Efallai bod angen i mi ddweud gair neu ddau ynglyn a chyhoeddi sylwadau darllenwyr.
Hyd yn ddiweddar roeddwn yn hapus i gyhoeddi sylwadau heb eu gwirio er mwyn hyrwyddo trafodaeth wleidyddol.
Nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny ar hyn o bryd oherwydd bod cymaint o sylwadau personol ac enllibus yn cael eu gadael yn y dudalen sylwadau. Mi fyddai'n braf weithiau bod yn Hen Rech Flin.
Mae rhai o'r rhain yn sylwadau enllibus am bobl dwi'n eu hadnabod ac aelodau o fy nheulu gan wrthwynebwyr gwleidyddol.
Mi fyddaf hefyd yn derbyn gwahanol honiadau am fywydau personol gwrthwynebwyr gwleidyddol.
I fod yn gwbl eglur - blog gwleidyddol ydi hwn. Does ganddo ddim gronyn o ddiddordeb ym mywyd personol neb - gwrthwynebydd gwleidyddol na chyfaill gwleidyddol. Os oes gennych storiau am fywydau personol pobl, peidiwch a'u hanfon ataf i - does gen i ddim diddordeb, ac ni fyddaf yn cyhoeddi - dim ots beth ydi'r stori, a dim ots pwy yw gwrthrych y stori honno.
'Dwi'n gwbl barod i ymosod ar ymddygiad a barn gwleidyddol pobl - ond 'dwi ddim yn bwriadu mynd ar gyfyl bywydau personol neb.
'Dwi'n fodlon cyhoeddi pob cyfraniad gwleidyddol - pa mor bynnag feirniadol o fy safbwyntiau i - ond 'dwi ddim yn bwriadu cyhoeddi dim nad yw'n ymwneud a gwleidyddiaeth.
Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad gyfeillion.
4 comments:
Yn cytuno yn llwyr. Er nad wyf y cytuno efo dy Wleidyddiaeth di mwyach Blog Menai gan fy mod erbyn hyn yn gyn aelod o'r Blaid.
Be ti'n feddwl o Faer Caernarfon (Plaid Cymru) yn gwahodd Charlie Boy i'r Dre ?
Ych a fi. Sgwn I gai ffein am luchio wyau pan ddaw ?
Problem unrhyw blaid wleidyddol yn y bon yw ei bod yn glymblaid o bobl sydd a barn wahanol am amrywiaeth o faterion.
Mae'n gallu bod yn fwy cyfforddus peidio a bod yn rhan o blaid a felly sicrhau ein purdeb ideolegol ein hunain - ond fedra ni ddim sicrhau fawr ddim yn wleidyddol ar ein pennau ein hunain.
Nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny ar hyn o bryd oherwydd bod cymaint o sylwadau personol ac enllibus yn cael eu gadael yn y dudalen sylwadau. Mi fyddai'n braf weithiau bod yn Hen Rech Flin.
Be di byrdwn y frawddeg yma?
A wyt yn awgrymu fy mod i'n gwneud sylwadau personol ac enllibus neu fy mod yn caniatáu'r fath sylwadau ar fy mlogiau?
A wyt yn awgrymu fy mod i'n gwneud sylwadau personol ac enllibus neu fy mod yn caniatáu'r fath sylwadau ar fy mlogiau?
Arglwydd mawr nag ydw Alwyn, i'r gwrthwyneb - 'dweud bod dy dudalen sylwadau di yn cael llonydd gan bobl sydd a rhyw fendeta neu'i gilydd i'w chynnal, tra bod tudalen sylwadau fy mlog i yn dennu sylwadau sydd ddim yn briodol i'w dangos yn gyhoeddus.
Post a Comment