Saturday, July 24, 2010

Y cwymp yng nghefnogaeth y Lib Dems ac etholiadau'r Cynulliad

Mae'r blog yma wedi nodi (mewn ffordd ychydig yn sbeitlyd efallai) bod y Lib Dems yng Nghymru pob amser yn cael un sedd yn fwy na'r isafswm posibl y byddai'n bosibl iddynt ei gael mewn etholiad Cynulliad. Y nifer gwaethaf posibl mae'n debyg i 'brif' blaid fyddai 5 - un sedd ranbarthol o pob rhanbarth. Chwech fydd y Lib Dems yn ei gael pob tro. Ond ydi hyn yn wir? Mae'r polau diweddaraf yn awgrymu bod y gefnogaeth i'r Lib Dems wedi chwalu ers iddynt gael eu hunain yn rhannu gwely efo'r Toriaid yn San Steffan. Roedd YouGov yn ddiweddar yn awgrymu mai 13% o etholwyr y DU sy'n eu cefnogi bellach. 23% oedd y lefel (Prydeinig) ym mis Mai a 22% yn 2005. Ychwaneger at hyn y ffaith bod y Lib Dems wastad yn perfformio'n gryf mewn etholiadau cyffredinol a lleol ond yn sal mewn rhai Ewrop a Chynulliad ac mae'n dechrau ymddangos bod problemau go iawn ar y gorwel.

Ystyrier y ffigyrau hyn. Yn etholiad cyffredinol 2005 cafodd y Lib Dems 22% o'r bleidlais tros Brydain ac 18.4% yng Nghymru. Cyfieithodd hyn i 14.8% yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau ac 11.7% ar y rhestrau yn 2007. Hynny yw roedd y Lib Dems yng Nghymru yn cael 83% o'r hyn y cafodd y blaid tros Brydain yn ei gael yn 2007, ac roeddynt yn cael 80% o hynny yn etholiadau'r Cynulliad yn yr etholaethau a 63.5% ar y rhestrau. 'Dwi'n gwybod bod hyn yn beth peryglus i'w wneud - ond os cymerwn bod cefnogaeth y Lib Dems tros Brydain bellach yn tua 15% (fel mae'r polau yn awgrymu), yna byddai'r gefnogaeth yng Nghymru yn 12.45% (mewn termau San Steffan). A chymryd mai tua 80% ar lefel etholaethol a 63% ar y rhestrau o hynny all y Lib Dems ei ddisgwyl ar lefel Cynulliad, yna byddai eu canran o gwmpas 10% yn yr etholaethau ac 8% ar y rhestrau. 'Dydi hyn ddim yn uchel.

Mi fyddai perfformiad felly (petai'r cwymp yn unffurf) yn hawdd yn gallu arwain at golli sedd y Lib Dems yn rhanbarth y Gogledd, er y dylai'r ddwy sedd ranbarthol arall - yn y De Dwyrain a'r Gorllewin De Cymru fod yn eithaf diogel. Eto a chymryd cwymp unffurf mi fyddai sedd uniongyrchol Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed, mewn perygl gwirioneddol ac mi fyddai Trefaldwyn yn siwr o syrthio. Petai'r ddwy yn syrthio mae'n sicr y byddai'r Lib Dems yn ennill sedd ranbarthol. I lawr yng Nghanol Caerdydd mi fyddai'n rhaid i Nigel Howells (sy'n sefyll yn lle Jenny Randerson) weddio na fyddai'r 3,500 i 4,000 o bleidleisiau mae'n debygol o golli yn mynd yn uniongyrchol i Lafur - er efallai y gall ddisgwyl pleidleisiau tactegol gan y Toriaid yma, a byddai colli'r sedd yn arwain at ennill un ranbarthol beth bynnag.

Felly mae pob un o'u seddi mewn perygl mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ag eithrio rhai Peter Black a Mrs German. Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf y bydd yna dipyn o graffu ar y polau ymysg Lib Dems Cymru tros y misoedd nesaf.

3 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Diddorol, roeddwn wedi cymeryd fod sedd Canol Caerdydd yn eitha saff.

menaiblog said...

Roedd gan Randerson 51.2% o'r bleidlais y tro o'r blaen ac roedd Llafur efo 21.9% - mwyafrif mawr.

Ond os ydi'r arolygon barn yn gywir gallai'r Lib Dems golli hyd at draean o'u pleidlais - 17% gan eu rhoi ar 34% i 35%. Ychwaneger at hyn y ffaith bod yr aelod presenol yn ymddeol, bod y Lib dems wedi ypsetio eu cyfeillion o stiwdats (maen nhw fel chwain yn rhannau o ganol Caerdydd) a'r ffaith i bleidlais Willots syrthio 8.4% yn etholiadau San Steffan eleni ac mae sioc yn ymddangos ond yn rhy bosibl yn fwyaf sydyn.

Anonymous said...

Rhagwelaf y bydd cefnogaeth i'r Rhyddfrydwyr Democratiaid yn dymchwel yn sylweddol y blwyddyn nesaf yn ystod etholiadau lleol yn Lloegr, Senedd Yr Alban ac i'n Cynulliad Cenedlaethol. Serch hynny, mae cefnogaeth unrhyw blaid fechan i weithio mewn clymblaid ermwyn ffurfio llywodraeth yn gwbl bosibl. Mae'n berffaith bosibl y bydd y Rhyddfrydwyr yn colli seddau yn yr etholiad i'r Cynulliad ond yn manteisio ar unrhyw gyfle i ffurfio Llywodraeth yng Ngabinet Carwyn Jones, Ieuan Wyn Jones neu Nick Bourne. Mae'r holl syniad o bleidlais cyfrannol yn drewi ac o ganlyniad nid oes gennyf unrhyw bwriad o bleidleisio dros yr 'Additionl Vote System' pan ddaw gerbron bobl y D.U mewn refferendwm. Ni fyddaf ychwaith yn dewis cefnogi ymgeisydd Rhyddfrydol lleol mewn etholiadau lleol i'r dref nac ychwaith i'r Cynghor Sir ar ol iddynt penderfynnu ffurfio llywodraeth gyda'r Toriaid yn San Steffan.
Er i mi erioed pleidleiso dros y Ceidwadwyr mewn 23 mlynedd nid wyf yn teimlo fy mod i wedi fy nhwyllo ganddynt oherwydd y cof sydd gennyf o Thatcher a'i chriw. Serch hynny, mae Clegg, Cable, Laws, Alexander ac eraill yn unigolion clwyddog, manteisiol, diystyriol, camarweiniol ac anffodus. Yn wir, mi fydd pwysigrwydd (fechan)a dylanwad (llai fyth)y Rhyddfrydwyr Democratiaid yn diflannu erbyn dechrau haf 2011!
Nid ydynt wedi sylweddoli eto goblygiadau twp ei penderfyniad diweddar.