Saturday, April 09, 2011

Posteri etholiadol yn dechrau ymddangos

'Dydw i ddim yn hollol siwr pa mor effeithiol ydi posteri etholiadol, ond maent y'n sicr yn elfen weledol ar etholiad sy'n creu tipyn o hwyl a lliw. Maen nhw rhyw ddechrau ymddangos eisoes - sylwais bod nifer o bosteri Lib Dem a Thoriaidd yn y llefydd arferol ar ochr yr A470 wrth i mi deithio i lawr i Gaerdydd bore 'ma.

Mae nhw wedi dechrau mynd i fyny yng Ngorllewin Caerdydd hefyd - poster y Blaid Werdd wrth Pembroke Road ydi'r cyntaf, a phosteri Plaid Cymru y tu allan i'r Duke of Clarence ar Clive Road sydd yn y llall.

5 comments:

Dylan said...

Does dim pwrpas i'r Blaid Werdd yng Nghymru, oni bai eich bod yn hipi o fewnfudwr o Sais sydd methu stumogi pleidleisio i Blaid Cymru

Anonymous said...

Llwyth o bosteri Liz Musa (Plaid) fyny yn Grangetown

Anonymous said...

Cai - dwi'n cymryd fod blog "Plaid Cymru, Cangen Bontnewydd Branch" wedi marw ac wedi atgyfodi fel Spam - wele'r diweddara ar dy restr "My Blog List"

Cai Larsen said...

Ah - reit - mi ladda i fo.

Anonymous said...

Mi welais 9 poster Mick Antoniw (Llafur) ar stryd yng nghanol Tonyrefail.