Wednesday, December 02, 2009

Mr Myll yn cael y myll unwaith eto

Fyddwch chi'n chwilio am rhywbeth am hir weithiau, ac yna'n dod o hyd iddo o dan eich trwyn?

Mi ddigwyddodd hynny i mi neithiwr. Roeddwn newydd ddarllen dau flogiad Gwilym yn dilyn ei gyfarfod Bwrdd Cyngor Gwynedd yn gynharach yn y diwrnod. Gellir eu gweld yma, ac yma. Am rhyw reswm fe'm tarodd bod yna rhyw debygrwydd rhwng Gwilym a Mr Angry - y dyn oedd pob amser mewn tymer ddrwg ar Mr Men ers talwm. Roedd Mr Angry druan mewn tipyn o stad yn barhaol - os oedd rheswm i fod mewn stad neu beidio. Decheuais feddwl beth oedd y gair Cymraeg am angry, a rhywsut neu gilydd fedrwn i ddim meddwl am yr union air - mae blin neu loerig er enghraifft yn cyfleu rhywbeth braidd yn wahanol i mi. Mae yna'r gair crac wrth gwrs, ond dydi hwnnw'n saff ddim yn dod yn naturiol i Ogleddwr fel fi.

Mr Myll

Ac wedyn cofiais am air sy'n rhan o fy nhafodiaeth fy hun (ochrau G'narfon) . Pan rydym yn dweud bod rhywun wedi colli ei dymer ac yn blagardio'n afreolus, byddwn yn dweud ei fod wedi cael y myll, neu ei fod yn myllio.

Wedi cael y myll braidd oedd Gwilym neithiwr mae gen i ofn. Yn ei gyfraniad cyntaf roedd yn bendant o'r farn i nifer o aelodau Plaid Cymru blymio 'dyfnderoedd newydd' oherwydd iddynt bleidleisio yn erbyn ei gynnig i anfon llythyr at Jane Hutt yn gofyn iddi am y £500 o wahaniaeth blynyddol sydd yna rhwng gwariant ar addysg plentyn yng Nghymru a chymharu a Lloegr. Mi wnawn osgoi'r demtasiwn o fynd ar ol y cwestiwn sut ei bod yn bosibl i rai o'r cyfryw aelodau blymio yn dyfnach yn nyfroedd dychymyg Gwilym? Maent ar waelod Ffos Mariana ers talwm.


Ta waeth, mae'r syniad o 'sgwennu'r ffasiwn lythyr yn ogleisiol o ddi niwed. Mae Ms Hutt, fel pob aelod arall o'r Cabinet wedi bod yn ymladd i gael sleisen fwy o'r deisen gyllidol i'w hadran hi ers iddi gael ei phenodi i'r swydd. Mae wedi methu i wneud hynny i'r graddau ei bod yn bosibl cau y bwlch efo Lloegr. Rwan, os na lwyddodd i gau'r bwlch yn ystod y dyddiau 'da', ydi Gwilym o ddifri yn meddwl y gall wneud hynny mewn cyfnod pryd bydd pob adran yn y Cynulliad yn derbyn toriadau sylweddol? Beth mae'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd - Jane yn cario'r llythyr mewn dwylo crynedig i'r stafell gabinet a dweud gyda'i llais yn torri- Look Andrew, you've no choice but to give us that couple of billion now, I've got his letter from Gwynedd signed by no one less than Gwilym Euros Roberts?


Y gwir syml ydi y byddai ganddo gystal cyfle o wireddu ei ddymuniad petai'n 'sgwennu at Jane yn gofyn iddi droi dwr Llyn Tegid yn win. Mae'n gwbl gyfiawn i'r gwariant fod yn gyfartal, ond yr unig ffordd effeithiol o sicrhau hynny ydi trwy gefnogi ymgyrch Plaid Cymru i ddiwigio fformiwla Barn. Mae ymddwyn fel Mr Myll oherwydd nad ydi rhywun yn fodlon cymryd rhan yn y gesture politics mwyaf arwynebol a'u cyhuddo o'r diawledigrwydd gwleidyddol mwyaf erchyll ers marwolaeth Pol Pot yn - wel - ddigri a bod yn onest.


