Monday, June 08, 2009

Yr ail etholiad Ewrop orau i'r Blaid erioed!

Rhyw dynnu coes ydw i - ond 'dwi'n meddwl bod hynny'n wir beth bynnag. Dim ond y 29.6% a gafwyd yn 1999 oedd yn well.

Bryd hynny daeth y Blaid yn gyntaf yn Ne Penfro - Gorllewin Caerfyrddin, Islwyn, Dwyrain Caefyrddin - Dinefwr, Ceredigion, Y Rhondda, Pontypridd, Caernarfon, Conwy, Meirion Nant Conwy, ac Ynys Mon. O berfformio felly'r tro hwn byddem hefyd, mae'n debyg, wedi ennill yn Ne Clwyd, Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro, Caerffili, Cwm Cynon, Ogwr, Aberafon, Bro Gwyr, Castell Nedd a Blaenau Gwent. Ychydig iawn, iawn o seddi fyddai Llafur wedi eu hennill yng Nghymru. Dydi'r panic sy'n ymestyn trwy'r Blaid Lafur Gymreig yn ddim wrth ymyl y panic fyddai yn cydio ynddynt petaem wedi llwyddo i ailadrodd perfformiad 99. Mi fyddai yna banic yn rhengoedd y pleidiau adain Dde unoliaethol hefyd.

Ond ni wireddwyd hynny - yn rhannol oherwydd i bleidiau bach fel y Blaid Werdd gystadlu'n effeithiol am bleidleisiau, ond yn bennaf oherwydd i ni fethu a pherswadio pleidleiswyr naturiol Llafur i bleidleisio i ni yn hytrach nag aros adref yn pwdu. Dyna pam bod Hen Rech Flin yn anghywir pan mae'n honni mai prif gamgymeriad y Blaid oedd peidio ag ymosod digon ar UKIP (er ei fod yn fwy cywir na mi wrth ddarogan y canlyniad a bod yn deg). Gelyn Plaid Cymru ydi Llafur. Mae UKIP yn pysgota yn yr un pwll etholiadol a'r Blaid Geidwadol.

Prif amcan wleidyddol y Blaid ddylai fod i ddifa'r Blaid Lafur yng Nghymru ac ennill cefnogaeth y sawl sy'n ei chefnogi ar hyn o bryd. O wneud hynny gallwn fynd ati i ail strwythuro gwleidyddiaeth Cymru mewn modd fyddai'n caniatau i ni fynd i'r afael a'r Dde unoliaethol a'i churo.

Mwy am hyn tros y dyddiau nesaf.

21 comments:

Alwyn ap Huw said...

Prif amcan gwleidyddol y Blaid ddylai fod i ddifa'r Blaid Lafur yng Nghymru ac ennill cefnogaeth y sawl sy'n ei chefnogi ar hyn o bryd.

Prif amcan gwleidyddol y Blaid tybiwn i ddylai fod i hyrwyddo'r achos cenedlaethol. Dw’n i'm sut mae modd gwneud hynny trwy beidio â thynnu sylw at agenda eithafol o wrth Gymreig UKIP. Er faint fy nghasineb tuag at y blaid honno yn sicr buaswn yn hapusach pe bai na dwy sedd Lafur eto eleni na gweld un yn mynd i blaid sydd am ddiddymu'r Cynulliad ac sydd am wahardd addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Alwyn ap Huw said...

Gyda llaw o ran faint y bleidlais yn hytrach na chanran, dyma'r canlyniad gwaethaf i'r Blaid ers 1989.

Un o Eryri said...

Cytuno yn llwyr a chdi mai difa'r Plaid Lafur Prydeinig ddylai fod yr amcan i Blaid Cymru Dyma'r Blaid mae pobl Cymru wedi ymddiried yn llwyr ynddi dros y blynyddoedd a dyma'r Blaid sydd wedi manteisio yn llwyr ar y gefnogaeth hynny, ond heb roi dim yn ol i ni fel gwlad. Os yw pobl yn pleidleisio UKIP maent yn rhy bell i ffwrdd oddi wrthym i ddod gyda ni, neu o ddilyn dadl yr Hen Rech maent yn rhy ddwl.

menaiblog said...

