Sunday, December 06, 2009

Ydi'r Toriaid yn mynd i gosbi Cymru os wnawn ni bleidleisio 'Ia'?


Ydyn yn ol un o'u tri Aelod Seneddol Cymreig, David Davies.

Rhesymeg David ydi bod Llafur ar fin rhoi refferendwm sydd wedi ei rigio i Gymru, y byddai pleidlais "Ia" yn gam tuag at annibyniaeth, ac y byddai'r Toriaid yn ystyried bod achos felly i gyflwyno toriadau gwariant cyhoeddus ychwanegol i rhai gweddill y DU yng Nghymru.

Rwan, dwi'n gwybod nad ydi David Davies yn siarad tros y Blaid Geidwadol Gymreig, ond mae'n ddigon posibl ei fod yn siarad tros fwyafrif cefnogwyr ei blaid yng Nghymru - yn ol pol YouGov diweddar, mae mwy ohonynt yn erbyn pwerau deddfu na sydd o'u plaid. Fo hefyd ydi un o dri Aelod Seneddol Cymreig sydd gan y Ceidwadwyr yng Nghymru, ac mae ganddo felly glust David Cameron i raddau nad oes gan llawer o aelodau Cymreig eraill ei blaid.

Roedd yna hw ha mawr y mis diwethaf pan ddywedodd Cameron na fyddai'n sefyll yn erbyn refferendwm i roi pwerau deddfu i'r Cynulliad. Hwyrach y dylai hefyd ei gwneud yn glir nad oes gan y Toriaid gynlluniau i erlid Cymru os ydi hi'n pleidleisio 'Ia'.

No comments: