Saturday, April 16, 2011

Methiant Llafur i gyllido Cymru yn deg

Diolch unwaith eto i Syniadau am boster perthnasol iawn arall.

Er gwaethaf pob dim mae Llafur yn ei ddweud am sicrhau trefn ariannu teg i Gymru erbyn hyn, mi fethodd y blaid yn llwyr a gwneud dim i symud yr achos hwnnw modfedd ymlaen pan oeddynt mewn grym yn San Steffan.

5 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Ti'n gwbod bod hi'n amser i chdi fynd ar Facebook, gei di gymaint mwy o hits. Dyna ne nes i hefo'r llun yma lot o fobol yn licio fo. Mae o'n taro adre!

Cai Larsen said...

Ar hyn o bryd dwi'n cadw yn boenus o glir o Facebook mae gen i ofn - pe byddet yn fy lein o waith mi fyddet yn gweld cymaint o drafferth mae'r cyfrwng yn gallu ei greu.

Ond wedyn does yna ddim problem efo defnyddio cyfri y Mrs mae'n debyg gen i.

Anonymous said...

Pwy ddiawl sy'n cyfieithu rhain?!

Anonymous said...

Twitar fydda'r boi i chi Mr Menai - rhyw frawddeg bach yma ac acw i'n cyfeirio i'r blog diweddara.

Cai Larsen said...

'Dwi'n uffernol o hen ffasiwn - mae Twitter yn rhy avante-garde i mi o lawer.