Saturday, December 04, 2010

Myfyrdodau ar y Mesur Iaith

Mae'n debyg y dyliwn ddweud gair neu ddau am y Mesur Iaith fydd yn dod i bleidlais yn y Cynulliad wythnos nesaf. Mi fyddwch yn ymwybodol bod y gwrthbleidiau yn y Cynulliad a gwahanol ymgyrchwyr iaith eisiau i'r Mesur roi statws cyfartal diamod i'r iaith, tra bod y llywodraeth yn rhybuddio y byddai statws felly yn arwain at sefyllfa lle mai'r llysoedd fyddai'n diffinio hyd a lled effaith y Mesur. Gellir gweld safbwynt y gweinidog perthnasol, Alun Ffred yma, a gellir gweld y safbwynt arall yma. Mae gan Alwyn flogiad diweddar digon synhwyrol ar y mater yma.

Mae hefyd wedi dod yn glir tros y dyddiau diwethaf y bydd Bethan Jenkins yn cynnig gwelliant wyth gair i Fesur Alun Ffred fyddai, o'i dderbyn yn atgyfnerthu statws y Gymraeg o'i chymharu a'r Saesneg.

Fy mwriad efo'r blogiad yma ydi edrych ar bethau o safbwynt ychydig yn wahanol ac ystyried ddefnyddioldeb mesurau, neu ddeddfau iaith wrth adfer neu gynnal iaith.

Ystyrier y canlynol:


BUNREACHT NA hÉIREANN - CYFANSODDIAD IWERDDON
ERTHYGL 8:


(1) Yr iaith Wyddeleg fel yr iaith genedlaethol yw'r iaith swyddogol gyntaf.

(2) Cydnabyddir y Saesneg fel yr ail iaith swyddogol.

(3) Gellir gwneud darpariaethau, fodd bynnag - yn gyfreithiol, i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall yn unig i un pwrpas swyddogol neu fwy, naill ai mewn rhan o'r Wladwriaeth neu drwyddi draw.


Rwan, yn amlwg daw'r dyfyniad o gyfansoddiad Gweriniaeth Iwerddon. Mae'r cymal cyntaf yn rhoi statws uwchraddol i'r Wyddeleg o gymharu a'r Saesneg, ond mae'r trydydd yn manylu y gellir defnyddio'r naill iaith neu'r llall i bwrpasau swyddogol.

Rwan, ar sawl golwg mae hwn yn gryfach na'r hyn a gynigir i'r Gymraeg yn y Mesur, ac mae hefyd yn gryfach na'r hyn mae'r ymgyrchwyr iaith yn gofyn amdano. Ond - 'dydi'r statws cyfansoddiadol yma heb achub y Wyddeleg yn yr Iwerddon.

Os ewch i Ddulyn mae'r lle yn Dwr Babel ieithyddol - ond mi fyddwch chi'n lwcus o glywed gair o Wyddelig. I glywed y Wyddeleg yn cael ei siarad yn naturiol bydd rhaid i chi wneud eich ffordd i gorsydd Donegal neu Conemara neu i'r ynysoedd di bridd oddi ar arfordir y Gorllewin. Mae eich gobaith o gael awdurdodau lleol, adrannau llywodraethol neu fusnesau i ddelio efo chi yn y Wyddeleg yn llawer is nag yw i gael cyrff cyffelyb i ddefnyddio'r Gymraeg yng Nghymru. Roedd y Wyddeleg yn llawer, llawer cryfach pan nad oedd ganddi statws swyddogol o gwbl. Yn wir mae yna lawer mwy o wynt yn hwyliau'r iaith ar strydoedd Gorllewin Belfast nad oes iddi statws swyddogol a lle roedd oedd yn cael ei chysylltu gan lawer o bobl gyda therfysg a thrais hyd yn ddiweddar.

Peidiwch a fy ngham ddeall i. Nid dadlau ydw i nad yw statws swyddogol yn bwysig. 'Dwi'n siwr bod diffyg statws felly wedi bod yn un o'r ffactorau a arweiniodd ddirywiad hir a graddol y Gymraeg. Dadlau ydw i'n hytrach nad statws swyddogol ydi'r peth pwysicaf o ddigon o safbwynt adfer neu gynnal iaith. Camgymeriad y Gwyddelod oedd credu y byddai pob dim yn dilyn yn naturiol o sefydlu statws cyfansoddiadol i'r iaith - rhoi eu ffydd mewn datrysiad top down os y mynnwch.

Mae darparu cyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i bawb yn ymarferol bwysicach, mae amddiffyn darlledu cyfrwng Cymraeg yn ymarferol bwysicach - felly hefyd ymdrechion y mentau iaith i normaleiddio'r defnydd o'r iaith, felly hefyd parodrwydd ffigyrau cyhoeddus i ddefnyddio'r iaith yn gyhoeddus - ac yn arbennig ein parodrwydd ni fel Cymry Cymraeg i goleddu'r iaith ac i fachu ar pob cyfle i'w defnyddio.

Rwan, ydi statws swyddogol i'r Gymraeg am wneud yr uchod yn fwy tebygol ac yn haws? Ydi mae'n debyg.

Ydi union natur y statws hwnnw yn bwysicach nag ydi adeiladu strwythur a chyd destun i'r iaith gael eu defnyddio ynddynt ar lawr gwlad? 'Dwi ddim yn meddwl.