Nid yw'n bosibl symud yr achos cenedlaethol yn ei flaen i raddau arwyddocaol hyd nes y bydd y Blaid Lafur wedi ei throi'n un blaid Gymreig arall gymhedrol o ran maint, yn hytrach na'r blaid sefydliadol Gymreig.

Mae'n debyg dy fod yn gywir y gellid gwneud mwy i dynnu sylw at agenda wrth Gymreig UKIP - ond wnaiff hynny ddim costio pleidleisiau iddyn nhw - mae yna lawer o bobl gwrth Gymreig iawn yng Nghymru. Efallai y byddai'n annog may o bobl i bleidleisio yn eu herbyn serch hynny.

Heb edrych ar y ffigyrau, fyddwn i ddim yn synnu ei bod yn etholiad sal iawn o ran nifer y pleidleisiau i pob un o'r pleidiau prif lif. Roedd y gyfradd pleidleisio'n isel, ac mae'r gyfundrefn PR yn raddol wedi cryfhau'r pleidiau llai fel mae pobl yn dod i'w deall.

Alwyn ap Huw said...

Iawn Brens Eryri!

Mae fy nhad a fy ewyrthod wedi pleidleisio'n driw i Blaid Cymru ers iddynt ddod o'r fyddin ym 1945.

Fe bleidleisiasant yn erbyn y Blaid am y tro cyntaf erioed llynedd oherwydd bod addysg leol Gymreig eu gor wyrion ac wyresau yn cael ei fygwth gan Blaid Cymru, o bob Plaid.

Dyma fu hanes llawer un yng Ngwynedd.

Yn niffyg Plaid Cymru driw i'w ddaliadau i bleidleisio drosti - IWCIP, gwaetha'r modd, cafodd eu plediais brotest eleni.

Os wyt mor sicr mae'r ffordd i ail hadfer eu ffydd oesol ym Mhlaid Cymru yw trwy ddweud eu bod yn ddwl ac yn rhy bell o'r Blaid i boeni amdanynt - dadleir ati.

A phob lwc iti!

Pe bai Plaid Cymru heb golli 30 mil o'i phleidleisiau cadarn eleni mi fyddai ar y brig gyda dau aelod yn Senedd Ewrop heddiw yn hytrach nag yn y drydydd safle efo eithafwr sy'n credu mai lle ar fap yw Cymru yn cipio'r sedd spar.

Gwell i ddyfodol y Blaid byddid anelu dy ddig at y sawl a achosodd i'r fath sefyllfa codi yn hytrach nag ataf fi ac eraill sydd yn tynnu sylw i'r broblem er mwyn ceisio ei ddarostwng!

menaiblog said...
This comment has been removed by the author.
rhydian fôn said...

Alwyn: Os oedd unrhyw bleidlais brotest o gefnogwyr Y Blaid wedi mynd i IWCIP, ffyliaid oedden nhw - croeso mawr iddynt aros yna!

Anonymous said...

Menai - dwi'n meddwl mai'r peth gorau i'r Blaid a chefnogwyr y Blaid ei wneud nawr ydy arddel ychydig o wyleidd-dra, a dwi'n meddwl mai dyna mae Alwyn yn ceisio ei awgrymu. Nid pwyntio bwys jyst gofyn cwpwl o gwestynnau.

Ydi UKIP yn wrth-Gymreig, wel yn y dadnsoddiad o Gymreictod gyfansoddiadol, ydynt. Ond mae'n siwr gen i fod nifer o siaradwyr Cymraeg a Chymry digon gwladgarol wedi pleidleisio drostynt.

