Sunday, December 20, 2009

Deunydd etholiadol Ceidwadwyr Aberconwy - y pwynt pwysig



Diolch i'r blogiwr lled Geidwadol o Aberconwy, Oscar am dynnu ein sylw at y ffaith bod deunydd etholiadol hynod sgleiniog a phroffesiynol Ceidwadwyr Aberconwy yn cael ei gynhyrchu yn Guilford, Surrey.

'Dydi Oscar ddim yn hapus - mae o'r farn y dylai Toriaid Aberconwy gefnogi busnesau lleol trwy roi gwaith iddynt (yn arbennig cyn eu bod yn honni eu bod yn gefnogol i fusnesau lleol). Mae ganddo bwynt, ond efallai ei fod ychydig yn rhy bersonol o ran ei sylwadau. Mae'n beio'r ymgeisydd lleol, Guto Bebb am beidio a rhoi ei droed i lawr. Nid Guto ydi'r broblem, ond diwylliant mewnol y blaid Doriaidd Cymreig.

Mae llawer iawn o ddeunydd etholiadol y Ceidwadwyr ar gyfer pob math o etholiadau yn cael ei gynhyrchu yn Lexicon House. Byddwn yn tybio mai rhesymau masnachol sydd y tu ol i hyn, yn ol pob tebyg bod gan y Toriaid gytundeb efo TPF Group, ac oherwydd eu bod yn gallu rhoi cymaint o waith iddynt, maent yn cael telerau arbennig o dda.

Yn y misoedd cyn i'r etholiad cyffredinol gael ei galw, does yna ddim 'cap' ariannol ar faint y caiff pleidiau wario. Mae'r Toriaid yn gwario'n sylweddol iawn, iawn tros y cyfnod hwn mewn seddau targed - seddau megis Aberconwy. Daw'r arian ar gyfer hyn i raddau helaeth o gyfeiriad y blaid yn ganolog. Mae'n ddealladwy ar un olwg bod Millbank Road eisiau macsimeiddio effaith yr holl arian maent yn ei wario trwy sicrhau'r gwerth gorau am arian.

Mae hyn i gyd yn anffodus i gwmniau argraffu megis Design2print neu Ads2life sydd wedi eu lleoli yn yr etholaeth, ac mae'n anffodus i gwmniau argraffu bach ar hyd a lled Cymru a'r DU. Ond nid problem strategwyr y Blaid Doriaidd ydi hynny wrth gwrs, maen nhw eisiau cymaint o bamffledi yn glanio ar stepan drysau pobl am cyn lleied o bres a phosibl.

'Dwi'n siwr y byddai'n well gan Doriaid Aberconwy roi busnes i gwmniau lleol, ond nid nhw sydd biau'r dewis. Go brin y byddai Plaid Cymru yn ganolog eisiau cynhyrchu eu deunyddiau etholiadol yn Surrey hyd yn oed petai hynny'n arbed pres, ond petai hynny'n digwydd ni fyddai'r pleidiau'n lleol yn goddef y sefyllfa. Ymddengys nad oes pwysau yn dod o gyfeiriad pleidiau lleol yng Nghymru. A dyna ydi'r gwahaniaeth wrth gwrs - plaid Gymreig ydi Plaid Cymru, a Chymru ydi blaenoriaeth ei haelodau. Mae'r hyn sy'n lleol yn bwysig.

Plaid Brydeinig ydi'r Blaid Geidwadol ac nid Cymru ydi blaenoriaeth ei haelodau hithau. Dydi'r hyn sy'n lleol ddim mor bwysig. Mae'r stori bron yn ddameg o pam na ddylai'r sawl sy'n ystyried Cymru'n wlad bleidleisio tros y Blaid Doriaidd.

15 comments:

Guto Bebb said...

Obsesiwn!!!

Guto Bebb said...

Wedi ystyried hyn ychydig y mae'n werth gwneud dau neu dri pwynt;

Yn gyntaf ti'n defnyddio y fersiwn Saesneg yn dy stori. O ran sicrhau nad oes camargraff y mae'r cyfan o'r llawlyfr yn y ddwy iaith a hynny'n hollol gydradd. Wn i ddim lle y bu i ti gael y daflen ond teg nodi'r pwynt.

