tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post2808609161881450814..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Myfyrdodau ar y Mesur IaithCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger3125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-69852151658725965572010-12-05T19:47:06.731+00:002010-12-05T19:47:06.731+00:00Mae'r sylwadau'n y blogiad hwn yn rhai syn...Mae'r sylwadau'n y blogiad hwn yn rhai synhwyrol iawn. Dydi statws swyddogol ddim yn mynd i ddiogelu'r iaith ar ei ben ei hun. Nid oes unrhyw ddarpariaeth statudol yn mynd i wneud hynny.

Mae ffawd y Wyddeleg yn Iwerddon yn rhybudd i ni, ond mae gwahaniaethau mawr rhwng sefyllfa'r Wyddeleg adeg creu cyfansoddiad y Weriniaeth a sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru heddiw. Serch hynny, rwyt yn llygad dy le yn tynnu'n sylw at y perygl bod deddf yn ein suo i feddwl nad oes angen gwneud dim arall.

Ond gan mai trafod deddf yr ydym ni, mae angen i ni gydnabod sut y byddai datganiad diamod o statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yn help mawr:

(1) byddai'n darian gref rhag ymosodiadau gelynion yr iaith, yn ymarferol o ddydd i ddydd, a hefyd pe bai (er enghraifft) rhywun yn ceisio herio polisi blaengar o blaid y Gymraeg (megis polisi addysg gynradd Gwynedd) (gw. "Hawl i'r Gymraeg" gan Gwion Lewis ar y pwnc hwn).

(2) lles seicolegol a chymdeithasol datganiad o'r fath.

Mae'r gwelliant y mae'r gwrthbleidiau am ei osod gerbron yn un radical, ac mae'n deillio o argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Deddfu trawsbeidiol. (Adroddiad y pwyllgor hwnnw yw, (hyd y gwn i) yr unig ddadansoddiad manwl o'r Mesur a wnaed yn gyhoeddus, ac mae'n werth ei astudio.)

Mae cynnig Bethan Jenkins yn gyfaddawd anrhydeddus rhwng awgrym y Pwyllgor, a'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd gan y Llywodraeth.Emyr Lewisnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-86558464507424769402010-12-05T18:25:06.380+00:002010-12-05T18:25:06.380+00:00Y trafferth, serch hynny, yw hyn. Mae safonau yn m...Y trafferth, serch hynny, yw hyn. Mae safonau yn medru llithro'n hawdd iawn gyda threigl amser. Yn ein hardal ni yn Nyffryn Teifi(60% yn siaradwyr Cymraeg), mae'n amhosibl sicrhau gwasanaeth Cymraeg mewn unrhyw Swyddfa Post o gwbwl. A hyn er gwaethaf "ymrwymiad" y Post Brenhinol drwy ei gynllun iaith i drafod cwsmeriaid Cymraeg yn gyfartal. Yn y trefi marchnad, yn y pentrefi mawr a bychain, dim ond Saeson sydd yno; Saeson heb unrhyw awydd i ddysgu iaith y mwyafrif.

A beth am safonau mewn gwasanaethau cymdeithasol? Mae'r ffin ieithyddol yn carlamu tua'r gorllewin yn yr hen lofa'r glo caled, gan adael miloedd o Gymry hŷn bregus heb wasanaeth yn eu mamiaith. Yn eu dryswch, dim ond Saesneg.

Pam nad wyf innau y meddu'r hawl i dderbyn gwasanaethau cyhoeddus yn yr ychydig sy'n weddill o'r Fro Gymraeg yn fy mamiaith? Pam nad yw'r genhedlaeth hŷn yn haeddu ymrwymiad 100% y byddan nhw'n treulio blynyddoedd y machlud yn synnau'r iaith fwyaf cyfarwydd?

Pe byddai deddfwriaeth ddigonol i amddiffyn nid iaith, ond hawliau siaradwyr yr iaith honno, mi fyddai modd ennyn ufudd-dod oddi wrth y sawl sy'n gwasanaethau cyhoeddus. Paham nad yw'r llywodraeth Llafur-Plaid yn fodlon deddfu i wneud hyn?Alednoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-23603158115772775232010-12-05T17:21:44.271+00:002010-12-05T17:21:44.271+00:00Dwi'n dueddol o rannu pryder y gweinidog y byd...Dwi'n dueddol o rannu pryder y gweinidog y byddai datgan yn ddiamwys bod gan unigolyn hawl i gael gwasanaethau Cymraeg ym mhob rhan o Gymru yn wrthgynhyrchiol, nid yn unig o ran ei ymarferoldeb ond hefyd o ran creu jambori o gwynion/apeliadau mewn llysoedd, fyddai'n niweidiol iawn i ddelwedd yr iaith. Yn bersonol, dwi'n meddwl fod y syniad o osod safonau y bydd disgwyl i gyrff/awdurdodau eu cyrraedd yn awgrymu y bydd yna gydnabod amrywiaeth ieithyddol Cymru fel rhan o'r mesur newydd, a siawns mai dyna'r ateb pragmataidd i realiti cyfoes ein gwlad. Ac mae'r hyn dwi'n ei glywed am ddynodi 8 ardal benodol yn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol arbennig yn gam pwysig iawn yn y brif frwydr ieithyddol, sef cynnal y Gymraeg yn iaith fyw pob dydd yn y cadarnleoedd sydd yn weddill.Aled G Jnoreply@blogger.com