Saturday, June 20, 2009

Gwleidyddiaeth Newydd i Gymru?

Mae Hen Rech Flin wrthi'n codi cwestiwn pam bod y Blaid yn dychryn cenedlaetholwyr naturiol fel fo o'i rhengoedd.

Mae HRF a minnau wedi croesi clefyddau ynglyn a hyn o'r blaen - sawl gwaith. Byrdwn cwyn HRF (os nad ydwyf yn ei gamddaeall) ydi bod y Blaid yn rhy bell i'r Chwith, a bod hynny'n llesteirio ar ei chenedlaetholdeb. 'Dwi'n siwr na fydd HRF yn meindio os 'dwi'n nodi ei fod yn geidwadwr 'c fach'.

Fy ateb iddo yn nad yw'n bosibl ennill etholiadau heb bolisiau economaidd a chymdeithasol, a bod rhaid i'r rhain fod yn rhai sydd yn cyd redeg a dyhiadau pobl Cymru. Mae'r wlad oherwydd ei hanes a natur ei heconomi yn gogwyddo tua'r Chwith (pwnc da i flog erbyn meddwl), ac o ganlyniad mae'n rhaid i'r Blaid droedio'r tirwedd gwleidyddol yma. Byddai dilyn cyngor HRF yn arwain at dranc etholiadol.

Mae hefyd yn foesol gywir i ddilyn y trywydd yma yn fy marn i, ac ar ben hynny mae'r cysyniad i chware teg yn ganolog i hunaniaeth cenedlaethol llawer o Gymry. Ond yn anffodus mae dilyn y trywydd yma wedi arwain at golli cenedlaetholwyr da fel Alwyn, ac mae hynny'n fater o dristwch.

Serch hynny, efallai y bydd pethau'n newid yn y dyfodol agos. Mae'r blog diwethaf i mi ei gynhyrchu yn dadlau y gallai gwleidyddiaeth Cymru ail strwythuro mewn ffordd fydd yn ei normaleiddio - yn ei wneud yn wleidyddiaeth sydd a statws cyfansoddiadol Cymru yn fwy canolog iddo na gwleidyddiaeth dosbarth cymdeithasol. Ar rhyw ystyr bydd gwleidyddiaeth Cymru wedi gwneud tro llawn, a bydd yn fwy tebyg i wleidyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg nag i wleidyddiaeth y degawdau diwethaf. 'Dydi hynny ddim yn golygu na fydd materion economaidd / cymdeithasol yn bwysig - ond byddant yn llai pwysig nag ydynt ar hyn o bryd.

O dan amgylchiadau fel hyn - lle mae newid statws cyfansoddiadol Cymru yn fwy canolog i wleidyddiaeth Cymru - bydd yn haws i'r teulu cenedlaetholgar gyd fyw efo'i gilydd yn ddiddig - ac os gwireddir hynny, fydd yna neb yn hapusach na fi.

9 comments:

Anonymous said...

Problem Plaid = Y Cynulliad!
Cyn y Cynulliad roedd Plaid yn gallu bod yn ddwy blaid ar yr un amser.

Plaid i'r chwith o'r canol, ella i'r chwith o Lafur hyd yn oed, yn y cymoedd ac i raddau y gogledd ddwyrain. Plaid oedd a phwyslais ar sosialaeth.

Plaid i'r dde, rhwng y tir canol a'r Toriaid yn y rannau gwledig o'r gogledd orllewin a'r de orllewin. Plaid oedd a phwyslais ar Y Gymraeg.

Roedd darpar sosialwyr di-gymraeg y de a darpar doris/ryddfrydwyr Cymraeg y gogledd i gyd yn gallu uniaethu a'r Blaid gan bod yna, i bob pwrpas, weithredu dwy set o bolisiau lleol oedd yn plesio.

Ers sefydlu'r Cynulliad mae'r Blaid wedi gorfod meddwl am bolisiau fyddai'n plesio'r ddwy adain.

Mae'r gogwydd wedi mynd i'r chwith er mwyn trio dennu mwy o bleidlais yn y cymoedd gan risgio na fyddai 'selogion' y gogledd yn troi cefn.

Un enghraifft syml o hyn efallai ydi'r newid delwedd, y logo newydd, "party of wales" ayb.

Dyma ran o Wiki Ieuan Wyn er enghraifft arall:
"...steering a middle course between his party's (predominantly southern) socialists and the language-inspired activists of the party's Ynys Môn and Gwynedd heartland."

