Thursday, December 17, 2009

Parrotgate, datblygiadau pellach



Rydym wedi edrych sawl gwaith ar Parrotgate - y fargen sy'n ymddangos i fod wedi ei tharro rhwng Nick Bourne a Mohammad Asghar i'r naill adael i'r llall gyflogi aelodau o'i deulu a sicrhau ail safle iddo ar restr y De Ddwyrain ar yr amod ei fod yn troi at y Blaid Doriaidd. Rydym hefyd wedi edrych ar beth mae hyn yn dweud wrthym am ddiffyg egwyddorion a'r diffyg parch at weithdrefnau sydd gan y Blaid Doriaidd Gymreig. Edrych ar fater cysylltiedig y byddwn isod.

Yn hwyr nos Sadwrn diwethaf gadawyd y neges ganlynol dudalen sylwadau un o'r blogiadau yr oeddwn wedi ei 'sgwennu ynglyn a Parrotgate:

Cytuno yn llwyr - os di dy ddamcaniaeth yn gywir. Fe fyddwn yn rhyfeddu serch hynny pe byyddai Mr Ashgar yn cael ei drin yn wahanol i bob ymgeisydd arall.Heb fod yn hyll ond pa syndod oedd dewis Plaid Cymru i ddilyn Adam? Yn lleol mae 'na honiadau o gam ddefnyddio pleidlais bost ayb? Dim son am hyn gan Flog Menai ond mae aelodau Plaid yn y rhanbarth yn codi'r mater efo fi!

Mae'r awdur yn honni mai fo ydi Guto Bebb, darpar ymgeisydd y Toriaid yn Aberconwy.

Ceir dau ran i'r sylwadau. I ddechrau ceir awgrym mai damcaniaeth gennyf i ydi'r cytundeb rhwng Bourne a Mohammad Asghar - rhywbeth sy'n amlwg ddim yn wir. Mae Golwg360, y Bib a'r Western Mail wedi dyfynnu'r naill ddyn neu'r llall yn cadarnhau bod bargen. Does yna ddim awgrym hyd yn hyn bod yr honiadau wedi eu gwadu gan Bourne na Mohammad Asghar.

Gadawodd Guto nifer o sylwadau pellach tros y diwrnod neu ddau diwethaf (gellir eu gweld yma) - ei fod o wedi gwirio gyda gwahanol swyddogion yn ei blaid na fydd Mohammad Asghar yn cael ei drin yn wahanol i neb arall yn y broses dewis ymgeisyddion a bod hynny wedi ei gyfathrebu i'r cyfryngau. Nid yw'n gwneud sylw ynglyn a'r honiad yn y Western Mail bod cytundeb rhwng Bourne a Mohammad Asghar ynglyn a chaniatau iddo gyflogi aelodau o'i deulu.

'Rwan, 'dwi'n un gweddol dda am ddilyn y newyddion ar y cyfryngau Cymreig, ond does gen i ddim cof i'r wybodaeth na fydd Mohammad Asghar yn derbyn triniaeth ffafriol ymddangos ar unrhyw gyfrwng arall. Does gen i ddim lle i gredu chwaith i Golwg, na'r Western Mail na'r Bib dderbyn gwybodaeth bod y Toriaid yn ystyried eu hadroddiadau yn gamarweiniol. Hyd y gwelaf i dim ond ar flogmenai mae'r 'camargraff' mae'r cyfryngau prif lif wedi ei roi wedi ei 'gywiro'. 'Dwi'n ddiolchgar i Guto am yr egsgliwsif wrth gwrs, a 'dwi'n eithaf balch o'r darlleniad cymharol uchel sydd gan y blog hwn, ond byddwn yn awgrymu bod y Toriaid Cymreig yn mynnu bod y cyfryngau prif lif o dan sylw yn cywiro'r hyn maent wedi ei honni am weithdrefnau dewis ymgeisyddion y Toriaid.

Yn y cyfamser os nad oes neb wedi egluro i Mohammad Asghar nad yw ei ail le ar restr y Toriaid yn Ne Ddwyrain Cymru yn ddiogel, 'dwi'n fwy na pharod i'w e bostio efo'r newyddion drwg.