Mae angen i'r Blaid ddechrau holi pam? Pam fod pobl Llafur heb droi at y Blaid ... a'i achos fod y blaid ddim digon 'asgell chwith' neu 'rhy asgell dde' neu ddim digon ceidwadol neu be? Rhan o'r broblem yw diffinio bellach beth yw asgell chwith a'r dde. Mae angen siarad gyda pobl sy'n pleidleisio UKIP a holi pam? Efallai fod nhw o blaid y Cynulliad ond ddim am i Ewrop reoli popeth (faswn i'n cytuno 'da hynny) efallai fod ganddyn nhw bryderon fod yr UK yn derbyn dros 300,000 o fewnfudwyr y flwyddyn - poblogaeth Cymru mewn lai na degawd. Onid yw hyn yn rhywbeth i'w drafod.

Y gwir ydi, fel y mae bellach yn amhosib i blaid sefyll lecsiwn heb ddweud rhywbeth am yr amgylchedd neu'r iaith Gymraeg mae'n mynd yn anodd iawn i'r Blaid bellach sefyll lecsiwn a heb gael barn ar mewnfudo (i Brydain ac i Gymru) ac am bwerau i Ewrop a faint o bwer dylse Ewrop gael a faint ddylse aros gyda cenedl wladwriaeth - fel Cymru. Mae gan Blaid bolisiau fan hyn ond ddim narrative a dim strategaeth.

Does gan y Blaid ddim hawl i ddisgwyl pleidleisiau. Mewn etholaid pan welwyd pleidliau cenedlaetholaidd o bob lliw llwyddo ar draws Ewrop, ac yn Sinn Fein, SNP a MK hyd yn oed, mae Plaid Cymru yn sefyll allan fel yr unig blaid genedlaetholaidd na fanteisiodd ar hyn!

Yn bersonol dwi'n meddwl fod gormod o'n harweinwyr yn styc yn yr 1980au ac yn dal i ymladd y brwydrau hynny. Tra mai Llafurwyr yw ein targed mae angen i ni dynnu pleidleisiau o bobman. Mae'n gamgymeriad hefyd i feddwl fod y bleidlais Lafuraidd yn bleidlais asgell chwith - pleidlais geidwadol yw hi i nifer.

Mae angen i'r blaid gwneud ymchwil marchnad i'r seddi yn y Cymoedd ond yn fwy na dim mae angen ychydig o wyleidd-dra ac mae angen i ochr asgell chwith y Blaid beidio gwneud yr un camgymeriadau a'r 1980au, peidio brwydro a defnyddio yr un derminoleg a'r 1980au a deall pam nad yw pobl yn pleidleisio dros pleidiau asgell chwith mewn dirwasgiad. Nid dweud ydw i fod angen i'r Blaid droi mewn i UKIP na'r Toriaid ond holi pobl ac yna dadsoddi. Yn bersonol hoffwn weld y Blaid yn arddel naratif 'Gaullist' Gymreig ond jyst barn yw hynny.

Dwi, ac Alwyn, yn barod i newid eu meddyliau pan fod sefyllfaoedd yn newid. Ydy aelodau a chefnogwyr eraill Plaid Cymru am fod yn ddigon dewr i wneud hynny?

Masaryk

Mae'r erthygl ar Thatcher a'r 1980au yn Cambria ar y wefan yma www.sionjobbins.com yn yn crynhoi nifer o'r teimladau am ground-hog day gwleidyddiaeth Cymru.

Un o Eryri said...

Ar wahan i’r ffaith fod Alwyn ap Huw yn ceisio dweud bod pleidleiswyr y Blaid wedi pleidleisio i UKIP buaswn yn cytuno a llawer iawn o’i ddadl ynglyn a’r rhesymau na wnaeth y Blaid yn well yn yr etholiad. Y prif reswm oedd methiant i gael y bleidlais allan. Nid wyf am funud yn derbyn y ffaith bod cenedlaetholwyr cymreig wedi pleidleisio i UKIP. 1138 oedd pleidlais UKIP yn etholaeth Caernarfon a 1178 yn etholaeth Meirionydd. Yn anffodus gallaf sicrhau yr hen rech bod y nifer hynny o genedlaetholwyr Prydeinig eithafol yn byw yn ein hardal syddd yn llawn sylweddoli beth yw polisiau y Blaid afiach yma.