Yn ail, y mae asiant Plaid Cymru yn etholaeth Aberconwy yn nodi wrth ymateb i'r 'stori' yma fod tair o daflenni y Blaid yn Aberconwy heb eu cynhyrchu'n lleol am resymau 'technegol'.

Awgrymaf fod y rhesymau technegol hyn yr union yr un fath a rhesymau 'technegol' y Ceidwadwyr -sef ymgyrch ganolog i sicrhau gwerth am yr arian y mae dy blaid ganolog yn wario. A fyddai stwff wedi ei argraffu yn Nghasnewydd neu Abertawe yn dystiolaeth o ddiffyg ymrwymiad dy blaid i Ogledd Cymru?

Yn drydydd ti'n datgan na ddylai unrhywun sy'n credu yng Nghymru fel gwald fwrw pleidlais i'r Ceidwadwyr. Wel beth am droi hwn ar ben i waered? Beth am ddatganiad na ddylai unrhyw un yn Aberconwy sy'n credu mewn annibyniaeth gefnogi Plaid Cymru?

Na? Go brin y cawn awgrym o'r fath gennyt ti na ymgeisydd rhyfeddol 'brydeinig' dy blaid yn Aberconwy. Fyddai'r gonestrwydd ddim yn gweithio.

Yn olaf - beth am bolisiau pwrcasu Cyngor Gwynedd sydd dan law Plaid Cymru? Ti di siarad efo unrhyw fusnes sy'n gwerthu defnyddiau swyddfa yn ddiweddar? Pam fod Plaid Cymru yng Ngwynedd yn datgan fod hi'n OK i fusnesau bychain golli'r cyfle i werthu i brif gyflogwr Gwynedd oherwydd blaenoriaeth y Cyngor i arbed arian yn hytrach na chefnogi busnesau lleol?

Na, beth sydd yma (eto fyth) yw dy ragrith arferol - gweld cyfle i ddoethinebu'n rhyfeddol am y Ceidwadwyr ar sail un daflen ond dim gair cyn hynny am ddulliau gweithredu dy blaid yng Nghyngor Gwynedd.

Fel y bu i fy nghyfraniad cyntaf nodi - obsesiwn!

Guto

ON - dwi'n dechrau teimlo fel Gwilym Euros gyda'r holl sylw a hysteria tuag ataf yma ar Flog Menai

menaiblog said...

Diolch am y sylwadau. Mi ddaeth y gwyliau gwleidyddol i ben yn ddi symwth braidd.

Doeddwn i ddim yn ceisio awgrymu mai yn Saesneg yn unig opedd dy ohebiaeth - dwyn lluniau Oscar wnws i.

'Dwi'n credu y cei bod stwff etholiadol y Blaid yn Aberconwy yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Na?

Ti wedi fy ngholli fi efo'r pwynt na ddylai unrhyw un yn Aberconwy sy'n credu mewn annibyniaeth gefnogi Plaid Cymru. Ti erioed yn honni dy fod di o blaid annibyniaeth.

Mae'n fy synnu ychydig dy fod yn defnyddio'r gair obsesiwn parthed chdi dy hun na Gwilym o ran hynny. Mae ymhell tros i 500 blogiad ar flogmenai. hwilia faint ohonyn nhw sy'n ymwneud a ti neu Gwilym o ran hynny. Mae yna injan ymchwilio ar ochr dde'r blog.

Guto Bebb said...

Aha - yr athro yn gwneud ei bwynt.

Fe ddylai fy nghyfaniad fod wedi nodi na ddylai unrhyw un sy'n wrthwynebus i annibyniaeth i Gymru o fewn etholaeth Aberconwy gefnogi dy Blaid. Gan fy mod ar frys bu i mi fod yn fler. B- i fi :-(

O ran fy ngwyliau gwleidyddol - wedi hen gychwyn ond gyda'r math yma o flogiad y mae'n hwyl cael ymateb.

Diddorol nad oes gair gennyt am ddiffyg brwdfrydedd dy blaid i hyrwyddo prynu'n lleol o fewn Cyngor Gwynedd. Piso dryw yn y môr yw taflenni gwleidyddol mewn cymhariaeth a gwariant Cyngor Sir. Yn achos cyllideb defnyddiau swyddfa Gwynedd, fel un esiampl, beth ddigwyddodd i'r cytundebau gyda busnesau bychain lleol Cai? A lle yn union oedd Cai Larsen a Blog Menai bryd hynny? Yn dawel fe dybiaf.