Honiad o dwyll a thor cyfraith yn y broses o ddewis olynydd i Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a cherydd i flogmenai am beidio son am y cyfryw dwyll a thor cyfraith ydi ail ran y sylw gwreiddiol. Doedd yna ddim tystiolaeth i gefnogi'r sylwadau, dim ond honiad bod aelodau o'r Blaid wedi rhoi'r genadwri i Guto. Pe byddai 'Pleidwyr' am gwyno, byddai dyn yn meddwl y byddent yn gwneud hynny i Dy Gwynfor neu Stryd y Gwynt, yn hytrach nag i swyddfa'r Toriaid yn Llandudno - ond dyna fo.

Ers hynny mae Guto wedi manylu rhyw gymaint ar yr honiadau. A bod yn onest 'dwi ddim yn siwr os ydi'r manylu hwnnw yn taflu unrhyw oleini ar bethau. Honni roedd ar y cychwyn bod cam ddefnyddio pleidlais bost ayb wedi digwydd. Yn ei sylwadau diweddarch mae'n dweud bod Jonathan Edwards wedi ennill trwy bleidleisiau post er iddo berfformio'n wan iawn ar y ddwy noson o hystings. Dydi o ddim yn glir os mai son am anerchiad Jonathan mae Guto pan mae'n son am berfformiad gwan, 'ta son am y pleidleisiau a gafodd eu bwrw ar y nosweithiau. Yn sicr byddai hynny'n gryn syndod i mi gan nad yw'n bosibl cymharu sut bleidlais gafodd y gwahanol ymgeisyddion ar y noswaith a thrwy bleidlais bost, oherwydd i'r pleidleisiau i gyd gael eu cymysgu cyn eu cyfri.

Rwan os mai'r oll sydd gan Guto ydi bod rhywun neu'i gilydd wedi dweud wrtho i Jonathan berfformio'n wan iawn ar y ddwy noson o hystings, yna mae hynny'n sail treuenus o dila i gyhuddo pobl o rhywbeth a allai eu cael o flaen eu gwell.

Oherwydd fy mod yn digwydd cadw blog mi fyddaf yn aml yn cael stori gan rywun neu'i gilydd sy'n dechrau efo rhywbeth fel - mae hwn a hwn wedi dweud hyn a hyn am hwn a hwn _ _ . Heb swnio'n dduwiol, fydda i byth yn ystyried cyhoeddi stwff felly oherwydd nad ydi ail ddweud rhywbeth mae rhywun di enw wedi ei ddweud yn dystiolaeth o unrhyw fath yn y byd - a wna i ddim cyhoeddi rhywbeth cymharol ddi niwed sydd heb dystiolaeth y gallaf gyfeirio ato - heb son am honiadau o dorri cyfraith etholiadol. Blogiwr amaturaidd ydw i - mi fyddwn i wedi disgwyl gwell na hel clecs ar y We am fater mor ddifrifol gan ymgeisydd seneddol ar ran un o'r prif bleidiau Prydeinig.

Beth bynnag mi hoffwn wahodd Ceidwadwyr Aberconwy i gyflwyno unrhyw dystiolaeth go iawn o dwyll sydd ganddynt naill ai i'r Blaid yn ganolog, neu - yn well - i'r heddlu. Os nad oes tystiolaeth* yn cael ei gynnig gan Guto byddaf yn cymryd mai rhan o ymgyrch bardduo - smear campaign - cwbl ddi sail gan Geidwadwyr Aberconwy ydi'r sylwadau sydd wedi eu gadael ar fy mlog.

* Dydi gwneud honiad sy'n cychwyn efo'r geiriau yn lleol mae na honiadau _ _ _ ddim yn dystiolaeth - neu mi fyddai'r honiad cwbl gelwyddog canlynol wedi ei gefnogi gyda thystiolaeth - yn lleol mae na honiadau bod pawb a bleidleisiodd mewn ffordd arbennig yn yr etholiad i ddewis ymgeisydd Toriaidd yn Aberconwy wedi cael peint o Mackesons am ddim yn y St Georges 'ar ol yr hystings, pa syndod oedd dewis y Toriaid?

9 comments:

Guto Bebb said...

O Cai bach ti'n chwerthinllyd o sensitif i unrhyw honiad yn erbyn dy blaid fach.