Ni gyhuddais ychwaith pobl fel teulu yr hen rech o fod wedi pleidleisio iddynt. Yr hyn ‘roeddwn yn datgan oedd gwrthwynebiad arweinwyr Llais Gwynedd i’r Blaid a thrwy hynny cenedlaetholdeb Cymreig a’r modd maent yn fodlon gwneud unrhyw beth i geisio mynd yn erbyn y Blaid. Fel dywedais ar y dechrau yr hyn ‘rwyf wedi ei glywed ac nid oes gennyf le i amau hynny yw bod eu Cynghorwyr ar wahan i un wedi pleidleisio i UKIP.

rhydian fôn said...

masaryk: Y drafferth gyda naratif Gaullaidd yw ei fod yn gam mor beryglus fel rhyw gymysgedd o populism a cenedlaetholdeb 'caled'. Sut mae sicrhau nad ydi'r meddylfryd yn troi'n ffasgiaidd?

O ran Ewrop, rwy'n cydymdeimlo gydda ti ac Alwyn, ac efallai yn cytuno i raddau - dwi heb fy argyhoeddi gan yr UE, a dwi yn credu fod angen i ni gywiro'r 'schizophrenia' sy'n bodoli yn y Blaid o ran Prydain/UE. Ar y llaw arall, dwi yn anghytuno gyda dy ddadansoddiad di ac Alwyn ar UKIP a'r asgell dde.

Hefyd, yn fy marn i, nid yw mewnfudo yn ffenomenon economaidd i boeni amdano. Dwi ddim yn fodlon i'r Blaid greu hysteria am rywbeth sydd ddim yn wir - popiwlistiaeth fyddai hynny. Efallai bod lle i ni siarad am sut i warchod diwylliant Cymreig mwy - rydym yn gweithio, y mesur iaith fel esiampl, ond ddim yn brolio amdano gormod. Y drafferth yw fod y Blaid yn ofni magu delwedd fel y BNP yng Nghymru.

Ar ddiwedd y dydd, dwi yn credu bod rhaid i'r Blaid fod yn gyfforddus gyda'r math o Gymru annibynnol a fydd yn cael ei greu. Ni fyddwn yn fodlon cael Cymru annibynnol os mai ffasgiaeth oedd y pris i'w dalu.

Anonymous said...

Yn amlwg nad yw Cai yn ei gweld hi, yn union fel arweinyddion Plaid Cymru. mae'r bobol sydd wedi gadael y Blaid yn etholiadau Gwynedd - DDAW NHW BYTH YN OL. Mae dicter ganddynt ar y ffordd mae Plaid Cymru wedi mynd yn blaid adain dde dosbarth canol ac wedi anghofio eu gwreiddiau. Mi siaradais efo Dafydd Wigley cyn pleidleisio ac mi ddywedais na fuaswn yn rhoi fy mhleidlais i'r Blaid. Liberals gafodd un fi a nhw geith hi eto. Neu os fydd i Lais Gwynedd sefyll yn erbyn Hywel, mi fyddwn yn rhoi y groes i Lais Gwynedd. Dynba realiti y sefyllfa i fi ac i nifer o gyn bleidwyr eraill.

menaiblog said...
This comment has been removed by the author.
rhydian fôn said...

Anhysbys: Plaid adain dde? Be'? Petai'r Blaid yn adain dde, fyddwn i fel sosialydd ddim yn aelod. Yn ol Alwyn ap Huw, mae'r Blaid mor eithafol o asgell chwith fod Comiwnyddion yn llochesu dan ei adain. Dydi cefnogaeth am ad-drefnu ysgolion er mwyn arbed arian i sicrhau safon addysg I BAWB ddim yn asgell dde!