O ran dy obsesiwn - wel falle fod yr wyrhnosau diwethaf yn gamarweiniol. Yn bersonnol dwi'n dy weld yn dipyn mwy difyr pan ti'n trafod materion ehangach yn hytrach na thrio sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Gyda llaw - pa mor drist sy'n rhaid i foi o Gaernarfon fod i ddarllen Oscar yn gyson?

Guto

menaiblog said...

Wel - rwyt ti a fi yn ymwybodol o'r rhesymeg sydd yn gyrru polisiau pwrcasu, ac yn ymwybodol mae'n debyg gen i o oblygiadau i lywodraeth leol o beidio dod o hyd i werth am arian. Wedi dweud hynny, 'dwi'n derbyn y pwynt y dylid cael cymal sy'n rhoi blaenoriaeth i gwmniau lleol pan fo prisiau pwrcasu yn weddol agos at ei gilydd.

Dwi'n meddwl mai un blogiad sy'n ymwneud yn benodol a Cheidwadwyr Aberconwy 'dwi wedi ei gynhyrchu yn ddiweddar. Roedd y llall yn ymwneud a tipyn o wthio cwch i'r dwr (di sail) gennyt ti ar dudalen sylwasau fy mlog i.

Dwi'n synnu dy fod yn disgwyl i flogmenai fod yn fwy di duedd na (dyweder) flog Ceidwadwyr Aberconwy - blog gwleidyddol gyda safbwynt gwleidyddol ydyw wedi'r cwbl.

Mae gen ti bwynt bod y blog yn ceisio gwneud dau beth - gweithredu fel blog ymgyrchu a gwneud ychydig o ddadansoddi. Mae hynny'n anghyfforddus weithiau. Hwyrach y bydd rhaid i mi ddewis un arddull neu'r llall - neu defnyddio dau flog.

Ti'n gwbl gywir am fy arfer o ddarllen blog Oscar

Guto Bebb said...

Ti'n iawn wrth nodi rheolau pwrcasu ond mae Ceredigion a Phowys yn gallu gwneud yr hyn mae Gwynedd yn ddewis beidio gwneud. Diffyg arweinyddiaeth?

Y pwynt syml yw hyn. Fe fyddai'n hurt i mi drio gwneud pwynt gwleidyddol sylweddol am Blaid Cymru ar sail dulliau pwrcasu Cyngor Gwynedd dan reolaeth y blaid honno (ac fe newidwyd y cytundeb defnyddiau swyddfa cyn Mai 2008) ond ddim yn fwy hurt na dy ymdrech i greu naratif gwleidyddol ar sail penderfyniad paragmatig i dderbyn arian y Blaid Geidwadol yn ganolog ar gyfer un daflen.

Fel y bu i asiant Phil Edwards nodi ar flog yr enwog 'Oscar' (diolch am y tip gyda llaw - dwi o leiaf wedi trio nodi'r cyd-destun yno er mwyn ei ddarllenwyr) y mae Plaid Cymru yn gwneud yr un peth yn achlysurol.

O safbwynt economi gogledd Cymru fawr o ots fod rhywun yn defnyddio argraffwyr yn Guildford neu Gansnewydd fe dybiaf ac fel Plaid unoliaethol gyda phencadlys yn Llundain tydi'r dewis yn ddim mwy 'rhyfedd' na dewis Plaid Cymru o argraffwyr yn y de ar gyfer taflenni 'canolog' dy blaid di.

Ta waeth, os y rhoddodd y blogad bleser i ti....

Gyda llaw, nid gwthio'r cwch i'r dŵr oedd bwriad fy sylw yn achos un o dy gyfraniadau blaenorol. A dweud gwir yr oeddwn yn rhyfeddu i ti ymateb fel y bu i ti wneud.

menaiblog said...

Dwi'n meddwl bod y blogiad yn nodi bod y penderfyniad yn gwbl ddealladwy yng nghyd destun plaid Brydeinig - dyna oedd pwynt y sylwadau dwi'n meddwl.

Mi fyddwn yn derbyn peth o'r hyn ti'n ddadlau, ond mi fyddwn hefyd yn nodi hyn - mae gan blaid wleidyddol fwy o ddewis na sydd gan awdurdod lleol sut i wario pres. Pres y cyhoedd mae awdurdodau yn ei wario, ac mae yna atebolrwydd yn dilyn o hynny.

