Draw ar
Flog Hen Rech Flin mae Alwyn yn mynd trwy'i bethau oherwydd awgrymiadau Ieuan Wyn Jones nad yw'r Blaid yn debygol o glymbleidio efo'r Toriaid, ac yn bygwth rhoi ei bleidlais bost yn y bin sbwriel yn hytrach nag yn y post. Mae'r math yma o beth yn digwydd yn achlysurol ar flogiau Alwyn.
Casineb Alwyn at Lafur oherwydd ei ganfyddiad o 'wrth Gymreigrwydd' y blaid honno ydi un o'r rhesymau am ei anhapusrwydd. Rwan mae'n hawdd creu naratif sy'n portreadu Llafur fel plaid wrth Gymreig - byddai enwau megis George Thomas, Don Touig, Kim Howells ac ati yn codi yn aml mewn stori felly. Gellid hefyd wrth gwrs greu naratif tebyg am y Toriaid - byddai'r enwau a'r hanesion canlynol yn codi'n aml yn hwnnw - Delwyn Williams, David Davies, gwrthwynebiad y Toriaid i'r Swyddfa Gymreig a datganoli yn 79 a 97, toriadau diweddar i gyllideb S4C ac ati.
Gellid creu naratif fyddai'n dweud stori wahanol am y ddwy blaid wrth gwrs - mi fyddai Cledwyn Hughes, Elustan Morgan, Carwyn Jones, cefnogaeth i ddatganoli, sefydlu'r Swyddfa Gymreig ac ati yn codi mewn stori felly am y Blaid Lafur, ac mi fyddai Wyn Roberts, Glyn Davies, sefydlu S4C, deddfau iaith ac ati yn codi mewn un am y Toriaid.
Y gwir ydi nad ydi'r naill blaid na'r llall yn cael eu gyrru gan syniadaethau cenedlaetholdeb Gymreig - felly maent iddynt elfennau sydd yn wrthwynebus i genedlaetholdeb Cymreig, ac mae iddynt elfennau nad ydynt yn wrthwynebus. Weithiau maent yn gwneud pethau sydd at ddant y cenedlaetholwr Cymreig, ac weithiau maent yn gwneud rhywbeth gwrth genedlaetholgar. Fel rheol canlyniad i bwysau o gyfeiriad cenedlaethlwyr Cymreig ydi'r camau cadarnhaol - weithiau o gyfeiriad Plaid Cymru, ac weithiau o gyfeiriad mudiadau amgen megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Llywodraeth Cymru'n Un ydi'r esiampl orau o allu cenedlaetholwyr i ddylanwadu er budd Cymru. Ers 2007 mae'r achos cenedlaethol wedi cymryd camau breision ymlaen - hawliau deddfu i'r Cynulliad, deddf iaith, coleg ffederal, comisiynydd iaith, uwchraddio system drafnidiaeth oddi mewn i'r wlad, codi statws henebion cynhenid Gymreig, Holtham, ymrwymiad i greu gwlad ddwyieithog ac ati. Yn wir go brin i Gymru symud yn ei blaen cymaint yn ystod unrhyw gyfnod yn ei hanes.
Canlyniad ydi hyn oll i wleidyddiaeth y pragmatydd, ac nid i wleidyddiaeth y purydd. Cyfaddawd ydi Cymru'n Un, ond un sydd wedi dod a llawer iawn i Gymru - ac o ganlyniad mae'n anodd gweld pam bod cenedlaetholwyr fel Alwyn a HoR yn casau'r Cytundeb i'r fath raddau. Mi fyddwn wedi rhyw feddwl y byddai'r rhan fwyaf o genedlaetholwyr yn gobeithio am fwy o'r hyn a gafwyd - ond dyna fo, dwi ddim yn un da iawn am ddeall sut mae eraill yn meddwl.
Mae peth sylwedd i ddadl Alwyn y byddai clymblaid efo'r Toriaid a'r Lib Dems (pe etholir unrhyw Lib Dems) yn cynyddu gallu'r Blaid i ddylanwadu ar lywodraeth San Steffan. Ond ydi hynny'n dal dwr mewn gwirionedd? Ydi hi'n debygol bod cael Nick Bourne yn ddirprwy brif weinidog yn y Cynulliad yn ddigon uchel ar restr blaenoriaethau Cameron i'w annog i ildio consesiynau mawr? Dwi ddim yn meddwl rhywsut.
Yn bwysicach, mae yna'r mater o
realpolitik. Mae'r brand Toriaidd yn wenwynig yn y rhan fwyaf o Gymru. Yn 2007 doedd hynny ddim mor bwysig oherwydd bod Llafur hefyd yn amhoblogaidd iawn. Felly roedd Clymblaid yr Enfys yn wleidyddol bosibl.
'Dydi hynny ddim yn wir yn 2011. Fel mae pethau ar hyn o bryd, mae'n ddigon posibl y bydd Llafur mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain ym Mis Mai. Byddai clymu'r Blaid - gyda'r gydadran sylweddol o'i chefnogaeth sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, neu sy'n ddibynol ar wariant cyhoeddus mewn ffyrdd eraill - i frand gwenwynig y Toriaid yn sicrhau degau o filoedd o bleidleisiau ychwanegol i Lafur. Byddai hynny yn ei dro yn sicrhau llywodraeth fwyafrifol Llafur.
Go brin y bydd agenda'r cenedlaetholwr yn symud modfedd yn ei blaen am bedair blynedd o leiaf mewn amgylchiadau felly. Yn wir mae'n fwy na thebyg mai llithro'n ol fyddai pethau.