Friday, June 26, 2009

Yr Arwisgiad, G'narfon a Llais Gwynedd

Mae'n ddeugain mlynedd ers yr arwisgiad diwethaf, a bu dadlau yn y wasg, os nad yn unrhyw le arall, ynglyn a'r cwestiwn o gynnal un arall.

Mi wna i ddechrau trwy ddatgan yr hyn sy'n amlwg - 'dwi'n erbyn cynnal yr arwisgiad eto yng Nghaernarfon, Caerdydd nag mewn unrhyw ddinas, dref neu bentref arall yng Nghymru.

Mae dau reswm am hyn. Yn gyntaf, o lle 'dwi'n sefyll yn wleidyddol mae'n weithred gyfangwbl wyrdroedig i unrhyw genedl ddathlu rhywbeth a ddigwyddodd yn sgil difa ei strwythurau gwleidyddol cynhenid ac a arweiniodd at ei israddio i statws rhanbarthol am saith gan mlynedd.



Yn ail mae gen i gof plentyn o fyw mewn pentref ar gyrion Caernarfon yn 1969, ac roedd yn gyfnod cwbl anymunol a chynhenus, gyda theuluoedd, cyfeillion a chymdogaethau yn cael eu hollti. Fyddwn i ddim yn dymuno'r un peth ar unrhyw ardal yng Nghymru.

Os ydi'r teulu brenhinol eisiau cynnal rhyw seremoni neu'i gilydd yn eu gwlad eu hunain, yna mae hynny rhyngddo nhw a'u pethau.

Mae unig gynrychiolydd Llais Gwynedd ar Gyngor Tref Caernarfon yn anghytuno efo fi. Yn ol fy nghopi cyfredol o Golwg (nid y ffynhonell mwyaf dibenadwy mae'n rhaid cyfaddef) mae Anita Kirk yn dweud - Fy hun d'wi'n meddwl fysa fo'n beth da. Does yna ddim busnes yn y dre 'ma - fysa fo'n dod a lot o fusnes fewn i dre'. Mae'n amlwg ei bod yn poeni y gallai'r sbloets fawr fynd i'r De - Dydan ni ddim isho fo fynd i Gaerdydd - i ochrau yma ddyla fo ddod, i Gaernarfon. fodd bynnag 'dydi hi ddim yn colli'r cyfle i sgorio pwynt gwleidyddol - Fysa pobl Gaernarfon a'r stadau i gyd wrth eu bodd. Fysa Plaid ddim, ond fysa pobl Dre wrth eu boddau.

A waeth i ni fod yn blaen, mae'r sylw olaf yn eithaf dadlennol - mae yna elfennau o'r traddodiad Prydeinig lleol yn y gorffennol wedi gweld digwyddiadau fel hyn fel ffordd o rwbio trwynau'r sawl sy'n perthyn i'r traddodiad cenedlaetholgar yn y baw - troi North Road yn eu Garvaghy Road bach nhw eu hunain os y mynwch.

'Rwan nid bwriad y darn yma ydi ymosod ar Anita - mae ganddi hi cymaint o hawl i'w barn na sydd gen i. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wledydd annibynnol nid oes gan Gymru naratif cytuniedig sy'n diffinio pwy a beth ydym ni. Mae gennym dair neu bedair naratif gwahanol sy'n cystadlu efo'i gilydd. Mae naratif Anita wedi ei seilio ar ganfyddiad cwbl wahanol o'r hyn ydyw Cymru i'r canfyddiad sydd gen i.

Gyda llaw 'dydi defnyddio termau fel 'brad', fel y gwnaethwyd mor aml yn ol yn 68 a 69 gan bobl o fy nhraddodiad i ddim yn briodol mewn sefyllfa fel hyn - pan rydym yn fradwyr cenedlaethol, rydym yn bradychu dehongliad cytunedig o genedligrwydd. Lle nad oes canfyddiad cytunedig, dydi'r term na'r cysyniad ddim yn rhai addas.

Bu Anita'n gyson ers degawdau ynglyn a'r math yma o beth - yn wir roedd yn dweud y drefn wrth glerc y Cyngor Tref ychydig wythnosau'n ol oherwydd nad oedd baner yr Undeb yn hongian uwch ben yr Institiwt ar benblwydd swyddogol y Frenhines. 'Dwi'n anghytuno efo, ac yn wir 'dwi'n casau'r fersiwn o Gymru mae hi'n ei harddel - ond fel y dywedais, mae ganddi hawl i goleddu'r fersiwn honno, ac nid yw bod yn driw iddi yn ei gwneud yn fymryn gwaeth person.

