Friday, June 05, 2009

Etholiadau Ewrop Rhan 6

Dim llawer i'w ychwanegu am Gymru mae gen i ofn ond bod cyfradd pleidleisio yr hen etholaeth Meirion / Dyffryn Conwy yn 33.2%.

Mae'n bosibl y bydd canlyniad Gogledd Iwerddon yn un anisgwyl. Y son yw bod y gyfradd pleidleisio wedi cwympo'n sylweddol o 51.7% i tua 36%. Mae hwn yn gwymp arwyddocaol - ac mae'n agor y drws i rhywbeth nad oedd neb yn ei ddisgwyl. 'dydi hyn heb ei gadarnhau yn swyddogol hyd y gwn i.

Rhai yn unig o'r ffigyrau am etholaethau unigol sydd wedi eu rhyddhau- Belfast South: 42.1%:: Belfast West: 46.6%:: Lagan Valley: 38.86%:: South Down: 44.97%:: Mid Ulster: 52.83%:: North Antrim 43.7%. Mae'r ffigyrau'n awgrymu bod y gyfradd Babyddol yn uwch na'r un Brotestanaidd.

Gallai nifer o bethau ddigwydd o ganlyniad i hyn. Mae bron yn sicr mai Sinn Fein fydd ar ben y pol. 'Dydi hyn ddim yn arbennig o arwyddocaol cyn bod y bleidlais Unoliaethol wedi i hollti tair ffordd, tra bod yr un Genedlaetholgar wedi hollti ddwy ffordd - ond mae'r DUP wedi gwneud mor a mynydd o'r posibilrwydd.

Mae posibilrwydd y bydd yr SDLP yn ennill y trydydd sedd. Byddai hyn yn ddigwyddiad arwyddocaol - byddai'r tro cyntaf i'r Cenedlaetholwyr wneud yn well na'r Unoliaethwyr mewn etholiad tros y dalaith i gyd. 'dydw i ddim wedi fy argyhoeddi eto bod y ffigyrau yno i ganiatau i hyn ddigwydd - ond mae'n fwy tebygol o lawer nag oeddwn yn ei feddwl ddydd Mercher.

Yn drydydd, ac yn bwysicaf, mae'n debygol bod y blaid newydd sy'n gwrthwynebu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, y TUV wedi cymryd sleisen sylweddol o bleidlais plaid fwya'r dalaith y DUP. Os bydd y niwed etholiadol i'r DUP yn arwyddocaol iawn, mae'n bosibl iawn y bydd y drefn rhannu grym a geir ar hyn o bryd yn cwympo - a bydd anhrefn gwleidyddol yn y dalaith am gyfnod sylweddol.

Diweddariad - son heno mai 9% i lawr mae'r bleidlais, nid 15%. Son hefyd bod y DUP yn boenus iawn oherwydd bod y gyfradd pleidleisio mewn ardaloedd dosbrth gweithiol Protestanaidd yn isel iawn.

Diweddariad - It looks like the Sinn Fein candidate, Bairbre De Brun is on course to top the poll comfortably with perhaps as much as 28% of the vote. The three unionist candidates appear to be tightly packed, which means the Traditional Unionist Jim Allister must have taken a significant percentage of the DUP vote. So far the Conservatives and Unionists appear to be optimistic that Jim Nicholson's vote has held up, but with such a tight field it's impossible to say at this stage how the count will pan out so far as the last two seats are concerned.

Devernport Diaries

5 comments:

Anonymous said...

Tydw i ddim di pleidleisio yn Etholiad Ewrop hyd yma. Wedi trefnu gyda'r swyddog etholiadol mod i'n cael gwneud ar ol i mi dderbyn fersiwn Cymraeg o daflen y Toris - yn dilyn cais ar y ffon i G'dydd.

Mae'n fore Sadwrn a minnau newydd redeg at y drws pan glywais y postman, ond siom eto . . . Fydd d Llun yn rhy hwyr?

Dewi Harries said...

Mae'r gyfradd Babyddol yn fwy....ond yn llai fwy na tro diwethaf. h.y mae y canran o Undodiaid sy'n bleeidleisio yn agosach i'r ganran o genedlaetholwyr. Anodd gweld yr SDLP yn cael sedd - bydd yn dibynnu ar effaitholrwydd yr Undodiad i bleidleisio lawr y rhestr. Hynod o ddiddorol.

Cai Larsen said...

Anhysbys
Ddydd Iau oedd yr etholiad yng Nghymru, heno - nos Sul mae'r cyfri.

Cai Larsen said...

'Diolch Dewi.

'Dwi'n cytuno nad y sedd SDLP ydi'r opsiwn mwyaf tebygol - ond mae mwy o Babyddion ar y gofrestr nag oedd bum mlynedd yn ol - felly gallai pethau fod yn nes nag y byddai dyn yn ei feddwl.

Dewi Harries said...

Undodiaid ??? Sori - Unoliaethwyr!! neu "Methodistaidd Calfinaidd" a'r sillafu yn druenus..