Tuesday, June 23, 2009

Etholiadau Ewrop a San Steffan - effaith posibl pleidleiso tactegol

'Dwi'n gwybod fy mod wedi addo cau fy mhig am etholiadau Ewrop, ond fe anfonodd cyfall fap sy'n dangos beth ddigwyddodd yn etholiadau Ewrop i mi. Yn anffodus 'dwi methu gweld lliwiau'n dda iawn, felly dydi o ddim yn golygu llawer i mi. Serch hynny 'dwi'n ei atgynhyrchu yma gan obeithio ei fod o ddiddordeb i'r rhai yn eich mysg sy'n gweld lliw yn well na fi. Dwi'n deall mai Gwyrdd (Plaid Cymru), Coch (Llafur) a Glas (Toriaid). 'Dwi ddim yn hollol siwr ei fod yn hollol gywir - er enghraifft mae Nacw'n dweud wrthyf bod Conwy'n las - er bod y Blaid wedi dod mymryn o flaen y Toriaid yno.




Fi fyddai'r cyntaf i gydnabod nad yw'n ddoeth defnyddio ffigyrau etholiadau Ewrop i ddarogan canlyniadau San Steffan. 'Does ond rhaid i ni edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yng Ngheredigion yn 2004 i brofi hynny - daeth y Lib Dems yn bedwerydd yn etholiadau Ewrop yn 2004 ond yn gyntaf yn etholiadau San Steffan yn 2005.

Serch hynny, beth am gymryd un neu ddau o bethau yn ganiataol er mwyn dadl mwy na dim arall?

(1) Y bydd pleidlais Llafur hyd at 10% yn well yn etholiadau San Steffan nag oeddynt yn etholiadau Ewrop (er nad yw'r polau diweddaraf yn awgrymu hynny)

(2) Bod Llafur yn debygol iawn o golli'r seddi lle nad oeddynt wedi llwyddo i gyrraedd 20% yn etholiadau Ewrop - wnaiff 10% yn ychwnegol ddim eu helpu nhw. Awgryma hyn y byddant yn colli'r seddi canlynol maent yn eu dal ar hyn o bryd: Gogledd Caerdydd, Aberconwy, Dyffryn Clwyd, Bro Morgannwg, Gwyr, Delyn, Arfon (Llafur ydi deiliaid damcaniaethol y sedd newydd hon), Ynys Mon, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Wrecsam a De Clwyd. Y Ceidwadwyr fyddai'n cipio Gogledd Caerdydd, Dyffryn Clwyd, Bro Morgannwg, Delyn, Wrecsam, Gwyr a De Clwyd. Plaid Cymru fyddai'n cipio Arfon. Plaid Cymru fyddai hefyd yn debygol o gipio Ynys Mon, er y byddai gobaith o rhyw fath gan y Toriaid yno. Y Toriaid fyddai'n debygol o gipio Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, er y byddai gobaith gan Blaid Cymru yn y llefydd hyn.

(3) Bod y pleidiau sydd 20% o flaen eu gwrthwynebwyr agosaf yn weddol sicr o ennill / ddal y sedd honno. Byddai hyn yn golygu y byddai Plaid Cymru yn ennill Arfon ac yn cadw Meirion / Dwyfor a Dwyrain Caerfyddin / Dinefwr. Byddai'r Ceidwadwyr yn sicr o gadw Mynwy.

(4) Bod tebygrwydd y bydd pobl yn pleidleisio yn dactegol yn erbyn Llafur y tro hwn fel y gwnaethant yn erbyn y Toriaid yn 97 ('dydi pobl ddim yn pleidleisio'n dactegol yn etholiadau Ewrop oherwydd y drefn bleidleisio), a bod perygl arwyddocaol i unrhyw sedd lle cafodd Llafur lai na 25% yn yr etholiad Ewrop - hyd yn oed os mai nhw oedd ar ben y pol. Os ydi'r ddamcaniaeth yma'n gywir, byddai'r seddi canlynol mewn perygl - Caerffili, De Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Llanelli, Pen y Bont, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Pontypridd, Gorllewin Abertawe, Torfaen.

