ddweud wrth bawb nad oes ganddynt unrhyw obaith ac mai'r ffordd i gadw'r Ceidwadwyr allan ydi trwy fotio i'r Blaid?

Dydi ateb y cwestiwn ddim yn un hawdd.