Sunday, December 13, 2009

Refferendwm Catalunya


Os ydych yn cael y rhan fwyaf o'ch newyddion gan y BBC neu'r cyfryngau prif lif ni fyddwch yn gwybod bod refferendwm ar annibyniaeth yn Catalunya heddiw. Mae yna un.

Yn anffodus dydi hi ddim yn un swyddogol - dydi cyfansoddiad Sbaen ddim yn caniatau i'r cwestiwn gael ei ystyried. Fodd bynnag mae llawer o drefi yn pleidleisio mewn refferendwm answyddogol heddiw - 700,000 o bobl i gyd. Mae refferendwm mewn rhai llefydd eisoes wedi digwydd ac mae mwy wedi eu trefnu yn ystod y flwyddyn newydd.

Gallwch ddilyn canlyniadau heno yn fyw ar flog penigamp Syniadau, ac mae Jill Evans hefyd yn blogio'n fyw o Catalunya.


2 comments:

Anonymous said...

'run pwynt yma:

http://british-nats-watch.blogspot.com/

Western Mail a BBC Cymru'n anobeithiol.

Anonymous said...

Roedd y stori ar Golwg 360 os ydi hynny'n gysur!