Tuesday, June 02, 2009

Lib Dem Watch 2

Mae Guerilla Warefare ymysg eraill yn tynnu sylw at dipyn o wleidydda budr gan y Lib Dems.

Dydi hyn ddim yn syndod i flogmenai. Mae'r blog yma wedi dadlau o'r blaen bod y gwacter ystyr sydd wrth galon y Lib Dems yn arwain at ddulliau gwag o wleidydda. Byddant yn gwleidydda mewn ffyrdd sydd weithiau'n anarferol o fudur ac weithiau'n rhyfedd o amherthnasol. I'r ail gategori mae'r darn yma o ohebiaeth a anfonwyd at drigolion anffodus Cathays yng Nghanol Caerdydd gan eu haelod cynulliad Jenny Randerson.

Gan bod y rhan fwyaf o etholwyr Cathays yn fyfyrwyr, mae'r rhan fwyaf o'r darn yn ymwneud a'r amrediad cyfyng o bethau sydd gan myfyrwyr i boeni amdanynt - cynhesu byd eang (sydd ymhell o fod yn ganolig i wleidydda Ewrop), a ffioedd dysgu (sydd ddim oll i'w wneud efo Ewrop). Mae'n ddigon teg i dargedu cydrannau o'r etholaeth am wn i - mae pawb yn gwneud y math yma o beth - er bod y ffocws yma mor gul nes ymylu ar fod yn ogleisiol.



Mae'r Toriaid yn cael eu clymu i UKIP wrth gwrs - ond o leiaf dydi Jenny ddim yn eu clymu i Sinn Fein ac UKIP fel y gwna'r pamffled cenedlaethol. 'Dydi polisiau'r Toriaid ar Ewrop ddim yr un peth - diweddu aelodaeth y DU ydi uchelgais UKIP, eisiau refferendwm cyn arwyddo Lisbon.

Maent hefyd yn honni bod yna Doriaid nad ydynt yn credu mewn cynhesu byd eang. Mae hyn yn ddi amau yn wir. Mae hefyd yn ddi amau yn wir bod yna Lib Dems sydd eisiau cyfreithloni cyffuriau.

Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am y pamffled fodd bynnag ydi'r defnydd amhriodol o ystadegau etholiadol - mae hyn yn nodweddu llawer o lenyddiaeth gwleidyddol y Lib Dems. Maent yn dadlau mai'r unig ffordd o roi trwyn gwaed i Lafur ydi trwy fotio iddyn nhw. I 'brofi' hyn maent yn dangos graff o ganlyniad etholiad cyffredinol 2005 yng Nghanol Caerdydd. 9% yn unig oedd pleidlais y Toriaid - felly mae hyn yn profi yng ngolwg y Lib Dems (50%) bod mai'r Lib Dems yn unig all guro Llafur.

Y gwirionedd ydi mai pumed (ar ol Llafur, y Toriaid, Plaid Cymru ac UKIP) oedd y Lib Dems yn etholiad Ewrop yn 2004 - yr unig etholiad mae'n briodol cymharu etholiad dydd Iau efo hi.

'Rwan golyga hyn un o ddau beth - naill ai bod y Lib Dems yn credu bod yr etholiad yn cael ei hymladd yng Nghanol Caerdydd yn unig - ac mai trigolion yr etholaeth honno'n unig sy'n dewis y pedwar cynrychiolydd Cymreig, neu eu bod yn ceisio camarwain yr etholwyr yn fwriadol.

Os mai'r cyntaf sydd yn wir, dylai Jenny fod yn gweithio y tu ol i'r til yn Tesco, ac nid fel Aelod Cynulliad.

Os mai'r ail sydd yn wir mae agwedd Jenny at ei hetholwyr yn sarhaus a gwawdlyd ac mae'n eu camarwain yn fwriadol. Nid Cynulliad ydi ei lle yn yr achos hwnnw chwaith.

2 comments:

Anonymous said...

Credwch chi fi, mae'r enghraifft yma yn bitw iawn o gymharu a rhai o 'graffiau' enwog y Lib Dems. Dangos canlyniadau mewn un etholaeth sy'n berthnasol i etholaeth arall, neu hyd yn oed ddyfeisio ffigurau a honni eu bod yn 'ganlyniadau canfasio'. Does dim yn rhy isel.
Gallen i gasglu enghreifftiau, ond dwi'n ffeindio fod ymladd yn erbyn y Lib Dems a'u curo yn rhoi mwy o foddhad na mynd yn flin.

Ond rwyt yn hollol iawn - mae'r math yma o ymgyrchu yn dangos gwacter credo'r blaid. Mae eu holl dactegau ymgyrchu wedi eu seilio ar geisio profi mai ond nhw all guro Plaid X yn unswydd er mwyn denu pleidleisiau negyddol a phrotest. Ac wedyn maent yn honni mai nhw yw'r blaid mwyaf cadarnhaol. Rhyfedd o fyd.

Cai Larsen said...

Os wyt ti eisiau anfon unrhyw esiamplau mae croeso i ti eu hanfon ataf ar olaf@larsen7223.fsnet.co.uk