Friday, December 24, 2010

Toriaid yn 'nutters' - Peter Black

Un rhyfedd ydi Peter Black. Fe glywsom wythnos diwethaf ei fod yn ystyried Leighton Andrews yn cretin, ond ymddengys ei fod hefyd yn ystyried partneriaid ei blaid yn San Steffan yn nutters. Wnaeth o ddim trafferthu i egluro pam bod ei blaid wedi mynd i bartneriaeth efo, a rhedeg y DU yng nghwmni y cyfryw lwyth o nutters - ond dyna fo.

Mae'n drist gweld Peter mor flin, cegog a ffraegar a hithau'n dymor o ewyllys da fel hyn. Tybed os oes yna rhywbeth neu'i gilydd yn ei boeni?

Arweinydd plaid Peter yng Nghymru efo dau nutter.

Diweddariad 20:30 - Mae Peter bellach wedi cymedroli ei sylwadau, ac mae'n ymddangos mai dim ond Toriaid adain Dde ydi'r nutters bellach - Thank goodness the Liberal Democrats are there to keep the nutters on the right wing of the Tory party in check. Toriaid yn gyffredinol oedd yn ei chael hi y bore 'ma.

Peth gwych ydi'r 'Dolig - gall feirioli'r mwyaf cegog hyd yn oed.

2 comments:

Plaid Whitegate said...

Mynd yn excited i feddwl mai fo fydd yn arwain y Lib Dems yn y Cynulliad mae o... grwp o 1.

Cai Larsen said...

O bosibl.

Neu efallai mai'r broblem ydi hon - mi fyddai bod yn ymgorfforiad un dyn o'r Blaid Lib Dem yng Nghymru yn brofiad gwych a nefolaidd.

Ond byddai disgyn i'r un twll du a phob Dib Lem arall a mynd i ddifancoll gwleidyddol efo'r gweddill yn brofiad cyfangwbl uffernol ac erchyll.

Gall y naill beth neu'r llall ddigwydd - ac mae'r tyndra o fod ddim yn siwr pa lwybr sydd i'w gymryd o mor ofnadwy.

Ac felly mae'r hen foi yn flin fel tincar.