Saturday, April 16, 2011

Mwy o bamffledi di Gymraeg (bron a bod) gan Lafur

Pan oeddwn i'n dweud bod mwy o Gymraeg ar bapurau etholiadol Llafur yng Nghaerdydd na sydd ar gynnyrch Llafur Dwyrain Caerfyrddin, 'doeddwn i heb weld ymdrechion Mark Drakeford yng Ngorllewin Caerdydd.

Rwan 'dydi Gorllewin Caerdydd ddim mor Gymreig a Dwyrain Caerfyrddin, ond byddai'n rhaid i chi deithio ymhell i'r gorllewin ar hyn yr M4, neu ymhell i'r gogledd ar hyd yr A470 cyn dod ar draws ardal sydd a chymaint o Gymry Cymraeg yn byw mor agos at ei gilydd.

Mae'n rhaid bod Mark yn hyderus y bydd yn ennill heb orfod trafferthu i apelio am bleidlais Cymry Cymraeg.


4 comments:

Anonymous said...

Buodd chap Llafur Gorllewin Caerdydd yn ymladd ddoe tu all i'r mosque - silly boy .

Anonymous said...

"Mae'n rhaid bod Mark yn hyderus y bydd yn ennill heb orfod trafferthu i apelio am bleidlais Cymry Cymraeg."

Efallai bydd ambell Gymro/Gymraes Gymraeg yn pleidleisio am rhesymau heblaw iaith taflenni. Os mai'r unig sail i ni fwrw'n pleidlais yw iaith y daflen mae eisiau clymu'n pennau.

Cai Larsen said...

'Efallai bydd ambell Gymro/Gymraes Gymraeg yn pleidleisio am rhesymau heblaw iaith taflenni. Os mai'r unig sail i ni fwrw'n pleidlais yw iaith y daflen mae eisiau clymu'n pennau.'

Wel, mae hynny'n ddigon gwir - ond os ydym yn gofyn i rhywun am rhywbeth - pleidlais er enghraifft - oni ddylid ceisio sicrhau bod yr apel honno yn iaith y sawl rydym yn apelio arno?

Simon Brooks said...

Problem Llafur yw fod Saesneg eu taflenni yn atgyfnerthu'r canfyddiad sydd ar led yng ngorllewin Caerdydd eu bod yn blaid weddol wrth-Gymraeg.

Mae hynny'n bwysig gan ei fod yn berthnasol i bethau mae pobl go-iawn yn poeni amdanyn nhw, megis beth fydd ansawdd addysg eu plant.

Ond fe fyddwn yn disgwyl i Lafur ennill yn weddol rhwydd fan hyn. Yn bennaf oll oherwydd y gogwydd Prydeinig i Lafur.