Cyd destun ehangach hyn oll ydi ffigyrau polio (Prydeinig) gwirioneddol isel isel i'r Lib Dems - 12% gan IMS ac 11% gan ComRes er enghraifft. Mae'n gryn gyfnod ers i'r blaid bolio cyn ised a hyn (70au'r ganrif ddiwethaf 'dwi'n meddwl), ac mae'n awgrymu iddynt golli tua hanner eu cefnogaeth ers yr etholiad cyffredinol ym Mis Mai.
Ychydig fisoedd yn ol mi es i ati i greu dull cefn amlen i gyfieithu'r ffigyrau (Lib Dem) Prydeinig i rhywbeth sy'n gwneud synnwyr mewn cyd destun etholiadau Cynulliad. Roedd cefnogaeth y Lib Dems yn y DU yn 15% bryd hynny.
Ystyrier y ffigyrau hyn. Yn etholiad cyffredinol 2005 cafodd y Lib Dems 22% o'r bleidlais tros Brydain ac 18.4% yng Nghymru. Cyfieithodd hyn i 14.8% yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau ac 11.7% ar y rhestrau yn 2007. Hynny yw roedd y Lib Dems yng Nghymru yn cael 83% o'r hyn y cafodd y blaid tros Brydain yn ei gael yn 2007, ac roeddynt yn cael 80% o hynny yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau a 63.5% ar y rhestrau. 'Dwi'n gwybod bod hyn yn beth peryglus i'w wneud - ond os cymerwn bod cefnogaeth y Lib Dems tros Brydain bellach yn tua 15% (fel mae'r polau yn awgrymu), yna byddai'r gefnogaeth yng Nghymru yn 12.45% (mewn termau San Steffan). A chymryd mai tua 80% ar lefel etholaethol a 63% ar y rhestrau o hynny all y Lib Dems ei ddisgwyl ar lefel Cynulliad, yna byddai eu canran o gwmpas 10% yn yr etholaethau ac 8% ar y rhestrau. 'Dydi hyn ddim yn uchel.*
I werthfawrogi gwir erchylldra’r ffigyrau yma mae’n rhaid eu cyfieithu i seddi. Ar hyn o bryd mae gan y blaid dair sedd uniongyrchol, Brycheiniog a Maesyfed, Maldwyn a Chanol Caerdydd. A chymryd y byddant yn colli 46% o’u pleidlais (fel mae’r ffigyrau uchod yn awgrymu) byddant yn debygol o golli’r dair. Fyddai yna ddim llawer o gysur i’w gael yn y rhanbarthau chwaith. Mi fyddai yna yn agos at hanner y bleidlais yn mynd yno hefyd, gan sicrhau y byddai’r sedd yn y Gogledd yn cael eu cholli, ei gwneud yn debygol iawn y byddai’r un yn Nwyrain de Cymru yn mynd – ac yn rhoi’r dair arall mewn perygl. Ar y ffigyrau yma byddai'n bosibl na fyddai gan y blaid gynrychiolaeth o gwbl yn y Cynulliad ar ol Mis Mai - yn union fel sefyllfa UKIP a'r BNP rwan. 'Dwi ddim yn dweud bod hyn am ddigwydd o anghenrhaid - ond ar y ffigyrau diweddaraf mae'n bosibl.
'Does dim rhaid i mi ddweud y byddai goblygiadau pell gyrhaeddol i hyn oll o ran y glymblaid yn Llundain. Fyddai cael hyd at chwech cyn Aelod Cynulliad o Gymru yn eistedd ar eu bodiau yn grwgnach ddim yn broblem fawr ynddo'i hun, ond mae'n debygol y byddai rhywbeth tebyg wedi digwydd yn yr Alban, ac yn bwysicach eto, mae hefyd yn debygol y bydd canoedd o gyn gynghorwyr o ardaloedd trefol Lloegr (mae lle i gredu bod y Lib Dems yn gwneud yn eithaf mewn rhannau cyfoethog o Loegr) yn cael eu hunain efo cryn dipyn o amser ar eu dwylo - hen ddigon o amser i wthio'r cwch i'r dwr.
Mewn geiriau eraill bydd y pwysau sy'n peri i Vince Cable ymddwyn mor anoeth ar hyn o bryd yn llawer, llawer mwy erbyn dechrau'r haf. Mi fydd hi'n gryn sialens i Clegg ddal y sioe at ei gilydd.
