Tuesday, December 15, 2009

Aled, Paul ac Emmet

Ond tydi'r Bib yn dda dywedwch efo'i draddodiad o newyddiadura eofn, prydlon a chywir?

Roedd hi'n arbennig o dda deall felly bod blog Vaughan - sydd bellach yn nwylo Aled ap Dafydd - wedi dal i fyny a stori Paul Gogarty yn rhegi yn y Dail o'r diwedd. Roedd blogmenai yno o'i flaen wrth gwrs.

Yn wahanol i blogmenai roedd Aled rhy swil i gynnwys y fideo ar y blog, na hyd yn oed gynnig linc - mi awgrymodd ein bod yn chwilio ar y We am y digwyddiad. Ymddengys bod Aled hefyd rhy swil i edrych ar y fideo - mae'n honni mai dweud wrth y 'dirprwy lefarydd ble i fynd' wnaeth Paul. Dweud f*** you wrth Emmet Stagg oedd y dyn mae gen i ofn. Dyna pam mae'n dweud f*** you Deputy Stagg ddwywaith mae'n debyg.

Brendan Howlin ydi'r dirprwy lefarydd, nid Emmet Stagg - cyn weinidog sy'n perthyn i'r Blaid Lafur (a brawd yr ymprydiwr gweriniaethol Frank Stagg, a fu farw yng Ngharchar Wakefield yn 1976) ydi o. Petai'n cyfeirio at Howlin byddai'n ei alw'n Leas-Cheann Comhairle neu Leas-Cheann Comhairle Howlin, nid Deputy Stagg.

Fel y dywedais, eofn, prydlon a chywir.

No comments: