Wednesday, April 20, 2011

Newyddion da i Blaid Cymru yng Ngwynedd

6 comments:

Anonymous said...

Dwi'n amau bod y mathemateg sef Plaid +1 ond Annibynnol -1 yn rhoi mwy o gynrycholwyr Llais Gwynedd ar y pwyllgorau, bwrdd ac ati?

Anonymous said...

Gobeithio y bydd o'n pleidleisio yn erbyn cau ysgol y Parc yn wahanol i'w gyd-Bleidwyr!!

Anonymous said...

Dim ots sut mae rhywun yn edrych ar y peth mae na ryw eironi ofnadwy fod Plaid Cymru o bawb, pan mewn grym yn eu cadarnle, yn cau ysgolion gwledig, pentrefol, cymreig.
Pwy fasa'n meddwl.

Anonymous said...

Tasa nhw'n eu ffederaleiddio am ddwy neu dair blynedd mi fyddai'r ysgolion llai yn cau ohonyn nhw eu hunain.

Anonymous said...

Gadael lonydd iddyn nhw sydd angen tan mae'r rhifau wedi mynd yn rhy isel i'w cynnal megis yng Nghroesor.Ysgolion bach gwledIg yw cadarnleoedd yr iaith Gymraeg.

Anonymous said...

Mae'n ymddanogs fod rhai sylwebyddion wedi methu deall arwyddocad y symudiad hwn - neu efallai yn dewis gwneud hynny. Mae 'croesi'r llawr' o'r grwp annibynnol at Blaid Cymru a hynny gan aelod Llanuwchllyn yng nghanol trafodaeth ar ddyfodol ysgolion Penllyn yn dipyn o ddatganiad. Cefnogaeth Llanuwchllyn i'r cynllun mae'n ymddangos. Ac yn glec sylweddol i Lais Gwynedd sydd wedi ceisio gwneud elw gwleidyddol o'r sefyllfa. Bydd ychwanegu at rengoedd PC yn golygu mwy o seddi i PC ar y Cyngor nid Llais Gwynedd. Mae datgan dylai ysgolion barhau ar agor nes eu bod yn cau eu hunain yn ddweud anghyfrifol o'r radd flaenaf. Mae angen cynllunio i'r dyfodol nid osgoi'r cyfrifoldeb hwnnw.