'Dydw i ddim* chwaith yn ceisio awgrymu am funud y bydd yna fflot yn llawn o gynghorwyr Llais Gwynedd yn crechwenu tra'n gwisgo'n debyg i selogion y Last Night at the Proms ac yn bloeddio God Save the Queen a Land of Hope & Glory tra'n chwifio fflagiau'r Undeb wrth ddilyn y Rolls Royces brenhinol ar eu taith araf i fyny Ffordd y Gogledd, tua'r gorllewin i gyfeiriad y dref gaerog a chanol G'narfon - ac yn wir tua chalon y genedl.

I'r gwrthwyneb, 'dwi'n gwybod bod un neu ddau ohonynt yn edrych ar y byd o'r un perspectif na fi. Y pwynt ydi bod ganddynt gynrychiolwyr etholedig fyddai'n ddigon bodlon sefyll ar y fflot. Oherwydd mai plaid wrth Plaid Cymru ydynt yn annad dim arall, gallant ddenu arch Brydeinwyr a chenedlaetholwyr Cymreig rhonc. Efallai na allant eu rhoi ar yr un fflot brenhinol, ond gallantyn hawdd eu cael i eistedd a phleidleisio efo'i gilydd mewn siambr cyngor.

Mae'r blog yma wedi dadlau ar sawl achlysur bod gwleidyddiaeth Cymru yn newid, ac y bydd yn esblygu i fod yn un sydd wedi ei nodweddu mwyfwy gan hollt rhwng gwleidyddiaeth cenedlaetholgar a gwleidyddiaeth gwrth genedlaetholgar (hy Prydeinig) yn y dyfodol. Bydd y wleidyddiaeth sydd wedi dominyddu Cymru am ganrif - yr un sydd wedi ei seilio ar ganfyddiad y De diwydiannol o'r hyn yw Cymru - yn llai pwysig nag y bu.

Efallai bod y canfyddiad hwnnw yn un cywir, ac efallai nad yw. Ond y naill ffordd neu'r llall mae'r hollt eisoes yn bodoli, ac mae wedi bodoli ar rhyw ffurf neu'i gilydd trwy'r canrifoedd. Mae hefyd yn bodoli yng Ngwynedd yn gliriach nag yn unrhyw ran arall o'r wlad. Ac eto - ac eto nid oes gan Lais Gwynedd unrhyw farn ar y mater. Mae o leiaf un o'u cynrychiolwyr etholedig yn dadlau'n gryf o blaid hawl y wladwriaeth Brydeinig i reoli Cymru ac i wthio eu symbolau a'u defodau arnom, tra bod eraill yn amlwg yn erbyn, ond yn fud.

Tybed pam bod cenedlaetholwyr Llais Gwynedd yn ymddangos yn fud ynglyn a'u cenedlaetholdeb nhw, tra bo'r gwrth genedlaetholwyr yn eu mysg mor barod i ddatgan eu Prydeindod?

* Mae'r darn yma wedi ei dduo er mwyn rhoi cymorth i ohebwyr Golwg.

7 comments:

Alwyn ap Huw said...

Wrth feddwl am y dathliadau deugain mlynedd yn ôl y llun sydd wedi ei hargraffu ar fy ymennydd yw bod mewn parti stryd ar yr ystâd tai cyngor lle roeddwn yn byw yn mwynhau parti gwerth chweil. Edrych i fynnu o'r rhialtwch a gweld ffrind annwyl o'r ysgol yn edrych trwy ffenestr ei loft yn crio, gan fod ei dad o genedlaetholwr wedi ei wahardd "ar egwyddor" rhag ymuno a'r hwyl.

Rwy’n ddeall egwyddorion y tad, ac yn gallu eu parchu, ond rwy'n cofio dagrau'r hogyn - i blentyn 9 oed party yw parti, nid plaid wleidyddol!

Rwy’n falch bod Elisabeth yr Ail wedi byw cyhyd, a bod fy mhlantos i, bellach, yn ddigon hen i benderfynu trostynt eu hunain os ydynt am ddathlu neu anwybyddu sploets brenhinol.

Rwy'n falch fy mod wedi osgoi'r penderfyniad anodd o orfod sefyll ar fy egwyddorion neu adael i'r hogiau ymuno mewn hwyl parti stryd efo'u ffrindiau. Byddwn i ddim yn dymuno i'r un rhiant gorfod gwneud y fath ddewis.

Mae'r syniad o arwisgiad arall, a rhieni yn gorfod gwneud y fath benderfyniadau, eto, yn codi cyfog arnaf.

Anonymous said...

Cytuno efo Alwyn, peth anodd i blentyn pan mae eraill yn mwynhau. Roedd fy nhad yn genedlaetholwr, ond mewn parti roeddwn I yn fachgen ifanc trowsus bach, gan mi benderfynnodd mai parti ydi parti i blentyn.

