Monday, December 07, 2009

Hywel Williams - eto fyth


Wnes i ddim son am raglen Hywel Williams yr wythnos diwethaf ar Gymru a'r amgylchedd oherwydd fy mod yn cytuno fwy neu lai 100% efo'r hyn roedd ganddo i'w ddweud. Diwylliant oedd y pwnc dan sylw yr wythnos ddiwethaf, ac rydym yn ol ar dir cyfarwydd - 'dydw i ddim yn cytuno efo'r rhan fwyaf o'r hyn oedd ganddo i'w ddweud.

Ol foderniaeth oedd y term mawr a 'methiant' Cymru i ddatblygu diwylliant ol fodern oedd y thema. Rwan, dwi'n gwybod mai mater ymylol ydi hwn, ond mae gen i broblem gwirioneddol efo'r ffordd roedd yn defnyddio'r term. Un agwedd yn unig ar athroniaeth / diwylliant cyfoes mae'r term yn ei gwmpasu. Roedd Hywel yn defnyddio'r term fel petai'n law fer am ddiwylliant cyfoes. Dydi o ddim - roedd y defnydd o'r term yn llawer, llawer rhy llac.

Pwynt Hywel mae'n debyg oedd bod y diwylliant Cymraeg yn rhy hen ffasiwn, ac nad yw yn gyfoes nag yn esblygu. Yr Eisteddfod Genedlaethol oedd y dystiolaeth. Y cyferbyniad oedd diwylliant modern Prydeinig - yn arbennig fel mae hwnnw'n cael ei amlygu mewn amrywiol sefydliadau diwylliannol ar hyd Afon Tafwys yn Llundain.



'Dwi ddim yn hollol siwr ble i ddechrau a dweud y gwir. Yn gyntaf agwedd ar ddiwylliant y Gymru Gymraeg ydi'r Eisteddfod - un pwysig, ond un agwedd y unig serch hynny. Dydi'r rhan fwyaf o'n profiad o ddiwylliant Cymraeg ddim yn digwydd yn yr Eisteddfod - hyd yn oed os ydym yn eisteiddfodwyr pybur iawn. Er engraifft mi fyddaf i yn clywed llawer, llawer mwy o ganu cyfoes Cymraeg yn y Morgan Lloyd neu'r Anglesey nag ydw i'n ei glywed yn y brifwyl.

Mae i pob diwylliant bron agweddau traddodiadol ynghyd ag agweddau mwy cyfoes ac arloesol. Mae hyn yr un mor wir am ryddiaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth ac ati yn Lloegr nag yw yng Nghymru. Arienir y Royal Shakespeare Theatre Company, a'r Royal National Theatre Company gan y wladwriaeth. Mae'r rhan fwyaf o waith y cyntaf yn draddodiadol tra bod yr ail yn fwy cyfoes - er bod y Royal Shakespeare yn cynhyrchu gwaith arloesol yn ogystal a stwff mwy traddodiadol ei naws.



Y pwynt efo'r diwylliant Cymraeg ydi'r ffaith ei fod yn perthyn i nifer cymharol fach o bobl. Mewn termau Hywelaidd mae tua cymaint o bobl yn siarad Cymraeg yng Nghymru na sy'n byw yn Southwark a Lambeth - dau o dri deg tri bwrdeistref Llundain. Oherwydd hyn, dydi hi ddim yn bosibl cael amrediad eang o sefydliadau i ddangos gwahanol agweddau ar ein diwylliant ar wahan. Y showcase ydi'r Eisteddfod ac mae llawer (er nad y cyfan) o'r hyn a welir yn y Pafiliwn yn ddiwylliant traddodiadol. Ond fyddai ddim rhaid i Hywel edrych ymhell yn ystod Eisteddfod i ddod o hyd i lenyddiaeth, theatr, yn ogystal a diwylliant gweledol a chlywedol cyfoes - ac ar brydiau arloesol.



Ag eithrio gwneud ei ffordd i Faes B i weld y Derwyddon wnaeth Hywel ddim mynd ymhell i'r Pafiliwn. Roedd Hywel yn hoff o Cai Dyfan a'r hogiau - oherwydd eu 'moderniaeth' mae'n debyg. Hwyrach y gallai fod wedi aros yma i ddweud gair neu ddau am y sin canu cyfoes yng Nghymru. Mae'n rhyfeddol i mi yn bersonol mor eclectic a chyflawn ydi'r sin honno o ran amrediad yr arddull sy'n cael ei gynnig ganddi. Mae llawer i ddiwylliant canu cyfoes mewn ieithoedd sydd a llawer, llawer mwy yn eu siarad na'r Gymraeg, gryn dipyn yn dlotach ac yn llai amrywiol na'r hyn sydd yn cael ei gynnig yng Nghymru.