Anonymous said...

Rhydian Fon - parthed eich trafodaeth o sylwadau Masarayk - rydych yn dadlau bod perygl i Gaulism Cymreig droi'n ffasgaeth ac, os dwi'n deall yn iawn, dylai cenedlaetholwyr Cymreig beidio a sefyll lan dros Gymru oherwydd y perygl yma. Ond gellid dadlau bod elfen gref o Gaullism yn cenedlaetholdeb Brydeinig Llafur a'r Ceidwadwyr ac mae'n glir nad ffasgwyr mohonynt (y rhan fwyaf o'r amser, er bod tueddiadau i weld weithiau). Canlyniad eich dadl i fi yw bod cenedlaetholdeb Prydeinig Llafur a'r Ceidwadwyr yn cael rhydd hynt yng Nghymru a neb yn dadlau yr achos Gymreig. Mae'r SNP yn ddigon Gaullist o ran sefyll lan dros yr Alban ac yn cael llwyddiant mawr o'r herwydd. Dwi'n tybio y gallai'r Blaid cael mwy o llwyddiant fel plaid Gauliste y "dde-ganol" neu plaid ar y chwith (ac wrth gwrs gyda PR go iawn, byddai ddwy blaid genedlaethol yn bod fel yn Catalynua a Gwlad y Basg). Ond, os plaid y chwith, ynteu'n blaid wrth-drefedigaethol go iawn; byddai angen rhoi'r gorau i swnio fel "C List" Guardianistas yn ail adrodd ystrydebau'r Brit Left a rhoi'r gorau i siarad fel second eleven Llafur ar schoolsnhospitals, amddiffyn y BBC, y British Post Office ac ati.

Efrogwr

rhydian fôn said...

O ddarllen sylw anhysbys draw ar BlogMenai, mae’n amlwg iawn fod rhai o aelodau cyntaf Llais Gwynedd wedi pwdu cymaint gyda Phlaid Cymru eu bod nhw yn barod pleidleisio i eraill a byth am bleidleisio i’r Blaid eto. Felly mae cwestiwn naturiol yn codi: ym mha flwch oedd 13 cynghorydd Llais Gwynedd wedi gosod croes ar Ddydd Iau’r 4ydd o Fehefin? Does gen i ddim bwriad enllibus felly ni wnaf gyfeirio at unrhyw bleidiau arbennig. Ond dwi yn credu fod gan yr etholwyr hawl I wybod – wedi’r cwbwl, mae pleidleisiau cynghorwyr Plaid yn mynd i’r Blaid, Llafur i Lafur, ac ati. Ond Llais Gwynedd i bwy? I blaid unoliaethol sydd am gadw Cymru ynghlwm i’r Deyrnas Gyfunol? Neu i blaid sy’n credu fod y Ddraig Goch yn arwydd o’r Diafol? Neu i blaid oedd wedi dangos eu bod methu a malio am Gymru yn eu 18 mlynedd mewn grym?

Yn sicr roedd pleidlais brotest gref iawn ym mis Mai 2008 yn erbyn y Blaid yng Ngwynedd – a deallaf pam. Deallaf hefyd fod y rhan fwyaf o’r bleidlais yma wedi dod o genedlaetholwyr. Felly mae’n rhaid i arweinwyr Llais Gwynedd roi gwybod i’r pleidleiswyr yma at pa Blaid aeth eu pleidleisiau nhw.

Rhydian Fôn James

rhydian fôn said...

Efrogwr: Pob parch, ond mae plaid asgell chwith yn gweithio dros y bobl i gyd er mwyn sicrhau budd i bawb. O hynny mae pob plaid sosialaidd yn debyg gan roi addysg, iechyd a chyfiawnder ar frig rhestr ein blaenoriaethau.

