Thursday, June 11, 2009

Erthygl Golwg

Mae erthygl yn Golwg ar dudalen 5 lle maent yn rhoi llais i'r sylwadau enllibus am awdur y blog hwn gan y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts o Flaenau Ffestiniog.

'Dwi ddim am ddweud llawer gan fy mod yn bwriadu edrych ar y posibiliadau o fynd a'r papur i gyfraith.

Mi hoffwn nodi'r canlynol fodd bynnag:

Mae'n ymddangos i mi bod y papur yn fwriadol wedi mynd ati i hyrwyddo'r enllib gwreiddiol trwy ddyfynu darn dethol o fy sylwadau yn llwyr y tu allan i'w gyd destun, a gwneud hynny mewn modd sy'n ei gwneud yn bosibl i gredu fy mod yn dweud rhywbeth cwbl groes i'r hyn roeddwn yn ei ddweud mewn gwirionedd.

Mae'r ffaith eu bod wedi doctora fy ymateb iddynt trwy ddileu brawddeg sy'n egluro mai dadlau yn erbyn cyfranwr i fy mlog oedd yn ceisio creu cyswllt rhwng UKIP a Llais Gwynedd oeddwn, yn atgyfnerthu'r canfyddiad hwn.

Fydda i ddim yn trafod y mater yma eto nes i mi gael cyngor cyfreithiol llawn.

Mi fyddaf yn cyhoeddi unrhyw sylwadau gan gyfranwyr yn y dudalen sylwadau cyn belled a nad ydynt yn enllibus na sarhaus - yn ol yr arfer.

9 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Pob lwc!
Mae na fobol wedi cyfrannu i'n blog ni sydd a chydymdeimlad tuag at yr English Democrats, tybed pwy ydy nhw? Mae gen i syniad eu bod yn gysylltiedig ar wasg Gymreig...deud dim mwy ond dos i
http://wrecsamplaid.blogspot.com/2009/06/who-said-my-policy-on-gays-and-lesbians.html

Preseli said...

Pob lwc wrtho i 'fyd!

Anonymous said...

Wel mae dy deitl ar y blog yn cysylltu Llais Gwynedd a'r Adain dde. Wyt ti rwan mewn dyfroedd tyfn - Sgen ti ddim gobaith Mul yn y Grand National o ennill, syrthia ar dy fai, ac ymddiheura yn llawn. Mae methu gwneud hynny yn peryglu hefyd dy swydd fel athro.
Dysga wers washi.

Hogyn o Rachub said...

Di-enw, ti'n siarad bolycs (heb sôn am osod sylw hynod niweidiol!).

Cai, pob hwyl!

Cigfran said...

Dal ati Cai,ti'n llygad dy le.

Mi lwyddodd (os dyna'r gair )Llais greu clymblaid llynedd yn seiliedig ar Pleidwyr wedi eu dadrithio,y gwrth gymreig , a rhuwin arall oedd yn teimlo eu bod wedi cael cam gan y Blaid yn y hanner canrif ddiwaethaf.

Roedd yn glymblaid mor eang mi fydd hi'n ddiddorol i weld beth ddaw yn sgil y pwysau enfawr fydd ar wariant cyhoeddus dros y 5 mlynedd nesa

Cri Llais fydd "mae Plaid Cymru yn eich gadael i lawr drwy fethu ennill mwy o bres o Gaerdydd a gadael iddo gyd gael ei wario yn y de !" ac mae'n siwr mi gawn ychydig o "traction" gan elfennau o'r un clymblaid wrth wneud hynny.

Dwi'n amau os y bydd yn ddigon i gadw'r grwp efo'i gilydd serch hynny,ond fe gawn weld.

Pwynt i'w nodi yw fod yna lwyddiant wedi bod ganddynt i greu clymblaid.

Mae'n rhaid i'r blaid gael strategaeth i adeiladu clymblaid i apelio at etholwyr Cymreig a cheidwadol yn y Gymru wledig a'r rhai saesneg eu iaith yn y cymoedd dinesig ar gyfer etholiadau cynnulliad a San Steffan

Mi fydd hynny yn gryn her tybiwn i,i fod yn gystadleuol yn Llanelli ac Aberconwy gyda'r 'run neges

Peth olaf yw fod rhaid peidio codi disgwyliadau,mi oedd y canlyniadau yn iawn yn ethioliadfau ewrop,nid yn dda ond nid yn ddrwg.Mi foddwyd y neges a unrhyw naws Gymreig yn sgil stwr yr aelodau seneddol ac felly mi arhosodd dipyn o 'n cefnogwyr gymharol newydd ni yn y cymoedd adref a llawer o rai Llafur

Reit 'sa well i mi fynd yn ol i wneud tipyn o waith

Anonymous said...

Smo fi yn deallt. Tase ti Bolgiwr Menai wedi dwedi sori te fuasai popeth wedi cwpla. Fi yn credu dy fod wedi efallai heb wybod yn iawn wedi cysylltu y ddwy blaid, ond ta beth ma pethau nawr wedi symyd mlan.

Anonymous said...

Y broblem di'n meddwl ydi'r teitl:
"Llais Gwynedd a'r Dde Brydeinig", mae'r teitl wedyn yn lliwio darllenydd y geiriad gwreiddiol ar hyd llwybr cysylltiad o Lais Gwynedd i'r BNP via UKIP.

Anonymous said...

Dal ati Cai

Anonymous said...

Mae 'na sylw perthnasol yn yr iaith fain:

don't let the buggers get you down...