Cyfaill Mr Myll

Ac wedyn fe gafodd y myll eto. Oherwydd ffrae ynglyn ag addysg feithrin roedd yn smalio bod wedi gwylltio y tro hwn. Chwi gofiwch na chymrodd Gwilym ddatganiad diweddar gan y Blaid yn cefnogi Addysg Feithrin yng Ngwynedd yn arbennig o dda. Y ddadl i'r graddau ei bod yn ddealladwy ydi bod Plaid Cymru yn gelwyddog oherwydd nad ydynt yn rhoi ysgolion meithrin yn yr un categori gweithredu na thoriadau arfaethiedig sydd ddim am gael eu gweithredu o gwbl. I Gwilym mae hyn yn golygu mai celwydd oedd datganiad y Blaid o gefnogaeth i'r sector meithrin, a bod ganddynt gynllwyn cudd i gau'r job lot (neu o leiaf dyna dwi'n meddwl mae'n ei ddweud - mae'n anodd dilyn). Mae'n debyg bod cyhuddiad o gelwydd yn llai difrifol na'r un o ddrygioni cyffredinol a diawledigrwydd am wrthod cymeradwyo ei lythyr i Jane Hutt, ond mae'n dal yn gryn gyhuddiad. Beth yn union sydd y tu ol i'r holl fyllio?

Mater technegol ydi'r categoreiddio yn y bon. Wrth ymateb i'r toriadau posibl dosbarthwyd y toriadau hynny i bedwar categori - toriadau sy'n mynd rhagddynt yn ddiymdroi, toriadau sy'n debygol o ddigwydd ond mae angen gwaith i asesu eu heffeithiadau, toriadau sydd ddim yn debygol o ddigwydd ond mae angen peth gwaith ar y gwasanaethau a thoriadau sydd ddim am ddigwydd. Mae addysg feithrin yn y trydydd categori a'r rheswm am hynny ydi bod y Cyngor a'r Mudiad Meithrin yn mynd i gyd weithio i wneud y gwasanaeth yn fwy effeithiol a chynaladwy.

Rwan mae hyn yn gwbl gyson efo datganiad y Blaid. Byddai rhoi'r sector yn y pedwerydd categori yn golygu na ellid cyd weithio efo'r Mudiad. 'Dydi hi ddim yn bosibl addo y bydd y swm fydd y Mudiad yn ei dderbyn yn union yr un peth nag yw heddiw, oherwydd ei bod yn bosibl y bydd deilliannau y strategaeth newydd yn arbed arian. Mae hefyd yn bosibl na fydd yn arbed llawer o arian - ond yr hyn sy'n eithaf sicr ydi bod y wasanaeth yn ddiogel.

Felly rydym mewn sefyllfa rhyfedd efo blog Gwilym - y lleiaf yr angen myllio, y mwyaf mae Gwilym yn myllio. Beth tybed ydi'r eglurhad am y paradocs rhyfedd yma?

Mae'r ateb yn eithaf syml ac wedi ei wreiddio yng ngwleidyddiaeth Llais Gwynedd - gwleidyddiaeth yr anterliwt.

Unig ideoleg Llais Gwynedd mewn gwirionedd ydi'r gred bach syml bod Plaid Cymru yn bobl sobor o ddrwg. Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn maent yn cael eu hunain yn gorfod crafu am dystiolaeth amheus iawn ac atgyfnerthu'r dystiolaeth wan honno trwy weindio eu hunain i fyny am rhywbeth neu'i gilydd nes eu bod wedi gwylltio'n gacwn. Bron cymaint a Mr Angry gynt.

5 comments:

Anonymous said...

Diolch Blogmenai am hanesion Mr Myll ond gair o gyngor - ond myn brain i, paid bod mor hirwyntog. Os oes gen ti rhywbeth i'w ddweud dwed e'n gryno. Mae amser byn brin.

Alwyn ap Huw said...

O ddarllen yr ymosodiadau plentynnaidd parhaus ar y blog hon yn erbyn pob dim mae Gwilym a Llais Gwynedd yn dweud neu'n gwneud gellir ymateb i'r post uchod trwy ofyn os mae Unig ideoleg Blog Menai mewn gwirionedd ydi'r gred fach syml bod Llais Gwynedd yn bobl sobor o ddrwg?