Gyda llaw Blog Menai, onid yw Plaid Cymru ei hunan yn gobeithio yn ddistaw bach am arwisigad arall yng Nghaernarfon ? Gweler wrth gwrs cyn gynghorwyr y Blaid ar y Cyngor Tref sydd wedi yn y gorffennol croesawy gyda dwylo agored y teulu brenhinol atgas hyn i Gaernarfon ac yn ymfalchio yn eu presenoldeb.

Ac beth fuasai safiad Dyfed Edwards petaent yn cynnal arwisgiad. Beth ydi sefyllfa Clown Ellis Thomas sydd yn ymgrymu mor isel o flaen Bet mae'n llyfu ei thraed ac yn llwyr ysgwyd llaw Phil the Greek !!

Diddorol fuasai gweld.

menaiblog said...

'Dwi ddim yn siwr o beth i'w wneud o sylwadau fy nghyfaill anhysbys.

'Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw 'gyn gynghorwyr' PC yng Nghaernarfon oedd yn gefnogol i'r Arwisgiad ac mae DET wedi datgan yn gyhoeddus na ddylid cynnal seremoni rwysgfawr arall yng Nghaernarfon - gweler http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/wales_politics/7661270.stm

Anonymous said...

Cynghorydd Helen Gwyn oedd un, Gas gen i yn bersonnol Bet a Phil, a'r holl sefydliad maen't yn sefyll amdan.

Sut mae Plaid yn derbyn seddi yn y ty arglwyddi, onid yw hynny yn warthus. Cywilyddus a dweud y gwir yn mynd yn erbyn popeth mae Plaid Cymru wedi sefyll amdan, ac mae o y peth mwyaf sydd yn gwneud i bobl Gwynedd fynd yn eu h'erbyn, mwy na mater yr ysgolion ma.

rhydian fôn said...

Anhysbys: Yn y Cyngor Cenedlaethol pan ddaeth y mater Ty'r Arglwyddi i drafodaeth, roedd dadleuon cryf iawn o blaid ac yn ei erbyn.

Y rheswm am y penderfyniad, ar fy rhan i o leiaf. oedd bod 'hung parliament' neu llywodraeth gyda mwyafrif bach iawn yn debygol iawn wedi'r etholiad nesaf. Byddai hyn yn golygu mae'r Arglwyddi fyddai'r gam bwysig i wneud deddfwriaeth. Ers 2005, a llywodraeth Llafur gyda mwyafrif gymharol fach, rydym wedi gweld dylanwad yr Arglwyddi - ac mi fydd yn fwy wedi'r etholiad nesaf.

Golyga hyn fod rhaid i'r Blaid gael aelodau yn y lle, er mwyn effeithio deddfwriaeth a fyddai'n ymwneud a Chymru. Mae'r Blaid am wel y lle'n gwynebu prosesau democrataidd, ond ar hyn o bryd, dydi o ddim a dyna ydi'r sustem.

Anonymous said...

Rhydian mae dy ddadl yn wan i gaela elodau o Blaid Cymru i dy'r Arglwyddi. Meddwl am hyn fel dadl. Ffrancwr yn y 1940'au cynnar yn cytuno i ymuno efo'r Nazis er mwyn cael llais tra yn disgwyl i Brydain ac America ddod i rhyddhau Ffrainc o afael yr Almaenwyr.

Dwi fel ti'n gweld ddim yn ffan o'r teulu brenhinol na chwaith o'r arglwyddi. Dwi wedi cyfarfod a dipyn ohonynt ac yn fwriadol yn gwrthod eu galw yn Arglwydd hwn a llall ind yn hytrach ynd efnyddio eu h'enwau cyntaf.

mae'n werth gweld eu gwynebau.

Felly efo plaid yn derbyn Arglwyddiaeth, maen't wedi bradychu eu pobol.

Mae maer Plaid Cymru heddiw yn y Daily Post yn croesawy y teulu brenhinol i Gaernarfon. Dwi'n teimlo isho chwdu !!

Anonymous said...

Rhydian mae dy ddadl yn wan i gaela elodau o Blaid Cymru i dy'r Arglwyddi. Meddwl am hyn fel dadl. Ffrancwr yn y 1940'au cynnar yn cytuno i ymuno efo'r Nazis er mwyn cael llais tra yn disgwyl i Brydain ac America ddod i rhyddhau Ffrainc o afael yr Almaenwyr.

Dwi fel ti'n gweld ddim yn ffan o'r teulu brenhinol na chwaith o'r arglwyddi. Dwi wedi cyfarfod a dipyn ohonynt ac yn fwriadol yn gwrthod eu galw yn Arglwydd hwn a llall ind yn hytrach ynd efnyddio eu h'enwau cyntaf.

mae'n werth gweld eu gwynebau.

Felly efo plaid yn derbyn Arglwyddiaeth, maen't wedi bradychu eu pobol.

Mae maer Plaid Cymru heddiw yn y Daily Post yn croesawy y teulu brenhinol i Gaernarfon. Dwi'n teimlo isho chwdu !!