Pres nhw eu hunain mae pleidiau yn ei wario, ac mae ganddynt fwy o ddewis. O ganlyniad mae'r sawl sy'n rhoi contract i gwmni argraffu yn cyd bwyso y cyhoeddusrwydd sal mae argraffu 'i ffwrdd' yn ei gael, a'r enillion ariannol. Mae'r penderfyniad i arbed yr arian ond derbyn y cyhoeddusrwydd sal wedi ei wneud yn achos Aberconwy. Digon teg - ond efallai na ddylid cwyno gormod os ydi pobl yn tynnu sylw at y peth. Rhan o'r gem mae gen i ofn.

Guto Bebb said...

Oh Cai, a finna'n meddwl fod fy nghyfraniad diwethaf wedi bod yn adeiladol ac yn gymodlon.

Oes, mae gan bleidiau gwleidyddol ddewis. Fi a neb arall dewisiodd dderbyn y cynnig o 20,000 o lawlyfr cyhoeuddusrwydd cyn y Nadolig a dwi'n cwyno dim am y cyhoeddusrwydd. Fel ti'n dweud - mae'n rhan o'r gem.

Nid dyna oedd dy bwynt gwreiddiol serch hynny ond yn hytrach fe fu i ti wneud rhyw bwynt gwleidyddol rhyfedd o eang ar sail y 'stori' yma. Y powynt hwnnw yw sail fy sylwadau.

O ran rhyddid dewis Awdurdod Lleol. Wel ia, lle mae cychwyn?

Beth am y cais gan wyth cigydd lleol i gyflenwi ysgolion cynradd Gwynedd oedd yn rhatach na'r cais o dros Glawdd Offa? Penderfyniad Cyngor Gwynedd (ac fe amddifynwyd y pendrefyniad gan Alun Ffred yr arweinydd cyn iddo fynd yn AC Arfon)oedd mynd gyda'r cwmni o Loegr oherwydd y byddai delio gyda 'chonsortiwm' o wyth busnes bychan yn ormod o risg.

Er fod yr wyth wedi ffurfio cwmni cyd-weithredol ar gyfer y gwaith, wedi trefnu cytundeb gyda dau ladd-dŷ lleol i ddarparu cig lleol fe gawsant eu gwrthod gan Gyngor Gwynedd er eu bod yn rhatach.

Lle'r oedd yr arweinyddiadeth wleidyddol Cai? Yn ôl yr arfer yn cuddio tu ôl i'r hen fantra o gefnogi'r swyddogion.

Cafwyd, wrth gwrs, dro go ddifyr yn y stori. Aeth y cwmni o Loegr i'r wal ac fe ddaeth Cyngor Gwynedd gyda'i cap rhwng eu cynffon i ofyn a fyddai rhai o'r cwmniau unigol yn fodlon cyflenwi ysgolion eu dalgylch. Nid y cwmni cydweithredol yn anffodus ond y busnesau unigol.

Gwell hwyr na hwyrach efallai ond dyna un esiampl o ddiffyg ymyraeth gwleidyddol gan dy blaid fyddai wedi gwneud byd o wahaniaeth i'r syniad o gyd-weithio er mwyn datblygu marchnadoedd newydd a busnesau mwy cadarn.

Gallaf restru mwy. Ond fe arhosaf ta'n y tro nesaf ti'n dewis gor-gyffredinoli ar sail un mater penodol.

Guto

ON Fel un sydd DDIM yn dueddol o ddarllen Oscar dwi wedi rhyfeddu fod fy ateb bellach yn cael ei frolio ganddo ac yn destun blogiad cadarnhaol. Diolch o galon am dy gymorth yn y mater hwn.

ONN Hyd yn oed yn fwy doniol ymddengys fod Plaid Cymru yn Aberconwy wedi anfon taflen yn annog pobl i ddefnyddio siopau lleol dros y Nadolig ond wedi argraffu'r daflen honno yng Ngaherdydd! Rwan dwi'n derbyn fod fy nhaflen wedi ei hargraffu yn Lloegr ond ddaru mi ddim pregethu neges o brynu'n lleol yn y daflen honno naddo?

menaiblog said...