Trafodwch!

menaiblog said...

Mae'r Blaid llawer cryfach ers i'r Cynulliad ddod i fodolaeth, ac mae Llafur yn fwy gwan o lawer.

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n ddeall dy bwynt am drywydd economaidd a chymdeithasol y Blaid, ond byddwn yn dadlau mae polisïau democrataidd cymdeithasol sydd yn fwy cydnaws a hanes Cymru na'r gomiwnyddiaeth sydd yn cael ei harddel gan y rhan fwyaf o sosialwyr croch y Blaid.

Y broblem efo dilyn polisiau sydd yn cyd-fynd a hanes Cymru yn y ganrif ddiwethaf yw bod yr hanes yna wedi bod yn un o dlodi a dibyniaeth. Os ydym am weld Cymru annibynnol lewyrchus mae angen polisiau economaidd a chymdeithasol sydd yn mynd i greu llewyrch ac annibyniaeth unigol a chymdeithasol yn ogystal ag annibyniaeth wleidyddol.

Gwendid gwleidyddol / etholiadol dilyn polisiau "hen Lafur" hanesyddol Cymru yw bod gan bobl Cymru plaid arall sydd yn gallu anwesu'r hanes yna - sef y Blaid Lafur. I gystadlu mae'n rhaid i'r pleidiau eraill cael polisiau amgen. Y rheswm pam bod y sawl a oedd wedi cael llond bol o Lafur heb droi at y Blaid yn etholiad Ewrop oedd bod y Blaid yn cynnig llun arall o Lafur i'r etholwyr yn hytrach na dewis amgen.

Mae yna wendid yn naratif y Blaid wrth gynnig polisiau economaidd hen Lafur hefyd. Ar y naill law mae'r Blaid yn dweud bod gafael Llafur ar wleidyddiaeth Cymru am bron i ganrif wedi bod yn fethiant, ond ar y llaw arall mae'r Blaid yn dweud ei fod am ddilyn y trywydd economaidd a arweiniodd at y methiant hwnnw!

menaiblog said...

Mi'r ydan ni ar dir braidd yn gymhleth yma HRF - a dydi hi ddim yn bosibl ymdrin a phethau mewn ateb cwta - ond un neu ddau o bwyntiau cyflym.

'Dydi disgrifio gwleidyddiaeth PC fel un 'comiwnyddol' ddim yn gywir.

Mae gwleiyddiaeth economaidd / cymdeithasol Cymru yn cael ei yrru gan y ffaith ein bod yn ddibynol ar arian cyhoeddus i raddau uwch na llawer o weddill y DU. Adlewyrchiad ydi hynny o dan gyflawniad economaidd, sydd yn ei dro yn adlewyrchiad o'r ffaith nad ydym yn gyfrifol am ein tynged economaidd ein hunain.

Mae hyn yn cael effaith ar natur gwleidyddiath Cymru - 'dydi pobl sy'n ddibynol ar arian cyhoeddus ddim yn arddel gwleidyddiaeth sy'n debygol o arwain at doriadau mewn gwariant cyhoeddus.

Tra bod Cymru'n rhan o'r gyfundrefn Brydeinig, mae'n mynd i arddel gwleidyddiaeth o fath arbennig, a thra ei bod yn arddel y wleidyddiaeth honno mae'n llai tebygol o dorri ei chysylltiad efo'r wladwriaeth Brydeinig.

Catch 22 ydi'r term Saesneg 'dwi'n meddwl.

Ond mae'n rhaid i ti weithio oddi mewn i gyfyngiadau'r Catch 22 yna mae gen i ofn. Petai'r Mudiad Cenedlaehol ar y Dde byddai ar dir gwleidyddol sy'n groes i fuddiannau'r rhan fwyaf o bobl Cymru. Mi fyddai hynny yn gwneud annibyniaeth hyd yn oed yn llai tebygol.

rhydian fôn said...

Alwyn:: "Comiwnyddiaeth" eto! Sosialaidd ddemocrataidd yw'r Blaid, neu sosialaidd ddatganoledig. Lle mae'r sôn am gomiwnyddiaeth ym mholisiau'r Blaid?

Anonymous said...