Plaid Cymru fyddai'r perygl yng Nghaerffili, Llanelli a Phontypridd (er y byddai'r Toriaid yn berygl yma hefyd), y Toriaid fyddai'r perygl yn Ne Caerdydd, Pen y Bont, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Gorllewin Casnewydd, Torfaen a Gorllewin Caerdydd - er bod Plaid Cymru'n cryfhau'n gyflym yn yr olaf. Ar un olwg byddai bygythiad y Toriaid a'r Lib Dems yn gyfartal yn Nwyrain Casnewydd a Gorllewin Abertawe, ond mae'r Lib Dems yn dda am gymryd mantais o hollt tair ffordd, a byddwn yn eu hystyried nhw'n fwy o fygythiad na'r Toriaid.

Felly - a chymryd na fydd Llafur yn llwyddo i gynyddu eu canran o'r bleidlais o fwy na 10%, a chymryd hefyd y bydd pleidleisio tactegol gwrth Lafur arwyddocaol, mae'n bosibl dychmygu yn realistig y bydd map gwleidyddol nesaf Cymru hyd yn oed yn fwy dramatig na'r un uchod - i'r rhai ohonoch sy'n medru ei weld wrth gwrs.

Petai yna storm berffaith yn erbyn Llafur, yr oll fyddai'n weddill ganddynt fyddai Dwyrain Abertawe, Rhondda, Cwm Cynon, Merthyr, Ogwr, Islwyn, Aberafan a Chastell Nedd (a gallai honno fod yn sigledig). Gallent hefyd ennill Blenau Gwent yn ol. Ychydig iawn o dir Cymru fyddai'n goch - dyna beth fyddai map etholiadol rhyfeddol - hyd yn oed i greadur sy'n ddall i liw.

Diweddariad 24/6/08

'Dwi'n symud y sylwadau hyn sydd wedi eu 'sgwennu ('dwi'n meddwl) gan Ioan Prys - y sawl sy'n gyfrifol am y map:

Mae'r lliwiau ar y map yn 'proportional' i'r bleidlais. Er engraifft:ConwyPlaid Pleidlais %mod lliwPlaid Cymru 4236 25.2% 44.8% 114 Ceidwadwyr 4228 25.1% 44.7% 114 Llafur 2453 14.6% 21.3% 54 Felly yn Conwy, Gwyrdd=114, Glas=114, Coch=54y mod ydi (%vote * 100 -5)/(50-5) (er mwyn cael lliwiau fwy llachar)Felly, mae Conwy yn edrych fel Gwyrdd-las reit fudur!! Arfon: gwyrdd llachar, Rhondda: Gwyrdd+ Coch = Oren/MelynMynwy: glas llacharGorllewin Casnewydd= Coch+Glas = Piwsetc

Ychwanega'n ddiweddarach:

Map tair plaid (Gwyrdd, Coch a Glas) ydi hwn, fellu dio'm yn gweithio gystal lle mae Lib dems yn gryf (h.y. Canol Caerdydd).

8 comments:

Anonymous said...

Mae'r map yn gymysgwch o bob lliw - o wyrdd golau i wyrdd tywyll; o las golau i las tywyll; yn oren, melyn; porffor. oes yna allwedd i'r map yn esbonio y lliwiau? Efallai eu bod nhw yn cynrychioli 'swing' y bleidlais yn hyrach na'r bleidlais ei hun.

menaiblog said...

Dwi ddim yn gwybod - rhywun sydd wedi fy e bostio i mi i'w roi ar y blog. Hwyrach bod dwyster y lliw yn rhywbeth i'w wneud efo maint y bleidlais.

Prin fy mod i'n gallu gwahaniaethu rhwng glas a gwyrdd mae gen i ofn.

Anonymous said...

Mae'r lliwiau ar y map yn 'proportional' i'r bleidlais.

