Thursday, December 10, 2009

Ydi Llais Gwynedd wedi rhannu ar fater ysgolion Bro Dysynni?

Fe wyddoch mae'n debyg gen i bod Cyngor Gwynedd yn pleidleisio ar ail strwythuro ysgolion ym Mro Dysynni yn Ne Meirion heddiw. Os ydych yn dilyn blog Gwilym Euros mi fyddwch wedi darllen cryn dipyn am y pwnc tros y dyddiau diwethaf. Fydda i ddim fel rheol yn gwneud sylwadau ynglyn a gwleidyddiaeth y byd addysg, ond 'dwi am wneud eithriad yma.

Mae yna si o gwmpas i un o gynghorwyr mwyaf blaenllaw Llais Gwynedd bleidleisio o blaid y cynnig i newid y ddarpariaeth yn yr ardal.

'Rwan, doeddwn i ddim yn y cyfarfod, felly dydw i ddim yn gwybod pwy bleidleisiodd i beth - ond mater bach fyddai darganfod os ydi'r si yn wir - cofnodwyd y bleidlais.

Os ydi'r stori'n wir byddai'n gryn ryfeddod i mi bod Llais Gwynedd yn ranedig ar y mater hwn o bob mater. Wedi'r cwbl yr hen gynllun ail strwythuro ysgolion oedd yn gyfrifol am eu ffurfio yn annad dim arall. Rhyfedd o fyd.

7 comments:

Me said...

You can only blame the policies which will strip rural villages of young families and leave the dwelling occupied by incomers.

No affrodable homes + no jobs = No village..

In the Snowdonia National Park the matter is even more dire, call it 'vuluntary resettlement' or 'soft eviction' the end result is the same, a wilderness occupied by retired civil servants.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai - Mi ddaru Aeron Jones bleidleisio o blaid y cynnig i gau ysgolion mewn camgymeriad...mae o wedi nodi hynny ar ei flog, fel mae Dyfrig Jones wedi ei wneud hefyd.
Fedrai dy sicrhau di nad oes rhanniad o gwbwl yn rhengoedd Llais Gwynedd ar y mater yma.
Mae Plaid Cymru wedi ceisio gwneud defnydd yn y gorffenol fod Seimon Glyn wedi bod yn aelod o'r panel adolygu...Wel ddoe, mi siaradodd Seimon yn gryf iawn yn erbyn cynnigion dy Blaid ac fel dwi'n dweud mae undod Llais Gwynedd a'r pobol yn dal yn gryf.
Fe gawn weld maes o law os bydd undod Plaid Cymru yn parhau mewn ardaloedd ble mae ysgolion mewn wardiau cynghorwyr y Blaid o dan fygythiad?

rhydian fôn said...

Na, mae criw Llais Gwynedd o'r un (diffyg) meddwl, hyd y gwn i. Dim ond fod Aeron Maldwyn yn rhy dwp i ddeall pa ffordd i bleidleisio... Sut cafodd o ei ethol?

menaiblog said...

A - pleidlais mewn camgymeriad. 'dwi'n gweld rwan.

Am stori ryfedd!

Aled G J said...

Y cwestiwn pwysig i'w holi rwan- ydi nid gofyn os ydi Llais Gwynedd yn ranedig ar y mater hwn ond gofyn yn hytrach a fyddan nhw'n gallu ymateb yn greadigol i'r hyn ddigwyddodd ddoe?

Y peth synhwyrol iddyn nhw wneud ydi cydnabod eu bod wedi colli'r ddadl arbennig hon, a symud yr agenda yn ei blaen. Er enghraifft, dadlau dros ddatblygu safle Addysgu ac Adnewyddu ym Mro Dysynni, allai ddenu asiantaethau busnes, adrannau llywodraeth leol ac ati i'r safle, fel bo'r safle yn datblygu'n "powerhouse" er mwyn adfywio'r ardal. O gofio bod y synnwyr o fod ar ymylon pethau yn economaidd a chymdeithasol llawn mor bwysig a'r ystyriaethau addysgol yn y protestiadau lleol, gall Llais Gwynedd barhau i chwarae rol bwysig i ddwysbigo cydwybod Plaid Cymru am yr esgeulustod hwn.

Anonymous said...

Cai,
Beth sy'n bod ar y Blaid y dyddiau hyn. Mae gen i gywilydd fy mod yn aelod ohoni.
Ymunais a'r Blaid dros 30 o flynyddoedd yn ol gan ei bod yn blaid a oedd yn rhoi Cymru a'r Gymraeg yn gyntaf. Ac yn nawr mae'n cau ysgolion bach y sir, sef un o'r ychydig lefydd lle y clywir y Gymraeg yn cael ei siarad ein cymunedau.Mae'n gywilydd mawr iddyn nhw wneud hyn. Ni fyddaf yn canfasio ar ran yn y dyfodol Blaid tan y byddan nhw'n gwyrdroi y penderfyniad yma!!

menaiblog said...

Anon - Am resymau amlwg dydi'r blog yma ddim yn gwneud sylwadau ynglyn a chynllun ail strwythuro Gwynedd yn benodol.

Mi fyddwn fodd bynnag yn gwneud un sylw cyffredinol - mae patrwm ieithyddol Gwynedd yn gymhleth - mae gen ti ysgolion bach Cymreigaidd iawn (o ran iaith y buarth) ac mae gen ti rai lle nad oes yna ddim un enaid byw yn siarad Cymraeg adref. Mae gen ti ysgolion mawr iawn lle mae bron i bob plentyn yn siarad y Gymraeg yn cyrraedd, ac mae gen ti rai lle nad oes yna bron neb.

Dydi'r canfyddiad ysgol bach = ysgol Gymreig ac ysgol fawr = ysgol Seisnig ddim yn un cywir.

Mae yna ddadleuon dilys o blaid ac yn erbyn y cynllun - ond 'dwi'n onest ddim yn meddwl ei fod yn fater ieithyddol fel y cyfryw.