Ar ddiwylliant Cymreig, mi wna i ystyried dy sylw a cheisio ymateb yn fuan. Yn fyr, drafferth yw fod tri-chwarter o boblogaeth Cymru yn uniaith Saesneg, a nifer fawr yn malio dim am ddiwylliant Cymreig, a'n amddiffynol pan mae'r diwylliant yn cael ei drafod. Fel plaid sydd a gobaith o ennill rhain drosodd, beth a fyddai'r synnwyr yn eu dychryn. Mae Gaullism yn gweithio mewn gwledydd sydd ag undod o rhyw fath yn eu diwylliant. Yng Nghymru, rhaid adeiladu'r undod - a mae peth ffordd i fynd!

Anonymous said...

Efrogwr sydd yma. Diolch i Rydian am eich ymateb. Mae'ch daliadau i'w parchu ac yn cynrychioladol o fwyafrif o activists y Blaid am wn i, felly hoffwn ymateb eto. Rhaid esbonio pam fod y Blaid Cymru "sosialaidd" yn methu torri trwodd:

1) Y chwith/y dde a'r Blaid: Dywed Rhydian "Ar ddiwedd y dydd, dwi yn credu bod rhaid i'r Blaid fod yn gyfforddus gyda'r math o Gymru annibynnol a fydd yn cael ei greu.". Y ffordd i gael y mwyaf gefnogaeth yw cytuno i anghytuno ar rai pethau er mwyn y nod o annibynniaeth. Hunaniaeth Gymreig fydd yn ein uno tan hynny. Neu a ydych yn gweld eich hunan yn sosialydd yn gyntaf a dros annibynniaeth i Gymru'n ail?

Beth yw'r sosliaeth 'ma? Dywedwch "mae plaid asgell chwith yn gweithio dros y bobl i gyd er mwyn sicrhau budd i bawb." Eh? Ydych o blaid motherhood and apple pie hefyd, tybed? Sosialaeth yw gwladoli neu, yn hytrach, cymdeithasoli, cyfalaf y gymdeithas. Mae sosialaeth yn anelu at gyfartaledd canlyniadau (equality of outcome) hyd yn oed ar draul rhyddid yr unigolyn. Fatha "Social welfarism" (go paternalistaidd) yw credo'r Blaid, yn dilyn yr hen Lafur sydd ei hun yn marw. Dyma pam fod y Blaid weithiau'n dod drosodd fel grwp pwyso ar Lafur ac ar y wladwriaeth Brydeinig (mwy o arian Barnett, mwy i'r NHS...eh, eh? Rydyn angen ein trysolys ein hunain a'n drefn iechyd ein hunan!).

2) Perygl Ffasgiaeth. Dywedwch "Ni fyddwn yn fodlon cael Cymru annibynnol os mai ffasgiaeth oedd y pris i'w dalu." Swnio fel rhyw bydu i fi os na chewch eich ffordd. Neu godi sgwarnogod/ bwganod yr ydych? Mae mwy o berygl y cawn ni llywodraeth Ffasgaidd yn Llundain ar bleidleisiau rhannau o ogledd Lloegr a Dagenham cyn i Gymru droi'n ffasgaidd. Yr ydych yn ofnus o "Cenedlaetholdeb caled" ond cenedlaetholdeb caled yw cenedlaetholdeb - fel eiddo'r SNP a Phrydeindod hyderus Llafur a'r Toriaid. Rhyw ganlyniad i ddiffyg hyder, complex israddoldeb, yw "cenedlaetholdeb lite" y Blaid, tybiwn i. Y canlyniad: neb yn ein cymryd o ddifri, a chyfleuon llu yn mynd ar goll.