Pe byddwn i mewn sefyllfa i wneud hynny byddwn yn sicr yn ystyried yn ddwys pleidleisio tros welliant Bethan. Ond yn y pen draw 'dydi union eiriad y Mesur ddim o dragwyddol bwys o gymharu a datblygiad organaidd rhwydweithiau iaith ar lawr gwlad. Mae modd gwneud gormod o'r symbolaidd mae gen i ofn.

3 comments:

Aled G J said...

Dwi'n dueddol o rannu pryder y gweinidog y byddai datgan yn ddiamwys bod gan unigolyn hawl i gael gwasanaethau Cymraeg ym mhob rhan o Gymru yn wrthgynhyrchiol, nid yn unig o ran ei ymarferoldeb ond hefyd o ran creu jambori o gwynion/apeliadau mewn llysoedd, fyddai'n niweidiol iawn i ddelwedd yr iaith. Yn bersonol, dwi'n meddwl fod y syniad o osod safonau y bydd disgwyl i gyrff/awdurdodau eu cyrraedd yn awgrymu y bydd yna gydnabod amrywiaeth ieithyddol Cymru fel rhan o'r mesur newydd, a siawns mai dyna'r ateb pragmataidd i realiti cyfoes ein gwlad. Ac mae'r hyn dwi'n ei glywed am ddynodi 8 ardal benodol yn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol arbennig yn gam pwysig iawn yn y brif frwydr ieithyddol, sef cynnal y Gymraeg yn iaith fyw pob dydd yn y cadarnleoedd sydd yn weddill.

Aled said...

Y trafferth, serch hynny, yw hyn. Mae safonau yn medru llithro'n hawdd iawn gyda threigl amser. Yn ein hardal ni yn Nyffryn Teifi(60% yn siaradwyr Cymraeg), mae'n amhosibl sicrhau gwasanaeth Cymraeg mewn unrhyw Swyddfa Post o gwbwl. A hyn er gwaethaf "ymrwymiad" y Post Brenhinol drwy ei gynllun iaith i drafod cwsmeriaid Cymraeg yn gyfartal. Yn y trefi marchnad, yn y pentrefi mawr a bychain, dim ond Saeson sydd yno; Saeson heb unrhyw awydd i ddysgu iaith y mwyafrif.

A beth am safonau mewn gwasanaethau cymdeithasol? Mae'r ffin ieithyddol yn carlamu tua'r gorllewin yn yr hen lofa'r glo caled, gan adael miloedd o Gymry hŷn bregus heb wasanaeth yn eu mamiaith. Yn eu dryswch, dim ond Saesneg.

Pam nad wyf innau y meddu'r hawl i dderbyn gwasanaethau cyhoeddus yn yr ychydig sy'n weddill o'r Fro Gymraeg yn fy mamiaith? Pam nad yw'r genhedlaeth hŷn yn haeddu ymrwymiad 100% y byddan nhw'n treulio blynyddoedd y machlud yn synnau'r iaith fwyaf cyfarwydd?

Pe byddai deddfwriaeth ddigonol i amddiffyn nid iaith, ond hawliau siaradwyr yr iaith honno, mi fyddai modd ennyn ufudd-dod oddi wrth y sawl sy'n gwasanaethau cyhoeddus. Paham nad yw'r llywodraeth Llafur-Plaid yn fodlon deddfu i wneud hyn?

Emyr Lewis said...

Mae'r sylwadau'n y blogiad hwn yn rhai synhwyrol iawn. Dydi statws swyddogol ddim yn mynd i ddiogelu'r iaith ar ei ben ei hun. Nid oes unrhyw ddarpariaeth statudol yn mynd i wneud hynny.

Mae ffawd y Wyddeleg yn Iwerddon yn rhybudd i ni, ond mae gwahaniaethau mawr rhwng sefyllfa'r Wyddeleg adeg creu cyfansoddiad y Weriniaeth a sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru heddiw. Serch hynny, rwyt yn llygad dy le yn tynnu'n sylw at y perygl bod deddf yn ein suo i feddwl nad oes angen gwneud dim arall.

Ond gan mai trafod deddf yr ydym ni, mae angen i ni gydnabod sut y byddai datganiad diamod o statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yn help mawr:

(1) byddai'n darian gref rhag ymosodiadau gelynion yr iaith, yn ymarferol o ddydd i ddydd, a hefyd pe bai (er enghraifft) rhywun yn ceisio herio polisi blaengar o blaid y Gymraeg (megis polisi addysg gynradd Gwynedd) (gw. "Hawl i'r Gymraeg" gan Gwion Lewis ar y pwnc hwn).

(2) lles seicolegol a chymdeithasol datganiad o'r fath.

Mae'r gwelliant y mae'r gwrthbleidiau am ei osod gerbron yn un radical, ac mae'n deillio o argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Deddfu trawsbeidiol. (Adroddiad y pwyllgor hwnnw yw, (hyd y gwn i) yr unig ddadansoddiad manwl o'r Mesur a wnaed yn gyhoeddus, ac mae'n werth ei astudio.)

Mae cynnig Bethan Jenkins yn gyfaddawd anrhydeddus rhwng awgrym y Pwyllgor, a'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd gan y Llywodraeth.