Monday, March 14, 2011

Y Toriaid yn dewis ymgeisydd i Arfon

Aled Davies, amaethwr o Bowys ydi'r dyn lwcus.

Ymddengys ei fod yn gyn asiant i Glyn Davies. 'Dydi Arfon ddim y math o etholaeth lle mae'n bosibl i Dori gael unrhyw lwyddiant ynddi, felly mae'n edrych braidd fel petai'n cael ei hel i'r Gogledd i gael ychydig o brofiad etholiadol cyn cymryd drosodd gan Glyn - pan fydd hwnnw'n rhoi'r gorau iddi.

Mi fydd darllenwyr Golwg yn gwybod mai Christina Rees, cyn wraig Ron Davies fydd yn sefyll tros Lafur.
. Mae'n fargyfreithiwr a hyfforddwr sboncen ac wedi bod yn weithgar ar ran y Blaid Lafur ers oes yr arth a'r blaidd. Bu'n rhaid iddi gamu i'r adwy wedi i Alwyn Humphreys ddianc i'r ystafell molchi i ail osod ei fascara wedi iddo fo a gweddill Llafurwyr De Clwyd gael ffrae fach a dechrau waldio ei gilydd efo'u bagiau llaw.

Efallai na fyddai Alwyn wedi bod yn hapus yn Arfon, hyd yn oed petai trwy rhyw ryfedd wyrth wedi llwyddo i gael ei ethol.

5 comments:

Anonymous said...

"Mi fydd darllenwyr Golwg yn gwybod..." oherwydd bod Golwg wedi penderfynnu arddel moesoldeb y "News of the World" trwy gyhoeddu ffaith gwbwl amherthansol.

Dylai fod cywilydd ar Golwg am wneud y fath beth ar ol i gyfryngau eraill Cymru ddewis ei anwybyddu dyddiau cyn i Golwg gyhoeddu - neu wybod.

Roedd hwn yn bendernyniad cwbwl anfoesol a chroes i bob cod ymddygiad newyddiadurol y - a hynny gan gyhoeddiad sy'n gloddesta ar arian cyhoeddus. Gwarthus.

Digon teg i Lol. Os ydy Golwg yn dewis bod yn Lol - boed felly!

Cai Larsen said...

Y sboncen, y cysylltiadau cyfreithiol, actifyddiaeth Llafur 'ta'r cysylltiad efo Ron Davies ydi'r ffaith amherthnasol News of the Worldaidd?

Anonymous said...

Y cysylltiad a Ron Davies. Mae hynny yn amlwg ac mi wyt ti'n gwybod hynny. Pathetig yw esgus yn wahnol.

Mae croeso i ti fel blogiwr yfed o'r gwter.

Mae'n warthus ar y llaw arall i bobol ddylai fod yn newyddiadwyr proffesiynol wneud hynny.

Y cwestiwn syml yw beth oedd y cyfianwanhad cyhoeddus?

Cwestiwn syml - heb unrhyw ateb posib gan Golwg. Oherwydd does 'na ddim.

Hynod beryglus yw arddel moesoldeb y gwter tra'n dernbyn arian am fod yn wasanaeth newyddion.

Dyw Daily Sport360 ddim yn debyg o bara'n hir gan fod Y Cymro eisoes yn gwneud gwell heb sentan.

Cai Larsen said...

Pan safodd Vicky Pryce, cyn wraig Chris Huhne tros y Lib Dems y llynedd, adroddwyd ar hynny gan y Telegraph - ac fe dynwyd sylw at ei chysylltiad efo ChH. Yn wir - dyna oedd stori'r Telegraph.

Aeth y Telegraph ymlaen i dynnu sylw at y ffaith bod cariad newydd Chris Huhne, Carina Trimingham wedi bod mewn partneriaeth sifil efo dynas arall pan ddechreuodd y berthynas efo Huhne. Y berthynas efo Ms Trimingham arweiniodd at chwalu priodas Vicky Pryce a Chris Huhne

Rwan, dwi ddim yn dadlau bod ymdriniaeth y Telegraph a'r stori yma'n rhywbeth i fod yn falch ohono - ond papur newydd ydi papur newydd - posh neu beidio, Cymraeg neu beidio a dibynol ar arian cyhoeddus neu beidio.

Roedd ymdriniaeth Golwg o'u stori nhw yn llawer mwy cynnil ac yn llawer llai tebygol o achosi loes nag ymdriniaeth y Telegraph o driongl Huhlne, Price a Trimingham.

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.