Llynedd danfonwyd llythyr o gŵyn i'r Cynulliad am y setliad sobor o wael a dderbyniwyd gan Cyngor Conwy, ar gais a gyflwynwyd gan gynghorwyr Plaid Cymru'r fwrdeistref. A'i hurtrwydd pobl wirion a chafodd y mwll oedd y llythyr hwnnw? Nag oedd siŵr! Mae Plaid Cymru yn cwyno i'r Cynulliad yn beth da, dim ond cwynion tebyg gan Lais Gwynedd sy'n ddrwg.

Cai Larsen said...

Dydw i ddim yn ymosod ar pob dim mae Llais Gwynedd yn eu wneud Alwyn. Ymosod ar eu tueddiad i gam gynrychioli'r gwir ydw i.

Os wnei di ddarllen fy mlogiadau diweddar ar y pwnc yn ofalus mi weli fy mod yn egluro sefyllfaoedd sy'n wynebu'r Cyngor yn fanwl (sori am fod yn hirwyntog anon), ac yn eu cyferbynu efo'r sefyllfaoedd hynny fel maent yn cael eu symleiddio a'u cynrychioli gan Ll G.

Os oes gen ti broblem efo hynny, does dim rhaid i ti ddarllen y blogiadau dan sylw, nag yn wir y blog ei hun.

Mi fyddwn hefyd yn tynnu dy sylw at y ffaith mai lleiafrif bach iawn o fy mlogiadau sy'n ymwneud a Ll G o gwbl.

Guto Bebb said...

Cyfraniad rhyfedd arall gan Cai ac mae HRF yn llygad ei le. Mae'r gwaith cyson Cai i amddiffyn ei Blaid Cymru annwyl yn erbyn pawb a phopeth yn awgrymu diffyg cyd-bwysedd gwleidyddol a dweud y lleiaf.

Ta waeth, at bwynt mwy difrifol. Mae Cai yn llwyr golli'r pwynt am y diffyg hwn o £500 a mwy y disgybl. Yn 1999 doedd y gwarged hwn ddim yn bodoli. Wedi deng mlynedd o Ddatganoli mae blaenoriaethau tair Llywodraeth y Cynulliad wedi gweld addysg yn cael llai o arian na'r angen oherwydd penderfyniadau bwriadol y Cynulliad.

Nid bai Plaid Cymru yw'r cyfan o hyn yn amlwg ond fel yn achos setliad llywodraeth leol yr oedd Plaid Cymru yn gwneud lot o swn am y diffygion hyn cyn dod yn rhan o lywodraeth ac bellach mae arch flogwyr y Blaid yn honni fod tynnu sylw at y diffygion hyn yn rhywbeth plentynaidd a hurt. Diffyg cysondeb fyddwn i'n ddweud ond dyna ni.

Ar lefel bersonnol dwi'n gweld effaith y diffyg hwn yn ysgol pedwar o'm plant (a chyn ysgol plant Cai). Er fod gan yr ysgol dan sylw bron 190 disgybl mae'r penderfyniad wedi ei wneud i golli un athro. Y mae hyn yn golygu y bydd fy merch yn gorfod rhannu grŵp oedran am y tro cyntaf gydag un blwyddyn yn cael ei rhannu ar sail pryd y ganwyd y plant (gan rannu ffrindiau ayb mae'n debyg). Yn achos yr ysgol dan sylw y mae 190 x £500 yn £95,000. Digon i gadw'r athro a chyflogi un neu ddau arall!

Rwan falle fod Cai yn gweld y peth yn blentynaidd ond i mi mae angen codi cywilydd ar y Cynulliad am eu blaenoriaethau. Cafwyd cynnydd o bron 100% yn nifer y swyddogion o fewn y Cynulliad o gymharu a'r Swyddfa Gymreig ond 'grant bloc' sy'n cyllido Cymru. Felly mae'r dewisiadau rhwng mwy o fiwrocratiaid a llai o athrawon yn fater o bolisi. Siawns bod ganddom hawl cwyno? Ond na, dim os yw Plaid Cymru yn rhan o'r gyfundrefn ym mae Caerdydd.