3) Hunaniaeth y Cymry (diwyddiant Cymreig)
Unwaith eto, fel gyda'ch ofnau am berygl ffasgiaeth, yr ydych yn isel eich barn am botensial pobl Cymru. Dywedwch bod y "drafferth yw fod tri-chwarter o boblogaeth Cymru yn uniaith Saesneg, a nifer fawr yn malio dim am ddiwylliant Cymreig, a'n amddiffynol pan mae'r diwylliant yn cael ei drafod....." Hefyd y dywedwch fod "Yng Nghymru, rhaid adeiladu'r undod - a mae peth ffordd i fynd". Yn union! Ond nid trwy dewi ar ddiwylliant Cymreig/Cymraeg y mae adeiladu'r undod hunaniaethol, ond trwy genhadu'n hyderus. Edrychwych ar y dystiolaeth:

a) arolygon barn yn dangos yn cyson nawr bod y hunaniaeth Gymreig yn gryfach na'r hunaniaeth Prydeinig ac ar gynnydd.
b) arolygon ar yr iaith gan Bwrdd yr Iaith eleni yn dangos 80% o blaid deddfwriaeth cryfach o lawr i hybu'r Gymraeg. Nodwch fod llawer o Gymry yn ymateb yn amddiffynnol pan y cyfyd cwestiynau diwylliannol. Da o beth! Mae hyn yn dangos nad difater mohonynt, ar ddiwedd y dydd maent yn sylweddoli ar ryw lefel mai gwerin a wladychwyd ydynt! Gellir ennill calonnau yma.
c) galw rhieni am addysg Cymraeg - hwyrach dros 50% petasai digon o ysgolion.
d) polau pinion yn dangos cefnogaeth dros 50% am ragor o rym i'r Cynulliad. Tua 13% dros annibynniaeth ER NAD YW'R BLAID YN DADLAU'N GRYF DROS ANNIBYNNIAETH. Petasai'r Blaid yn dadlau'n gryfach(gan ei chlymu wrth gwrs a chwestiynnau bara menyn - pam fod dwr yng Nghymru yn costi mwy nag yn Lloegr? Pam fod trenau Cymru mor wael?...Pam nad oes swyddfa dramor (gyda'r swyddi a gwario cysylltiedig) yng Nghymru)?) oni fyddai momentwm y Blaid yn debyg i'r SNP? Byddai'r pleidiau eraill wedyn yn gorfod gwneud y ddadl dros ddatganoli fel y maent yn yr Alban. Ie, mae gwahaniaethau rhwng yr Alban a Chymru ond cafodd Gwynfor ei ethol cyn Winnie Ewing. Daeth y canlyniadau mawr yn is-ethoiadau eraill ddiwedd y 60au cyn i'r Blaid ddechrau chwarae gyda "sosialaeth" a chyn i'r gymdeithas sifil ddatblygu fel mae hi ers sefydlu'r Cynulliad.

rhydian fôn said...

Efrogwr: Dwi ddim eisiau mynd i ddadl hir am yr asgell chwith (gan fod cyfrolau wedi eu ysgrifennu yn barod) ond mi fuaswn yn dadlau nad ydi sosialaeth yn gorfod gweithio at reolaeth cannolog a dirywio hawliau'r unigolyn. Sosialaeth eithafoll wrth gwrs, ond mae nifer o ffyrdd i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol heb amharu ar hawliau pobl.

O ran cenedlaetholdeb v. sosialaeth, fe wyf innau'n gweld fy hun fel y ddau ar unwaith, ac nid un uwchben y llall. Mae'n wir na fyddwn i'n fodlon byw mewn Cymru annibynnol-ond-ffasgaidd, a dyma dwi yn rhybuddio yn erbyn gyda fy ymateb i Gaulliaeth yng Nghymru. Rhaid i'r Blaid greu Cymru rydd - os yn un asgell dde, dwi'n parchu hyn, ond ni fuasem ni fel Plaid yn fodlon adeiladu gwlad ffasgaidd.