Daw hyn a ni'n ol at Hywel ei hun. Rhan o'r broblem efo'r gyfres ydi mai dyn (er gwaethaf ei gefndir) sy'n edrych ar Gymru, ac yn arbennig y Gymru Gymraeg, o'r tu allan ydi o. Mae hynny weithiau yn rhoi mantais i ddyn - mae'n haws gweld pethau o'r tu allan ambell waith, ac mae hyn wedi caniatau iddo wneud sylwadau digon treiddgar o bryd i'w gilydd. Ond gall hefyd arwain at ganfyddyddiadau arwynebol braidd, sydd wedi eu seilio ar ddealltwriaeth anghyflawn o'r hyn mae'n ei drafod. Mae hyn yn fwy gwir o'r rhaglen yma nag oedd am yr un o'r lleill.

Ar un ystyr mae Hywel yn chwarae rol sydd yn hynod draddodiadol yn ein diwylliant - yr mab herfeiddiol sy'n cwestiynu seiliau rhyw agwedd neu'i gilydd ar ein bywyd cenedlaethol. Aeth ychydig yn bellach na neb arall trwy gael cyfres deledu iddo'i hun a chwestiynu pob agwedd ar ein bywyd cenedlaethol. Mae'n rhyfedd fel mai mab y Mans sydd bron yn ddi eithriad yn teimlo'r angen i wneud y math yma o beth

5 comments:

siân said...

Yn union! Fyse fe wedi gallu dewis y Cwîn a Beefeaters i gynrychioli Lloegr.
Roedd e'n canolbwyntio ar yr Orsedd yn y Steddfod - lot mwy iddi na hynny.
Do'n i ddim yn licio'r ffordd roedd e'n bychanu'r amatur - dyw amatur ddim yn golygu shimpil.

Fyse hi'n braf gweld rhywun arall yn cael cyfle i wneud cyfres debyg

menaiblog said...

Mae pob dim bron yn amatur yng Nghymru - mae hynny'n rhan o wendid a chryfder ein diwylliant. Mae rhai o'r pethau gorau sydd wedi eu creu yn ein byd bach ni yn agos at fod yn ddi dal o safbwynt sawl a'u creodd.

Diwylliant gwirfoddol ydi o at ei gilydd.

Hogyn o Rachub said...

Dyma'r rhaglen gynta i 'godi fy ngwrych' i. Mae diwylliant y rhan fwyaf helaeth o wledydd yn mewnblyg o ran ei fod yn canolbwyntio ar y wlad honno - pam ddylai diwylliant Cymru edrych y tu allan i'w ffiniau pan nad oes yr un wlad arall yn gwneud?

Hanfod unrhyw ddiwydiant unigryw ydi ei fod yn cwmpasu'r wlad y mae'n deillio ohoni. Do'n i ddim yn dallt y pwynt - ac eto tasa fo'n hawdd ddadbrofi ei hun yn Llangollen.

Dwi'n cytuno ei fod yn bychanu amaturiaeth, ond eto dydi amatur ddim yn golygu gwael o reidrwydd, heb son am simpl - ond mae o'n wirfoddol, sef un peth sy'n gyffredin rhwng ein diwylliant unigryw ni a phob un o ddiwylliannau eraill y byd!

Roedd y rhaglen arbennig honno wedi colli'r plot, braidd.

Aled G J said...

Wrth ddilyn trywydd ol-fodern od fel a wnaeth dwi'n meddwl bod Hywel Williams wedi colli cyfle yn y rhaglen hon. Byddai'n rheitiach o lawer iddo fod wedi hoelio'i sylw ar yr hollt rhwng "arweinwyr" y diwylliant Cymraeg, a thrwch y Cymry Cyffredin, boed hwy yn Gymry Cymraeg ai peidio.Mae'r Eisteddfod Genedlaethol, "showcase" y diwylliant hwn, yn methu'n gyson a chyrraedd llawer iawn o Gymry Cyffredin, ac yn waeth na hynny, does dim bwriad gan y sanhedrin eisteddfodol i geisio gwneud hynny chwaith gan eu bod nhw'n llawer rhy hunan-fodlon a hunan-orchestol. Mae'r diffyg cenhadu a marchnata dychmygus i fynd i'r afael a'r bwlch peryglus hwn yn wendid difrifol yn fy marn i. Byddai hanesydd sy'n nabod ei bobl go iawn, wedi tynnu sylw at y breuo hwn yn ein cwlwm diwylliannol rhagor na gwamalu'n ddisynnwyr am beidio a bod yn ddigon "ol-fodern".

Anonymous said...

Fedrai ddim dweud fy mod i yn cytuno gyda Hywel chwaith, o leia ddim yn llawn. Ond, mae yna obsesiwn yma yng Nghymru hefo'r eisteddod ac yn aml ceir llawer mwy o falchder yn y gymdeithas am ein plant am eu gallu i ganu neu adrodd nag am ei gallu i ymchwilio gwyddoniaeth neu lwyddiant mewn byd busnes.

Mae hefyd agwedd anffodus yma ble yn rhy aml rydym ni fel Cymru yn gweld bai ar bobl am lewyrchu mewn byd busnes a gwneud arian.

Mae yna ddiwylliant cryf yma a dylent fod yn hynod falch o honno, ond, os am gael gwared a reoli y saeson, rhaid mentro oddi ar y llwyfan ag i greu economi a llewyrch.