Saturday, April 02, 2011

Darogan Britain Votes

Mae'r wefan Britain Votes newydd gyhoeddi eu rhagolygon cychwynol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad. Gweler yma am fanylion.

'Dydw i ddim yn cytuno efo pob dim yn y dadansoddiadau sy'n sail i'r darogan - ond dyma'r dadansoddiadau mwyaf trylwyr eto. Y darogan ydi y bydd Llafur yn rhywle yn yr amrediad 28 - 33, Plaid Cymru 12 - 15, y Toriaid 10 - 13, Lib Dems 4 - 5, Eraill 0.

Y pwyntiau diddorol efallai ydi bod y nifer o seddau y byddai Llafur eu hangen i reoli ar eu liwt eu hunain yng nghanol eu hamrediad, bod amrediad y Blaid yn uwch nag un y Toriaid er i'r ddau bol diwethaf eu rhoi o flaen y Blaid, a'r amrediad 4 - 5 i'r Lib Dems - un sy'n uwch na mae llawer ohonom yn darogan.

Mae'n ddifyr hefyd nad ydi'r pleidiau amgen yn cael sedd gan Britain Votes. Mi fyddwn i yn disgwyl gweld un neu ddau o gynrychiolwyr nad ydynt yn perthyn i'r prif bleidiau yn cael eu hethol ar y rhestrau.

4 comments:

BeaPea said...
This comment has been removed by the author.
BoiCymraeg said...

Os yw pleidlais y Blaid Lafur yn uwch, mae'n golygu bod angen mwy fyth o bleidleisiau i sicrhau sedd restr; sy'n golygu bod hi'n anoddach i'r pleidiau bychan eu hennill.

Y gwir yw yn y bon nad oes digon o seddi restr - neu bod y rhanbarthau'n rhy fach - i bleidiau bychain ennill yng Nghymru. Mae rhestri'r Alban yn 7+ sedd; digon i adael i bobl fel y Scottish Senior Citizens ayyb ennill.

Vaughan said...

Mae'r darogan i gyd ar sail YouGov wrth gwrs. Fe fydd canlyniadau arolwg gan gwmni arall yn cael ei gyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf. Gorau po fwyaf!

Cai Larsen said...

Diddorol iawn Vaughan - diolch.