Ar dy bwynt olaf, hoffwn gyfeirio at y refferendwm diwethaf. Rydym yn wynebu 15 mlynedd arall o lywodraeth Toriaidd. Os ydym yn cynnal refferendwm a'i cholli - pwy a wyr pryd y cawn gyfle eto. Dwi o blaid refferendwm ym mis Mai 2011, fel y nodais ar flog Alwyn ap Huw heddiw, ond rhaid bod yn ofalus er mwyn denu pleidleiswyr dros Gymru. Os ydym yn defnyddio rhyw fath o Gaullism, byddai grwpiau fel True Wales wrth eu bodd fod 'the Nashies are showing their true colours' ac ati. Mae'r polau piniwn diweddar yn wych, a dwi yn ysu am refferendwm. Ond rhaid peidio ac ymateb yn or-frwdfrydig. Mae consensws, ond un bregus, a rhaid i ni beidio a sathru arno yn ein brwdfrydedd. Dwi ddim yn barod aros 15 mlynedd arall am refferendwm - rhaid i ni ei gael o'n iawn tro 'ma!

Sori am frysio - mi wnai ymateb yn llawn ar fy mlog yn fuan. Diolch am drafodaeth ddiddorol.

Anonymous said...

Rhydian - diolch am eich ymateb.

Ar ffasgiaeth dwi'n ail adrodd mai bwgan llwyr yw hyn: "ni fuasem ni fel Plaid yn fodlon adeiladu gwlad ffasgaidd". Ond does neb yn awgrymu hynna a does dim siawns o wladwriaeth ffasgaidd yng Ngymru (oni bai bod y BNP yn cipio grym yn Llundain). Dwi'n ofnu bod cystylltu cenedlaetholdeb Cymreig gyda ffasgiaeth yn ffordd o fwgyth a thawelu lleiafrif ethnig y Cymry Cymraeg a chenedl y Cymry, dim yn eich achos chi, dwi'n siwr, ond ni ddylwn ni ddefnyddio'r discourse yma o gwbl. Un sy wedi'i cogio gan y Welsh Mirror a'r Llafurwyr/Prydeinwyr ydyw.

O ran y ddadl "softly softly" cyn y refferendwm, dwi'n gweld lot o sens yn be' yr ydych yn ei ddweud. Dwi'n difaru daeth y Blaid ar hyd y trywydd y gwnaeth o'r 80au ymlaen ond daw'r ddal mawr tu fewn i'r Blaid ar ol ennill neu golli'r bleidlais honno, mae'n debyg.

Edrychaf ymlaen yn fawr at ddarllen rhagor ar eich blog!

Efrogwr

Efrogwr said...

Gyda'r llaw, Rhydian, beth yw cyfeiriad eich blog?

Efrogwr

rhydian fôn said...

Efrogwr: Newydd dod nol o gyfarfod ac mewn brys am baned felly ateb byr. Cawn barhau ein sgwrs yn llawnach cyn hir. Cyfeiriad fy mlog yw: www.plaidcymrubont.blogspot.com
Mae linc ar dudalen flaen blogmenai.

Ar dy ail bwynt ar refferendwm, dwi yn anghytuno i raddau ond yn gallu deall dy resymeg - mi wnai ymateb yn llawnach wedyn.

Ar ffasgiaeth, dwi ddim yn credu bod cenedlaetholdeb yn arwain yn uniongyrchol at ffasgiaeth - mae'n ddrwg gen i am roi'r argraff yna. Ond pan mae pobl yn dechrau mawrogi eu hunain mewn ffordd Gaullism, ac nid dathlu yn unig, mae'n hawdd iddo droi'n gasineb o'r 'arall'. Efallai mai peth personnol yw hyn - fel rhywun gyda lliw croen 'arall', dwi yn nerfus iawn o greu hiliaeth, a felly nid fi yw'r person gorau i siarad ar Gaullism!

Wedi dweud hyn, dwi yn cytuno bod lle i'r Blaid wneud mwy ar yr ochr genedlaetholgar. Unwaith eto, ateb llawnach wedyn!

Hwyl.