Fe atebaf y mwyaf dilys o'th sylwadau, nid bod llawer o'r rhai hynny yn y blogiad hwn sy'n fwy i wneud efo prifathro dan ormod o straen diwedd tymor na unrhyw resymeg na chyfraniad doeth i ddadl.

Er gwaethaf dy holl honiadau am Mr Ashgar y mae'r ffeithiau'n syml. Ni all, ac nid yw o fewn gallu Nick Bourne i newid rheolau dewis y Blaid Geidwadol. Y mae swyddogion y blaid yr wyf wedi siarad â hwy oll yn gadarn na fydd newid i'r rheolau dewis. Ni chredaf fod modd i mi fod yn fwy agored na hynny efo chdi na dy ddarlenwyr.

Os oes cadarnhad fod addewid o'r fath wedi ei wneud (ac nid oes unrhyw dystiolaeth wedi ei gyflwyno) yna ni fydd hyn yn newid y drefn sydd ohoni er mwyn dewis aelodau. Byddai'n rhaid newid rheolau mewnol y Blaid er mwyn gwireddu'r fath addewid. Wn i ddim beth sy'n anodd fan hyn Cai ond fel mae pethau'n sefyll fe fydd Mr Ashgar yn cael ei ddewis neu ddim ar sail y rheolau yn yr un modd ac unrhyw aelod cyfatebol arall.

O ran dy sylw digon hyll (h.y. yr awgrym fy mod yn osgoi'r pwnc) na fu i mi wadu fod Mr Ashgar am gyflogi ei ferch - wel ni chredaf i ti godi'r pwynt hwnnw mewn unrhyw flogiad blaenorol. Os ti'n dymuno fe af ati i ofyn i swyddogion y Blaid yn y Cynulliad beth yw ei bwriad yn y mater hwn. Nid wyf yn ymwybodol o reolau'r grwp o ran dewis staff felly dwi'n methu cyfrannau rhagor.

Rwan Cai, pam fod y tegannau i gyd yn cael eu taflu allan o'r pram ynghylch dewis ymgeisydd Caerfyrddin a Dinefwr? Wyt ti wedi clywed yr un ensyniadau ac yn rhyfeddu fod rhyw ddiawl o dori hefyd yn gwybod?

Yr oll i mi ddweud oedd fod yna sylwadau'n cael eu gwneud am y defnydd o bledleisiau post.

Tydi dewis ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin yn poeni dim arnaf nac ychwaith ar aelodau y Blaid Geidwadol yn Aberconwy. Mor belled a dwi'n poeni fe allai'r Blaid fod wedi dewis 'Mickey Mouse'.

Yr hyn sy'n berthnasol serch hynny yw fod gennyf lawn gymaint o hawl i ddatgan yr hyn dwi wedi glywed (o fwy nac un cyfeiriad) am y modd y mae dy blaid di yn dewis ymgeisydd i'r hyn sydd gennyt tithau i wneud honiadau am ddulliau dewis y Blaid Geidwadol.

Fe fyddwn yn dra diolchgar pe byddet yn gallu cynnig unrhyw dystiolaeth nad oes rhyw anfodlonrwydd gyda'r modd y defnyddiwyd y broses o bledleisio post er mwyn sicrhau'r enwebiad i Mr Edwards. Nid fod hynny'n erbyn y rheolau ond ydi pleidlais cyn gweld yr ymgeiswyr yn perfformio yn ddull cwbwl ddemocrataidd o ddewis darpar Aelod Seneddol?

Gyda llaw Cai. Gan fod dulliau dewis aelodau cynulliad y Ceidwadwyr yn fater o gymaint o ddiddordeb i ti siawns y byddet yn gallu datgan wrth dy ddarllenwyr faint o bledleisiau gafodd Janet Ryder yng Ngogledd Cymru gan aelodau dy blaid a faint gafodd Dafydd Wiglesy. Da hefyd pe byddet yn gallu cyfiawnhau pam fod pobl gogledd Cymru yn gorfod talu am wasanaeth ail reng Janet Ryder yn hytrach na Dafydd Wigley - y cyfan i gadw rheolau hurt dewisiadau mewnol dy blaid mewn trefn yw'r rheswm dwi'n credu ond efallai y gallet gadarnhau hynny?

