Monday, April 04, 2011

Goblygiadau llywodraeth fwyafrifol Llafur

Mae yna gryn dipyn o ddarogan wedi bod yn ddiweddar yn sgil arolygon barn YouGov y bydd Llafur yn ennill mwyafrif ar ei phen ei hun ar Fai 5. Mae'r arolygon hynny wedi arwain Britain Votes i newid rhagolygon - maent bellach o'r farn y bydd gan Llafur fwyafrif llwyr (Llafur 33, Toriaid 12, Plaid Cymru 10, Lib Dems 4, UKIP 1). Mae'r polau hefyd wedi annog Llafur i ddechrau siarad yn agored am pa seddi unigol maent yn gobeithio eu hennill. Mi fyddwn i'n awgrymu bod gwneud hynny'n gryn gamgymeriad - ond stori arall ydi honno.

Mae Vaughan yn tynnu sylw at y ffaith mai un cwmni sy'n polio yn rheolaidd ar hyn o bryd, a bod yna amheuaeth ynglyn a methodoleg y cwmni hwnnw. 'Dwi wedi tynnu sylw yn y gorffennol at arfer YouGov o gymryd darlleniad papurau newydd i ystyriaeth wrth osod pwysiad ar eu sampl, a holi i ba raddau maent yn deall patrymau darllen papurau newydd yng Nghymru.

Ta waeth, beth fyddai goblygiadau llywodraeth fwyafrifol Llafur ym Mae Caerdydd? Wel mae ein unig brofiad o lywodraeth mwyafrifol Llafur (2003 – 2007) yng Nghaerdydd yn un erchyll. Yn wir, mae'n debyg mai dyma'r cyfnod salaf o lywodraethiant yn hanes diweddar datganoli yn y DU. Fe’i nodweddwyd gan:

· Raglen faith i gau ysbytai lleol. Atalwyd hyn oherwydd y nifer o Bleidwyr a etholwyd.
· Allgyfeirio pres oddi wrth ysgolion. Dyma pryd y datblygodd yr holl fwlch rhwng gwariant ar ysgolion yng Nghymru a Lloegr.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i ddod a rhestrau aros mewn ysbytai i lawr. Aeth y rhestrau yn fwy.
· Methiant llwyr i gynnig gofal cartref rhad ac am ddim i’r hen a’r methedig.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid roi mynediad i bawb i ddeintydd NHS. Syrthiodd y niferoedd oedd efo mynediad o’r fath.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i leihau amser ymateb y gwasanaeth ambiwlans.
· Cafwyd tri adroddiad yn ystod y cyfnod oedd yn dweud nad oedd yr NHS yng Nghymru yn rhoi gwerth am arian.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i leihau’r nifer o ddosbarthiadau 30+ .
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i gynyddu’r niferoedd mewn addysg bellach.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i leihau CO2.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i leihau’r niferoedd o blant sy’n cael eu magu mewn tlodi.

O gymharu a hynny mae cytundeb Cymru’n Un wedi bod yn fodel o lwyddiant ac effeithiolrwydd. Roedd tua 200 addewid yn y cytundeb. Mae mwy na 90% o’r rheiny wedi eu gwireddu. Er enghraifft:

· Ail strwythuro’r NHS a chael gwared o wastraff y farchnad fewnol.
· Lleihau maint dosbarthiadau plant 3 i 7.
· Gwneud gwell defnydd o bwerau’r Cynulliad i ddelio a thlodi plant.
· Darparu 6,500 o dai fforddiadwy.
· Refferendwm a phwerau deddfu.
· Hawliau ieithyddol sylweddol gryfach.
· Cael gwared ar yr arfer o godi am barcio mewn ysbytai.
· Dod ag amser teithio ar dren o’r De i’r Gogledd i lawr.
· Adleoli peth o weinyddiaeth y cynulliad yn y Gogledd a’r Cymoedd.
· Rhoi help i bensiynwyr efo treth y cyngor.
· Rhoi help i fusnesau efo trethi busnes.
· Sefydlu undebau credyd ar hyd y wlad.

Beth fyddai'r gorau i Gymru - cyfnod megis un 2007 - 2011 neu un mwy tebyg i 2003 - 2007 pan roedd Llafur yn rhedeg pethau ar eu pen eu hunain?

'Dydi'r cwestiwn prin gwerth ei ofyn.

4 comments:

Anonymous said...

Pa gwmni pol oedd "on the money" yn y refferendwm. A fydd y cwmni yma yn rhoi unrhyw pol opiniwn?

Dyfrig Thomas said...

Cai. Mae pobl yn dweud wrtho i fod record YouGov wedi bod yn dda yn y gorffennol. Fyddet ti'n cytuno.

Cai Larsen said...

Yn hanesyddol mae YouGov wedi perfformio'n dda mewn etholiadau Prydeinig. 'Doedd hyn ddim yn wir yn 2010 - mi fyddet wedi cael canlyniad gwell yn edrych ar farn crynodol pobl sy'n defnyddio Twitter.

'Dydi eu methodoleg parthed etholiadau Cymreig heb ei brofi rhyw lawer - felly amser a ddengys.

Anonymous said...

Shit Blog Menai - dylet fod wedi sgwennu manifesto y Blaid ar sail y dadansoddiad yna o gyfnod cyntaf Llafur i gymharu a chyfnod Cymru'n Un. Pam na tydi'r Blaid ddim yn tynu sylw at ffeithiau moel a syml fel hyn - vote winner tybiwn i!