*Un nodyn bach technegol efo'r ffigyrau uchod - roedd ffigyrau'r Lib Dems (ICM) rhwng 1% a 2% yn is yn y polau Prydeinig amser etholiadau'r Cynulliad nag oeddynt yn 2005 - 'dydi'r gwahaniaeth ddim yn fawr, ond gallai wneud i fy sgriblo cefn amlen or wneud yr erchylldra rhyw fymryn.
9 comments:
Y tro diwetha i'r blaid fod mor isel yn y polau oedd yn union ar ol ei ffurfio o'r hen gynghrair yn 1988. Aeth hi lawr i 4% os ydw i'n cofion'n iawn
Dim yn gallu cytuno efo hwn. Mae jyst about yn amhosib i'r Libs fynd o dan 4 a dyla 5 cael ei cysidro fel canlyinad uffernol.
Jyst yn poeni fydd y Libs yn cael 6 eto a bydd pawb yn dweud fod o'n canlyniad gret.
Tydi polau cyffredinol ddim yn cymryd pleidlais bersonnol i ystyriaeth chwaith - er, does gen i ddim syniad oes gan y tri ddilyniant bersonnol ai peidio!
Ydi hi'n fwy tebygol i'r bledlais gwympo lle nad ydi hi'n cyfrif beth bynnag?
yr isaf fedra i ddod o hyd iddo Vaughan (ar ol tipyn o ymchwil) ydi 5% ym Mehefin 1990 (ICM) 9% oedd yr isaf gan y cwmni hwnnw yn 88.
Er, dwi'n siwr bod rhywbeth sy'n is gan rhyw gwmni arall neu'i gilydd.
Rwyt yn llygad dy le, Twm, i nodi mantais pleidlais bersonol deiliad sedd, ond bydd Mick Bates ddim yn sefyll yn Nhrefaldwyn a bydd Jenny Randerson dim yn sefyll yng Nghanol Caerdydd Mis Mai nesaf. (Does dim mantais deiliad i sedd rhestr gan fod llwyddiant rhestr yn hollol ddibynnol ar be sy'n digwydd yn yr etholaethau unigol). Dim ond Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed bydd ag unrhyw fendith deiliad o fysg ymgeiswyr y blaid y flwyddyn nesaf.
Bydd diffyg pleidlais bersonol yn ategu at bryderon y Rhydd Dems yn 2011.
Fydd yn ddiddorol i weld faint o bleidlais craidd sy gan y Democratiad Rhyddfrydol a pa mor isel all y bleidlais gwympo. Yn sicr, mewn rhai ardaloedd roedd pobl arfer pleidleisio amdanynt fel y ‘least worst option’ a mae’n debygol ni fydd y pobl yma yn cael eu ysbrydoli i fynd allan i bleidleisio iddynt tro yma. Ydi’r polau nawr yn adlewyrchu gwir cryfder cefnogaeth y Lib Dems, hynny yw cefnogwyr y blaid fydd yn y pleidleisio iddynt beth bynnag?
Dau bwynt anhysb 8:36
(1) Mi fydd y bleidlais Lib Dems yn syrthio'n isel iawn yn rheolaidd - mewn etholiadau Ewrop. Mae hyn yn awgrymu bod y bleidlais graidd yn isel.
(2) Roedd yna bol Angus Reid neithiwr oedd yn rhoi y Lib dems ar 9% tros Brydain. Mae hwn yn ffigwr is na'r un dwi wedi gweithio efo fo - er mae Angus Reid efo record digon cymysg.
Cymhlethdod arall yw 'r ffaith mai'r toriaid sydd yn bygwth fel arfer ym Maldwyn, a Brycheiniog a Maesyfed.
Dwi'n amau yn gryf os bydd brwdfrydedd ymysg eu cefnogwyr hwythau yn enwedig mewn etholaethau i'r cynnulliad, ar y ffin, fel rhain
Efallai Cigfran - ond yr hyn mae'r polau Prydeinig a Chymreig yn ei ddangos ydi bod twf yng nghefnogaeth Llafur, ond bod cwymp mwy yng nghefnogaeth y Lib Dems a bod y Toriaid yn weddol sefydlog. Mae'n anodd credu nad ydi hyn yn drosglwyddadwy i raddau i etholiadau'r Cynulliad.
Post a Comment