Wednesday, December 30, 2009

Darogan etholiadol yr Hogyn o Rachub

'Does yna neb yng Nghymru - yn flogwyr na'n sylwebyddion sy'n gweithio i'r cyfryngau prif lif yn cynhyrchu dadansoddiadau mwy trylwyr a gwybodus o etholaethau seneddol Cymru na'r cyfaill o Gaerdydd / Rachub.

'Dwi eisoes wedi eich cyfeirio at yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am Arfon, Aberconwy, Brycheiniog a Maesyfed, Gorllewin Caerdydd, Preseli Penfro a'r Rhondda.

Ers hynny mae wedi cynhyrchu dau ddadansoddiad arall - un yn ymwneud a Phen y Bont a'r llall a Llanelli.

Os ydych yn bwriadu betio, neu os oes gennych ddiddordeb yn y math yma o beth, 'dwi'n awgrymu'n gryf eich bod yn mynd am dro i'w flog.

Gallwch hefyd edrych yma a'u gweld nhw i gyd efo'i gilydd.

4 comments:

Anonymous said...

Ond dim byd am Faldwyn?!
Gellid gweld syrpreis mwya'r etholiad yno.....

Cai Larsen said...

Wel, dwi'n meddwl bod HoR wedi cytuno efo fi yn rhywle ar y blog hwn bod Lembit yn debygol o ennill.

'Dwi'n siwr y bydd yn edrych yn fanwl ar Faldwyn cyn yr etholiad.

Hogyn o Rachub said...

Rho gyfle i mi di-enw, neno'r tad!

Dwi'n edrych ymlaen i weld sut y bydd rhai o'm 'proffwydoliaethau' yn cymharu ag eraill ar y blogsffer. Er, trylwyr ai peidio, mae'n ddigon posib y caf i bob un yn gwbl anghywir!

Gyda llaw, os oes gan unrhyw un o dy ddarllenwyr di ddiddordeb mewn dilyn y proffwydiadau Cai, yna gallant eu gweld i gyd yn ddigon hawdd ar y ddolen isod

http://rachub.blogspot.com/search/label/proffwydo%202010

Cai Larsen said...

Diolch HOR