Mae'n ymddangos mai newid polisiau (o'r dde-canol i'r chwith) er mwyn denu hen bleidleiswyr Llafur mae Plaid wedi'i wneud, ac wrth wneud hynny, gefnu ar ei thraddodiadau'i hunan. Mae'n amlwg ar y fforwm yma bod llawer o'i chefnogwyr yn siomedig bod Plaid Cymru heb elwa gymaint o gwymp y Blaid Lafur. Fodd bynnag, pan geir cynrychiolwyr y Blaid yn son am atal pobl rhag prynu'u tai cyngor, sef un o bolisiau mwya poblogaidd yr '80au yng Nghymru a alluogodd miloedd i brynu'u tai am y tro cyntaf erioed, gall dyn ddeall methiant y Blaid. Mae'n amlwg eu bod yn anelu'u polisiau i dargedu'r hen ddosbarth gweithiol ar adeg pan fo'r Cymry wedi symud ymlaen. Mae ei phobl yn fwy hyddysg nag erioed ac mae eu dyheadau'n fwy uchelgeisiol iddynt fodloni ar gefnogaeth barhaol y wladwriaeth i'w cynnal. Beth mae'r Blaid yn ei gynnig i unrhyw un nad ydyw'n Sosialydd rhonc? Dim byd o gwbl!

rhydian fôn said...

Anhysbys: Mae tai cyngor wedi cael eu gwerthu ers yr 80au, heb fod na bolisi i sicrhau fod mwy yn cael ei adeiladu. Efallai'n wir fod Cymru'n fwy hyddysg, ond mae miloedd o bobl yn dal i ddibynnu ar dai cyngor.

Gan nad ydym yn gallu adeiladu mwy, onid y peth call i'w wneud yw peidio a gwerthu'r stoc sydd ar ol er mwyn sicrhau fod tai cyngor ar gael i'r rhai sydd eu hangen? Nid sosialaeth rhonc yn fy marn i, ond synnwyr cyffredin!

Aled J said...

Roedd yr etholiad Ewropeaidd diweddar yn dangos dilysrwydd y model honno y lluniodd dennis balsom rhai blynyddoedd yn ol, h.y bod modd rhannu Cymru yn dair rhan gwleidyddol- Y Fro Gymraeg(PC), Welsh Wales-Llafur, British Wales-Toris. Wedi dweud hynny, un nodwedd newydd sydd ar waith yn y map erbyn hyn ydi bod Welsh wales yn cael ei gwasgu gan British wales. Mae mwy nag un rheswm dros hyn, ond yn bersonol, dwi'n meddwl mai un ohonynt ydi methiant y model sosialaidd lafurol. Tydi'r model sosialaidd, gwladwriaethol, top-down, paternalistig ddim yn gweddu ag ysbryd ein hoes, lle bo unigolion isio cael mwy o ddweud dros eu bywydau eu hunain, isio bod yn fwy rhydd i lywio pethau drostynt eu hunain ac ati. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod PC yn anwybyddu hyn a pharhau i gofleidio'r deinosor sosialaidd yn y gred mai dyna'r modd o ennill Welsh wales. Fel arall y mae hi yn llwyr. Er mwyn herio twf British wales,( a chynnal Welsh wales yr un pryd) mae angen llunio gweledigaeth Gymreig newydd gyda CHYMREICTOD wrth wraidd y weledigaeth honno, fyddai hefyd yn cynnwys elfennau o geidwadaeth glasurol ( pwysigrwydd yr unigolyn, busnesau bychain teuluol, entrepreneuriaeth ac annog economi greadigol a dyfeisgar).

celyn said...

Diom yn wir mai ceidwadol ydi cefnogaeth y Blaid yn y Gymru Gymraeg. Lle mae o ar ei gryfa? Yn yr ardaloedd chwarelyddol a cyn-lofaol. Hen bleidlais Llafur a radical Liberal mae nhw wedi cymryd. Dwi'm yn credu fod na lawer o ffermwyr Ceidwadol wedi switsio i'r Blaid dros y degawdau dwytha.

O ran cofleidio deinosor - dydi sosialaeth ddim yn wladwriaethol. Mae sosialaeth yn parchu'r unigolyn ac yn rhyddhau'r unigolyn - mae galw'r Blaid Lafur yn Sosialaidd yn nonsens. Plaid gyfalafol gwladwriaethol fu Llafur erioed. Dwi'n meddwl fod y Blaid yn apelio i'r Cymry, sy wastad wedi arddel mentrau cydweithredol (e.e. cymdeithasau tai, mentrau cydweithredol rhwng ffermwyr a gweithwyr).