Saturday, April 30, 2011

Y cyfryngau cyfrwng Cymraeg a'r briodas frenhinol

Mae'n braf cael cytuno drachefn efo Bethan Jenkins.

Fel mae'n digwydd dydw i heb glywed unrhyw son o gwbl yn y cyfryngau am y briodas frenhinol ers dyddiau - ond wedyn 'dwi'n bell iawn o'r DU. Serch hynny mae'n siom nodi bod y cyfryngau Cymreig wedi dotio cymaint at yr holl hw ha.

Os ydi'r cyfryngau Cymraeg eu hiaith o dan yr argraff mai dynwared yn slafaidd y cyfryngau Seisnig mewn cyfrwng ieithyddol arall ydi eu prif genhadaeth, mae hynny'n gwanio'r holl ddadl tros eu bodolaeth. 'Dydi darlledu a chyhoeddi Cymreig ddim yn gyfystyr a dilyn trywydd y cyfryngau Seisnig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi'r ydym yn genedl wahanol, a dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ein bywyd cyhoeddus a chan ein cyfryngau.

5 comments:

Jake said...

O ni hefyd wedi synnu bod S4C a ballu yn son am briodas. OND, mae'n rhaid iddyn nhw ddangos rhaglenni mae pobol eisiau edrych arno. Ac rhaid i fi fod yn onesd roedd LOT fawr o genedltholwyr dwi'n nabod wedi eistedd a edrych arno.

Roedd hyd yn oed gwerinaethwyr fel Peter Hain a Dianne Abbott hefyd wedi edrych arno!.

Oherwydd hyn, doedd S4C ddim hefo llawer o ddewis ond dangos y briodas!

Alwyn ap Huw said...

Weais i mo rhaglenni’r Briodas ar unrhyw sianel, ond yn ôl yr hyn rwy’n ddeall roedd "rhaglen" S4C yn defnyddio lluniau'r BBC, hynny yw, gydag ychydig o funudau o opt-outs roedd yr union un rhaglen yn cael ei ddarlledu ar y ddwy sianel ar unwaith. I mi dyna'r perygl fwyaf i ddyfodol S4C.

O anghofio'r ddadl frenhinol /gwrth-frenhinol. O dderbyn bod yna Gymry Cymraeg sydd am gael gweld y briodas yn eu mamaeth (ysywaeth), os nad yw S4C yn darparu rhywbeth gwahanol unigryw ar eu cyfer, gwaeth i S4C cael ei ddarlledu ar y biotwm coch.

A dyna berygl y toriadau a thraflyncu S4C gan y BBC, mae gwasanaeth botwn coch bydd hi. Cyfieithiad o sianel Saesnig, yn hytrach na sianel unigryw Cymraeg a Chymreig go iawn

Jake said...

Alwyn;
Dwnim os mai dyna fydd perygl i S4C oherwydd pan mae'r 6gwlad ymlaen lluniau'r BBC mae S4C yn ei ddefnyddio.

Ynglyn a'r briodas, roedd rhaid i bawb ddefnyddio 'feed' y BBC o'r eglwys a rhan fwyaf o'r prosession (y beeb oedd yr official broadcaster). Felly i rhan helaeth o'r raglen maen wir dweud bod S4C ar BBC yr un peth; ond hefyd roedd ITV a SKY yr un peth.

Felly i RHAI pethau mawr dylai S4C ddefnyddio'r BBC- be fysa'r pwynt gwario miliynau i gael lluniau digon tebyg o'r briodas? neu lluniau tebyg o gem rygbi?

Un peth dwi DDIM yn hoffi am S4C ydy'r newyddion. Cynnyrch y BBC wedi'i neud yn Gymraeg- sa fo'n gret of fysa nhwn cael bod mwy annibynol a chael storiau gwahanol.

Anonymous said...

Gwarth - ond pwy oedd y darlledwyr cyfoglyd ?

: Huw Edwards - mab i genedlaetholwr

: Rhun ap Iorwerth : mab i genedlaetholwr arall.

Y prif daeog - Dafydd Ellis-Thomas , sy'n cael ei ethol yn ddi-lol gan bobl Feirionnydd( Pam ? )

Os yw plant Pleidwyr yn ein bradychu mor ddi-gydwybod , pa obaith sydd o orchfygu Seisnigrwydd .

Yr oedd sylw S4C a Radio Cymru yn fwy o ddathliad o Brydeindod na mis cyfan o ddarllediadau UKIP .

Jake said...

Mae'n hynod o bwysig cofio bod rhai genedlaetholwyr yn hoffi y teulu Frenhinol- megis Alex Salmond sydd wedi dweud yn blwp ac yn blaen "I would still want Queen Elizabeth in an independent Scotland" neu rwbath tebyg.

Ynglyn a Daf-El dwnim os oedd o yn erbyn teulu frenhinol neu beidio?. Ond os mae on "genedlaetholwr" pam felly yn cyfarfod y Blaid yng Nghaerdydd oedd on deud bod y Blaid wedi cael be oedd nhw eisiau- hunan lywodraeth (neu rwbath tebyg). O nin wallgo. Os mai Cynulliad gwan, heb bwer oedd y Blaid eisiau, be di pwrpas nhw nawr?. A oes angen i Gymru gael mudiad gwell sydd eisiau be mae'r SNP eisiau- gwlad annibynol!?.

Dwnim SUT mae'r Blaid wedi colli'i ffordd. Yn y 'leaders debates' ar ITV, dyla bod IWJ fel Salmond yn deud 'os sa ni ddim yn rhan o'r D.U fysa toriadau ddim yn digwydd'- dwi'n meddwl fysa hynny yn neges fysa lot yn ei hoffi. Ond na, mae'r Blaid wedi colli ei hynan hyder ers fod yn Llywodraeth- a dwi wedi laru.
A dwi'n meddwl bod lot yn hefyd!



Ond y prif neges, ydy hen beth od ydy cenedltholdeb- lot eisiau bod yn annibynol; ond eto mae lot (megis Salmond) hefo ryw 'ramant' tuag at y teulu frenhinol! Dwi'n meddwl fysa pawb yn cytuno tydyd cenedltholwyr Cymru ddim yn debyg i rhai Iwerddon- h.y gwrthod cymeryd llw i Brenin/Frenhines. Ac y brenin oedd targed lot o'r protests nol yn 1900au. Fysa fo'n diddorol gwybod paham? Oedd y frenin yn fwy gwleidyddol ar y pryd?