Er engraifft:
Conwy
Plaid Pleidlais %mod lliw
Plaid Cymru 4236 25.2% 44.8% 114
Ceidwadwyr 4228 25.1% 44.7% 114
Llafur 2453 14.6% 21.3% 54

Felly yn Conwy, Gwyrdd=114, Glas=114, Coch=54

y mod ydi (%vote * 100 -5)/(50-5) (er mwyn cael lliwiau fwy llachar)

Felly, mae Conwy yn edrych fel Gwyrdd-las reit fudur!!
Arfon: gwyrdd llachar,
Rhondda: Gwyrdd+ Coch = Oren/Melyn
Mynwy: glas llachar
Gorllewin Casnewydd= Coch+Glas = Piws
etc

Hogyn o Rachub said...

O'n i'n meddwl hynny hefyd ond mae Canol Caerdydd yn nefi bliw!

Ioan said...

Map tair plaid (Gwyrdd, Coch a Glas) ydi hwn, fellu dio'm yn gweithio gystal lle mae Lib dems yn gryf (h.y. Canol Caerdydd).

Plaid Gwersyllt said...

Un ffaith arall i chi - Wrecsam oedd yr unig etholaeth yng Nghymru ddaru Plaid Cymru gynyddu ei pleidlais o etholiadau y Cynulliad yn 1997, sef
Ewrop 2009 - 1972.
Cynulliad 2007 - 1878.
Os gawn ni 15% or bleidlais mewn etholiad San Steffan a cymeryd 50% yn pleidleisio mi ryda ni'n edrych ar 4,000 i 5,000, a mi fydd hynny yn gneud hi'n agos iawn rhwng Llafur ar Ceidwadwyr yma.

Anonymous said...

Sylwadau diddorol iawn gynnoch chi unwaith eto yn eich erthygl am y perygl i Lafur yn ystod yr etholiad cyffredinol nesaf. Fodd bynnag, fe hoffwn i anghytuno â'ch barn mai'r Democratiaid Rhyddfrydol/cynnydd Plaid sy'n peri gofid i Lafur yng Ngorllewin Caerdydd. Mae'r Ceidwadwyr wastad wedi dod yn ail i Lafur yn yr etholaeth hon ar wahân i etholiad cyffredinol 1983 pan gollodd Llafur y sedd i'r Ceidwadwyr. Yn ogystal â hyn, fe wnaeth pleidlais y Ceidwadwyr yn yr etholaeth ddyblu o'i gymharu â 2003, yn etholiadau'r Cynulliad 2007, gan haneru mwyafrif Llafur drostynt a'r Democratiaid yn dod yn bedwerydd gwan y tu ol i Blaid Cymru. Prin iawn y gall Plaid ddisgwyl ennill etholaeth ddinesig mewn etholiad cyffredinol pan fo'r Ceidwadwyr yn dangos yn gryf yn y rhan fwyaf o'r polau piniwn diweddaraf. Felly dim ond un bygythiad gwir sydd i Lafur, sef y Ceidwadwyr. Er na fydd pleidiau'r Chwith yn ei gweld hi'n hawdd cyfaddef hynny.

menaiblog said...

Diolch am y sylw yna Anhysbys, roeddwn wedi gwneud camgymeriad trwy gyfeirio at Gorllewin abertawe fel Gorllewin Caerdydd - mae'r dinasoedd deheol 'ma'n gallu edrych yr un peth o'r pellter yma.

Rydych yn hollol gywir nad ydi'r Lib Dems yn fygythiad o unrhyw fath yng Ngorllewin Caerdydd.

Byddwn hefyd yn derbyn mai'r Toriaid fyddai'r ffefrynau clir i guro Llafur yno yn 2010 (os oes rhywun yn gwneud hynny).

Efallai y bydd yr etholiadau Cynulliad yn gwahanol. Os bydd y Toriaid wedi curo Llafur yng Ngorllewin Caerdydd yn 2010, yr her i'r Blaid wedyn fyddai argyhoeddi'r etholwyr mai hi'n unig allai guro'r Toriaid. Gallai argyhoeddi digon o bobl o hynny, ynghyd a thueddiad y Toriaid i dan berfformio mewn etholiadau Cynulliad arwain at ganlyniad diddorol o safbwynt y Blaid.