Mae gen ti ffordd go ryfedd o gymryd saib Nadoligaidd o wleidydda Guto.

Ti'n mynd yn ol cryn gyfnod i gael dy stor am gig a chigyddion. 'Dwi'n cymryd na fyddai gen ti broblem petawn yn ymateb i dy flogiad cyfredol ynglyn a chwangos ar flog Ceidwadwyr Aberconwy trwy edrych ar record y Toriaid yn y maes pan oeddynt mewn llywodraeth ddiwethaf yn ol yn y nawdegau?

Guto Bebb said...

A bod yn deg Cai - mae hi'n stori dda. Ti wrth gwrs wedi anwybyddu y stori am offer swyddfa ayb fu'n ddigwyddiad diweddar iawn yn y Cyngor.

Ta waeth, mae'r ddwy stori'n profi y pwynt dwi'n wneud sef nad rheolau sy'n gyfrifol fel arfer am fethiant o'r fath o fewn Cynghorau Sir ond dewis swyddogion. Mater i arweinyddiaeth wleidyddol yw derbyn neu wrthod cyngor o'r fath. Gan amlaf y mae Plaid Cymru yng Ngwynedd yn plygu ger bron swyddogion a dyna fwrdwn y ddwy esiampl.

Fe gynigiaf fwy os ti'n dymuno.

O ran quangos - lle yn union da ni'n mynd rwan? Ydi ymddygiad Plaid Cymru yn OK oherwydd fod y Ceidwadwyr wedi bod yn llawn mor ddrwg yn y gorffenol? Ai "chi ddechreuodd" ydi lefel ein trafodaeth bellach?

Gyda llaw; canfasio, cyfarfodydd cyhoeddus, canfasio ffôn a dosbarthu llenyddiaeth yw gweithio'n wleidyddol i mi nid rhyw chwarae fel hyn ar y we.

Dwi 'di mwynhau heddiw serch hynny. Wrth baratoi adroddiad digon diflas (yr olaf cyn y Nadolig a dwi wedi gorffen!) y mae'r cyfle i daflu ambell i sylw i'r crochan wedi bod yn ddifyr.

Dwi'n siwr y gallwn hefyd gytuno fod y llun ohonof ar y dudalen flaen y daflen dan sylw yn blydi erchyll!

menaiblog said...

Dydi crys gwyn byth yn help os ti eisiau llun da yn fy marn i - nid fy mod yn arbenigwr ar y pethau 'ma.

Ti wedi gor symleiddio'r stori cwango er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol - fel y gwnes i (i raddau) efo stori'r deunydd etholiad.

Hywyn said...

Duwadd diddorol ydi'r drafodaeth. Mae'n rhaid dweud fy mod tro hwn yn cytuno efo Guto. Dwi yn cofio cwmniau lleol yn cwyno fod y cyngor wedi prynu nwyddau papur gan gwmni o ffwrdd, gwaeth byth ydi efo cwmni "toilet roll" ar stepan drws Gwynedd ym Mhenygroes sy'n bygwth torri swyddi i arbedu arian, a lle mae Cyngor Gwynedd yn prynu eu "toilet rolls", Ia da chi yn iawn, Manceinion? Well byth, efo Gwasg Dwyfor yn lleol mae Cyngor Sir yn mynd allan o'r sir i argraffu nifer o bethau Felly Plaid Cymru Cyngor Gwynedd, a Cai larsen, mae yna wersi i ddysgu.

Mae angen Ceiliog gwyn i ganu

menaiblog said...

Croeso Hywyn.

'Dwi'n cymryd dy fod wedi dilyn y ddadl yn ofalus.

Hywyn said...

Wel dim yn ofalus iawn gan fod gormod o sgwennu yn gwneud i ddarllennydd beidio darllen popeth.

Ond be dwi yn bwysleisio ar ydi fod Plaid yma yng Ngwynedd ddim chwaith yn cefnogi busnesau lleol.

Sgwn i os fuasai gofyn y cwestiwn faint o arian mae'r cyngor yn ei wario yn lleol?

menaiblog said...

'Dwi'n credu bod y pwynt yn cael ei ildio Hywyn y byddai jest defnyddio busnesau lleol yn torri rheoliadau gwerth am arian ac yn cael y cyngor mewn dwr poeth efo archwilwyr dosbarth ac ati.