Thursday, June 04, 2009

Etholiadau Ewrop 3

Mae yna chwe gorsaf bleidleisio yng Nghaernarfon.

Roedd y ganran a bleidleisiodd rhwng 20% a 30%. Yr ardaloedd tlotaf oedd y rhai gyda'r ganran isaf yn pleidleisio, a'r rhai cyfoethocaf oedd efo'r ganran uchaf.

Felly mae'r ganran ar tua 25% yn gyffredinol uwch nag oeddwn yn ei ragweld am bump o'r gloch.

I'r cyfaill oedd yn holi os ydi hyn yn dda i'r Blaid, dydw i ddim yn siwr - ond mae'n sicr yn ddrwg i Lafur.

3 comments:

Preseli said...

Cofia fod pleidleisiau post i'w hychwanegu i'r cyfanswm aeth mewn i'r blychau heddiw.

Mae'r canran pleidleisio yng Ngogledd Preseli yn edrych yn debyg iawn - 20-25%, heb gynnwys y pleidleisiau post. 30% ar y gorau dywedwn i.

Heb glywed dim eto o'r trefi mawr ym Mhreseli, lle mae Llafur wedi bod yn gryf yn y gorffennol.

Cai Larsen said...

'Dwi wedi cymryd y pleidleisio post i ystyriaeth.

Preseli said...

Wedi cael cadarnhad mai c.33% yw'r canrannau pleidleisio swyddogol ym Mhreseli ac hefyd yn Gorllewin Caerfyrddin. Dim mor wael a'r disgwyl.