Friday, April 15, 2011

Y diweddaraf o du United & Welsh

Wele offrwm hyfryd diweddaraf United and Welsh.

Mae'n hawdd troi trwyn ar yr arddull, y ddelwedd yn osystal a'r y ffaith bod llawer o'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio yn hen hanes mewn termau gwleidyddol - ac felly'n amherthnasol i'r ymgyrch yma. Ond mewn rhyw ffordd ryfedd mae'n barodi o'r ffordd mae Llafur ei hun yn ymgyrchu.

Mewn ymgyrch arferol bydd plaid sydd wedi bod yn llywodraethu yn amddiffyn eu record mewn llywodraeth ac yn diffinio eu haddewidion ar gyfer y dyfodol. 'Dydi hon ddim yn ymgyrch arferol o safbwynt Llafur - eu prif neges ydi y dylid pleidleisio iddyn nhw er mwyn cofrestru gwrthwynebiad i'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan. Y neges eilradd ydi y bydd Llafur, mewn rhyw ffordd anelwig, yn amddiffyn Cymru rhag toriadau mewn gwariant cyhoeddus San Steffan. 'Dydi'r ymgyrch Llafur ddim mor hysteraidd ag arfer hyd yn hyn - ond gall ymgyrchu Llafur Cymru'n fod yn groteg o hysteraidd pan maent yn teimlo o dan fygythiad.

Mae'r poster anymunol yn rhyw fath o adlewyrchiad gwyrdroedig o'r Blaid Lafur Gymreig mae gen i ofn.

3 comments:

Plaid Whitegate said...

Byddai'n ddifyr gweld os derbyniodd yr Hen Rech y poster o'r un cyfeiriad ac y gwnaeth BlogMenai. Mae angen John Le Carre i ddallt be sy'n digwydd yma rwan!

Cai Larsen said...

Do, mi fyddwn yn meddwl. 'Dwi eisoes wedi gwrthod ei gyhoeddi.

Ifan Arswydus said...

Ma na 'lein' newydd - ma United & Welsh yn deud mai Peter Hain , wnaeth daro'r fargen gyda Bernie - dwi ddim wedi clywed y lein yna or blaen.