
'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud mai
Adam Smith fathodd y term
the law of unintended consequences gyntaf. Son oedd Smith am ei briod faes, economeg wrth gwrs. Dadlau oedd yn erbyn ymyraeth ormodol gan lywodraethau mewn materion economaidd gan bod hynny (yn ei farn o) yn amlach na pheidio yn arwain at ddeilliannau anragweladwy - deilliannau oedd yn fynych yn negyddol o ran eu heffaith.
Daeth y term yn boblogaidd yn yr ugeinfed ganrif yn sgil gwaith cymdeithasegydd Americanaidd o'r enw
Robert K Merton a ddangosodd bod pob math o gynllunio cymdeithasegol yn arwain at ddeilliannau anisgwyl ac anragweladwy.
Yn naturiol ddigon (ac yn gwbl ragweladwy) mae meddwl dyn yn crwydro at Merton a Smith pan mae'n ymweld a blog Ceidwadwyr Aberconwy ac yn darllen eu sylwadau ar flogiau eraill. Wedi'r cwbl un o risgiau mawr 'sgwennu ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, a blogio gwleidyddol yn arbennig ydi bod yr ysgrifennwr yn ceisio dweud un peth ond bod y darllenwr weithiau yn dod i gasgliadau cwbl wahanol o'r hyn mae wedi ei ddarllen.
Cymerer y
blogiad diweddaraf er enghraifft. Y stori fawr yma ydi bod Laura McAllister wedi ei phenodi yn gadeirydd y Cyngor Chwaraeon. Mae hyn yn fater o dristwch mawr i Geidwadwyr Aberconwy. Ymddengys mai'r rheswm am hyn ydi bod Laura yn Bleidwraig, bod y Gweinidog Treftadaeth (sydd yn y pen draw yn gyfrifol am chwaraeon a hamdden) yn Bleidiwr, a bod llyfr ar hanes y Blaid gan Laura wedi gwneud Ceidwadwyr Aberconwy yn rhy sal i fwyta eu
vol-au-vents.Rwan, byrdwn y blogiad ydi bod y penodiad mewn traddodiad diweddar Cymreig o benodiadau gwleidyddol i gyrff a elwir gan bawb arall yn
quangos, ond yn cwangos ar flog menai. Chwi gofiwch mai acronym am
quasi-autonomous non-governmental organisation ydi'r term. Cyrff ydi'r rhain sydd a rol mewn llywodraethu, ond sydd ddim yn rhan o adrannau llywodraethol fel y cyfryw a sydd felly'n rhannol annibynnol oddi wrth weinidogion llywodraethol.
Daeth y cwangos cyntaf yng Nghymru i fodolaeth (fel y bydd Ceidwadwyr Aberconwy yn cofio'n dda) yn y 1980au pan roedd rhywun o'r enw Mrs Thatcher yn rhedeg y sioe. O 1987 ymlaen ychydig iawn o gynrychiolaeth etholiadol oedd gan y Toriaid yng Nghymru, felly aethant ati i reoli'r wlad trwy greu efallai 200 o gwangos oedd gyda thua
1,800 o unigolion yn eistedd arnynt - gyda'r sawl oedd yn gwasanaethu yn aml yn - wel agos at y Toriaid - o ran gwleidyddiaeth.
Pan ddaeth y Cynulliad i fodolaeth addawyd (gan Lafur) i daflu'r job lot ar goelcerth, ond ni ddigwyddodd hyn mewn gwirionedd. Mae llawer o'r cwangos yn parhau, ond mae proses gydnabyddedig ac agored (ac un sydd i raddau helaeth yn annibynnol o wleidyddion etholedig) i benodi aelodau cwangos bellach.
Yn yr achos mae Ceidwadwyr Aberconwy yn ei godi, roedd Laura eisoes yn is gadeirydd y Cyngor Chwaraeon. Roedd wedi ei phenodi i'r Cyngor pan roedd Alun Pugh (Llafur) yn Weinidog, a chafodd ei phenodi yn is gadeirydd cyn Cymru'n Un. Roedd y broses benodi yn un cwbl agored, ac mae barn aelodau'r Cyngor am Laura'n eithaf adnabyddus - mae cryn barch tuag ati. Mae hefyd yn gyn beldroediwr a chwaraeodd tros Gymru.
Mewn geiriau eraill, hi oedd y person gorau, ac yn wir y person mwyaf naturiol i wneud y job. Mae yna rol i'r Gweinidog yn hyn oll wrth gwrs - ond mae hynny reit ar ddiwedd y broses - sef arwyddo'r papur yn caniatau'r penodiad, neu ei wrthod. Os ydi'r Gweinidog yn dewis gwrthod (ac anaml iawn y bydd hynny'n digwydd) mae'n rhaid wrth reswm dilys tros wneud hynny. 'Dydi aelodaeth (neu ddiffyg aelodaeth) o blaid wleidyddol ddim yn rheswm dilys. 'Dydi plesio Ceidwadwyr Aberconwy ddim yn reswm dilys chwaith.
Felly, beth sydd gennym yma ydi troelli gwleidyddol. Ar un olwg mae hyn yn ddigon naturiol, mae'n tynnu am etholiad wedi'r cwbl. Er nad oes fawr ddim sylwedd y tu ol i'r stori, mae'n droelli mwy derbyniol
na'r hel clecs am brosesau etholiadol pleidiau eraill heb ddatgelu ffynonellau, a ddim mor desperet a chodi straeon am gig, cigyddion a Chyngor Gwynedd o fedd sydd wedi hen setlo.
A daw hyn a ni'n ol at gyfraith canlyniadau anfwriadol. Sedd sydd yn nwylo Llafur ydi Aberconwy wrth gwrs, ond fyddai rhywun ddim yn credu hynny o ddarllen y blog na sylwadau Guto ar y blog hwn. Yn ol
damcaniaethu etholiadol UK Polling Report (doedd etholaeth Aberconwy ddim yn bodoli yn 2005) pedwerydd sal fyddai'r Blaid y tu ol i'r Lib Dems, y Toriaid a Llafur. Anaml y bydd y blog yn cyfeirio at y Lib Dems, ceir cyfeiriadau mynych at y Blaid, a cheir rhai at Lafur hefyd. Fel rheol mae'r cyfeiriadau at Lafur yn ymysodiadau arnynt ar lefel Cynulliad, a bron yn ddi eithriad bydd Plaid Cymru yn cael ei chysylltu efo nhw. Weithiau gellir cyfiawnhau'n wrthrychol gwneud hynny (ProAct yn Aberconwy er enghraifft), ond yn amlach na pheidio ni ellir (gwahaniaeth mewn lefel gwariant ar addysg er enghraifft - digwyddodd hynny i gyd cyn Cymru'n Un).
Deilliant anfwriadol blog Ceidwadwyr Aberconwy ydi tanlinellu'r ffaith, i unrhyw un sy'n dewis ei ddarllen bod y Toriaid yn gwybod i'r tirwedd etholiadol newid yn llwyr yn yr ardal ers 2005, ac mai Plaid Cymru ydi'r prif fygythiad i'r Toriaid yn Aberconwy, nid Llafur ac yn sicr nid y Lib Dems.
A'r wers i'w chymryd o hyn oll ydi hon -
os ydych yn byw yn Aberconwy, ac os ydych am osgoi cael eich cynrychioli yn San Steffan gan y Blaid Geidwadol, pleidleisiwch i Blaid Cymru.