Sunday, April 10, 2011

Betio etholiadol

Fydd yna byth rhyw fynd mawr ar fetio ar etholiadau Cymreig - pobl am fetio ar gyffylau ydan ni yn hytrach nag ar ymgeiswyr etholiadol. O ganlyniad 'dydi'r cwmniau betio ddim yn cynnig llawer o farchnadoedd gan amlaf.

Beth bynnag 'dwi'n tueddu i gredu bod prisiau'r bwci yn ffordd tra effeithiol i ddarogan beth fydd yn digwydd mewn etholiad - yn arbennig felly tua diwedd ymgyrch. Mae pobl yn rhoi eu pres lle mae eu cegau pan maent yn betio - felly 'dydi pobl ddim yn betio ar chwarae bach.

Ladbrokes ydi un o'r ychydig gwmniau sy'n cynnig prisiau ar hyn o bryd, a dwy farchnad sydd ganddynt yn agored - nifer seddi Llafur ac etholaeth hynod ddiddorol Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro.

Yn groes i'r polau piniwn mae'r farchnad seddi Llafur yn awgrymu na fyddant yn cael mwyafrif llwyr.

Mae'r farchnad Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn awgrymu mai rhwng Nerys Evans (Plaid Cymru) a Christine Gwyther (Llafur) mae pethau, gyda Angela Burns (Tori) yn weddol glir y tu ol i'r ddwy arall.

Diweddariad - dwi newydd sylwi bod Victor Chandler yn cynnig prisiau ar nifer o etholaethau Cymreig. Mae rhai o'r prisiau yn ddigon rhyfedd (cyfle i rhywun wneud arian o bosibl). Mae yna hefyd gamgymeriadau - rhestrir ymgeiswyr Llais Gwynedd a'r BNP yn Arfon er nad oes rhai'n sefyll, ac nid oes prisiau ar gyfer y Tori - er bod un yn sefyll.

5 comments:

Anonymous said...

Unrhyw tips i roi geiniog neu ddau?

Cai Larsen said...

Mi geith honna aros tan fory.

Alwyn ap Huw said...

Unrhyw tips i roi geiniog neu ddau?

Dyma dip, os wyt am facio dy hoff blaid i ennill, rho dy arian i'w hymgyrch ac nid i'r bwci!

Unknown said...

Os am wneud bet sylweddol ma Victor Chandler yn cynnig pris da ar Alun Davies, ma fe bendant mynd i ennill - os am gynnig ychydig bunnoedd Nerys yng Nghaerfyrddin

Cai Larsen said...

Gan bod prisiau VC more rhyfedd mi fyddwn yn rhyw feddwl nad ydynt yn hollol siwr beth maent yn ei wneud, ac o ganlyniad bydd cyfyngiad go gaeth ar faint caiff pobl fetio.