Thursday, January 22, 2015

Goblygiadau'r dadleuon teledu i etholiad 2016



Un o brif broblemau'r Blaid ar pob lefel ydi diffyg sylw cyfryngol.  'Dydi hyn ddim pob amser yn fai ar y cyfryngau fel y cyfryw - y brif broblem ydi bod mwyafrif llethol etholwyr Cymru yn cael eu newyddion gan y cyfryngau Seisnig.  'Dydi hyn ddim yn wir yng Ngogledd Iwerddon - a 'dydi o ddim yn wir yn yr Alban chwaith.

Canlyniad hyn ydi bod gan yr etholwyr yn aml well adnabyddiaeth o'r pleidiau unoliaethol na sydd ganddynt o'r Blaid - ac mae hyn yn wir ar pob lefel - hyd yn oed mewn etholiadau Cynulliad.  Mae'r dadleuon teledu yn gyfle i droi hynny ar ei ben.  Bydd llawer mwy o Gymry yn edrych arnynt na sy'n edrych ar raglenni materion cyfoes Cymreig - a byddant yn gweld Leanne Wood yn cyflwyno achos y Blaid.  Fyddan nhw ddim yn gweld Carwyn Jones.

Bydd goblygiadau i hyn ym mis Mai 2015 - ond bydd goblygiadau hefyd yn etholiadau'r Cynulliad 2016.  Mae'n ddigon posibl y bydd proffeil arweinydd y Blaid yn uwch na phroffeil yr un arweinydd Cymreig arall - bydd mwy o bobl yn gyfarwydd a Leanne Wood na fydd yn gyfarwydd a Carwyn Jones.  Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i'r Blaid - y mwyaf o argraff y bydd yn ei wneud yn y dadleuon, y mwyaf o sylw y caiff gan y cyfryngau prif lif - ac felly yr uchaf ei phroffeil.  'Dydi hyn erioed wedi digwydd o'r blaen.  Mae'n gyfle gwych i osod sylfaen gadarn ar gyfer etholiadau'r Cynulliad 2016.  

Dim pwysau felly Leanne!

4 comments:

Hogyn o Rachub said...

Mae hyn yn newyddion arbennig o dda i'r Blaid - os cawn gadarnhad heddiw y bydd yn digwydd ac y bydd y Blaid mewn un o'r dadleuon (neu fwy - dwy ydi'r awgrym hyd y gwela i). Does 'na rili ddim ffordd y gallith hi fod ar ei cholled, onid ydi Leanne Wood yn gwneud smonach llwyr ohoni.

Ta waeth, bydd hwn yn un o'r cyfleoedd gorau i Blaid Cymru ei gael yn ei holl hanes, os nad y gorau, i'w chyflwyno ei hun i'r etholwyr. Byddai gwneud smonach ohoni'n drychineb lwyr, ond dwi'n meddwl y byddai hyd yn oed perfformiad gweddol gan bwy bynnag fydd yn cynrychioli'r Blaid yn ennill pleidleisiau, a hyd yn oed seddi.

(Wnes i ddarogan yn ddiweddar na alla i weld y Blaid mewn difrif yn cael mwy na 3 sedd - byddai lle yn y dadleuon teledu wir yn newid fy marn ar hyn)

Cai Larsen said...

Fyddwn i ddim yn poeni llawer Jason - mae Leanne yn dod trosodd yn dda ar y teledu - a bydd yna cryn gyferbyniad rhyngddi hi a'r tri miliwnydd.

Hogyn o Rachub said...

I fod yn onest efo chdi dwi'n meddwl na go lew ydi hi - weithia ma hi'n dda, weithia ma hi'n weddol. Ond fi ydi hynny. Ta waeth, dwi'm yn rhagweld hi'n neud smonach ohoni. Fydd jyst ymddangos yn y dadleuon yn fonws anhygoel i'r Blaid

Anonymous said...

Mi fydd y tri miliwnydd yn chwarae ar emosiynau'r gwylwyr. Ofn.....rhaid adnewyddu Trident gan fod Rwsia neu ISIL neu bwy bynnag yn bygwth. Yna, byddant yn dweud fod rhaid cwtogu ar wariant neu fydd y bunt yn gwanhau a chyfraddau llog yn gorfod codi. Yr ail o'r rhain yw 'trachwant'. Dyna'r ddau emowsiwn cryfaf; ofn a thrachwant. Gobeithio fydd gan y Blaid atebion deche i'r ofnau hyn.