Difyr nodi hefyd fod Cadeirydd LLywodraethwyr yr ysgol dan sylw wedi codi ei law dros godiadau cyflog prif swyddogion Gwynedd (gan gynnwys dau brif swyddog y gwasanaeth addysg). (Y mae'n gynghorydd Plaid Cymru).

Agwedd Plaid Cymru?

Colli athro? = OK
Dosbarthiadau mwy? = OK

Cyflogau uwch i swyddogion oedd eisioes yn derbyn cyflogau o bedair a phum gwaith cyfartaledd Gwynedd? = ALLWEDDOL

Duw an helpo!

Cai Larsen said...

Diolch am y sylwadau Guto, ac mae’n dda dy weld di allan yn batio drachefn tros Lais Gwynedd.

Mae’n dda gen i allu cytuno efo elfennau o’r hyn rwyt yn ei ddweud, ac mae’n braf dadlau ar sail ffeithiau. Mae dy ddehongliad o’r ffeithiau hynny’n llai na di duedd fodd bynnag. Ti’n gwbl gywir bod yna £500 y pen o wahaniaeth mewn gwariant ar addysg yng Nghymru a Lloegr. Mi fyddwn i hefyd yn cytuno efo ti nad ydi hyn yn dderbynol.

Ti’n garedig yn nodi nad ar Blaid Cymru mae’r bai ‘i gyd’. Mi fyddwn i’n holi os oes yna fai ar Blaid Cymru o gwbl. ‘Dwi’n ddim yn disgwyl i ti fod a ffigyrau gwariant addysg ar flaenau dy fysedd a bod yn deg, ond mae’n ffaith bod y cynnydd mewn gwariant y pen yng Nghymru ar gyfer 2008 – 2009 yn 3.8% - yn union yr un peth a Lloegr. Cafodd y gwahaniaeth sylweddol rhwng gwariant yn Lloegr a Chymru ei greu yn ystod y cyfnod hwnnw pan roedd Llafur mewn llywodraeth ar ei phen ei hun (hy ar ol clymblaid Llafur efo’r Lib Dems a chyn eu clymblaid efo Plaid Cymru).

Dydi hi ddim yn anodd gweld i lle mae’r pres wedi mynd – i gynlluniau o’r canol megis clybiau brecwast, presgripsiwns a pharcio mewn ysbytai ac ati am ddim. Does yna ddim o’i le mwn pethau felly ynddynt eu hunain wrth gwrs, ond mae’n gwestiwn gwleidyddol perthnasol os ydynt yn flaenoriaeth. Mae hefyd yn briodol egluro i bobl y gallai pethau felly ddioddef petai’r bwlch rhwng gwariant addysgol yng Nghymru a Lloegr yn cau.

O ran llythyr Gwilym, does gen i fawr o broblem os ydi o am anfon un. Fel ‘dwi wedi nodi dydi o ddim yn ffordd effeithiol o ymgyrchu am fwy o bres i addysg – ond wnaiff o ddim drwg chwaith. Y broblem oedd portreadu pobl nad oeddynt am gymryd rhan yn yr ymarferiad fel y pechaduriaid mwyaf ers i Adda ac Efa gael eu cicio allan o Ardd Eden.

Mae dy ymdrech i greu cysylltiad rhwng hyn oll a phenderfyniad dy gynghorydd lleol i gefnogi codiadau cyflog i grwp bychan o swyddogion yn sgil addewid i weithredu ar argymhelliad annibynnol, yn esiampl wych o grafu gwaelod casgen fach wleidyddol.

Fodd bynnag, ‘dwi wedi fy nghalonogi gan dy ddarn at ei gilydd. Mae’n dda bod gwleidydd Toriaidd a allai gael ei ethol i’r senedd y flwyddyn nesaf yn ymwybodol o effeithiadau tan wario ar addysg, a ‘dwi’n siwr y byddi o ganlyniad yn fwy na pharod i gefnogi dadl Plaid Cymru tros gyfundrefn o ariannu teg i Gymru.

Diolch.