Yn yr un modd fe fyddwn yn dra diolchgar o ddeall sut y bu i Dai Lloyd dderbyn tua 90% o'r bleidlais (yn ol yr hyn a ddeallaf) ond syrthio i'r ail safle tu ol i Bethan Jenkins yn rhanbarth gorllewin de Cymru. Trefn ddemocrataidd dy blaid ar waith eto fe dybiaf.

Dwi'n credu fod yr uchod yn ateb y rhelyw o'r sylwedd prin oedd yn dy gyfraniad hurt a babiaidd. Pob lwc efo'r gwyliau ysgol - ymddengys dy fod ei angen.

Guto Bebb said...

Oh, un pwynt bach arall :-)

Os ti o ddifrif yn credu i mi wneud honiad "difrifol o dwyll a thor cyfraith" a dy fod yn flogiwr mor arbennig o gymhedrol a gofalus pam yn nenor tad i ti gyhoeddi'r cyfan?

Awgrymaf yn garedig dy fod wedi gwneud hynny gan dy fod yn llwyr ddeall nad honiad o dwyll sydd yma ond honiad o ddefnyddio'r drefn sydd ohoni mewn modd, wel, creadigol.

Ta waeth, 'falle fod y stori ar grwydyr bellach o ystyried y balchder sydd gennyt yn nifer dy ddarllenwyr ac o ystyried natur y wasg Gymreig. Debyg iawn y bydd y stori ar y BBC a Golwg 360 erbyn bore fory. Yr oll diolch i ti a Blog Menai! Nice one Cai.

Cai Larsen said...

Mi wna i anwybyddu'r ensyniadau personol, 'dwi wedi hen arfer atynt erbyn hyn ac maent yn adlewyrchu'n waeth arnat ti nag ydynt arnaf i. .

Mae dy honiadau ar y dudalen flaen Guto, oherwydd fy mod yn gwybod i sicrwydd eu bod yn gwbl ddi sail. Os ydyn nhw'n ymddangos yn y cyfryngau prif lif, gobeithio bod gen ti fewath o dystiolaeth i gefnogi dy ensyniadau.

Fel mater o ddiddordeb, ydi Golwg a'r Bib wedi dweud celwydd, ta Bourne sydd wedi dweud celwydd, ta Oscar sydd wedi dweud celwydd, ta'r ddau, ta be? Neu efallai nad ydi Bourne yn deall rheolau ei blaid ei hun. Plis eglura, dwi'n ddryslyd.

Pam yn union y dyliwn i gyflwyno tystiolaeth nad oes yna anfodlonrwydd wedi ei fynegi ynglyn a Caerfyrddin Dinefwr? - Dwi, na neb dwi wedi siarad efo nhw wedi clywed am awgrym o dwyll, ag eithrio o dy gyfeiriad di. Wyt ti'n teimlo fel cyflwyno tystiolaeth nad oes yna anfodlonrwydd ynglyn a sut cest ti dy ethol?

O ran dy sylwadau am drefn ethol aelodau rhestr y Blaid, mae'n nhw'n bathetig a dweud y gwir. Roedd y drefn merched yn gyntaf yn llai na doeth, ond roedd yn ddeilliant o bolisi oedd wedi mynd trwy'r sianelau priodol, ac roedd pawb yn ei ddeall - yn wahanol i addewid ymddangosiadol Bourne i Oscar.

'Rwan wyt ti'n mynd at yr heddlu efo dy honiadau, ta ti'n tynnu dy syniadau enllibus yn ol, ta ti'n sefyll y tu ol iddynt heb gyflwyno unrhyw - unrhyw - dystiolaeth i'w cefnogi?

Plis ateb Guto - mae'r ffordd ti'n gwneud hynny yn dystiolaeth digamsyniol o pa mor addas wyt ti i fod yn gynrychiolydd etholedig.

Guto Bebb said...

O Cai, tyrd 'mlaen.

Enllibus! Beth, fod pledleisiau post wedi eu casglu cyn yr hystings? Dwi'n herio UNRHYW aelod o Blaid Cymru i wadu na fu i hyn ddigwydd.

O ran dy awgrym fod fy mhwynt am ddull ethol aelodau Plaid Cymru ar y rhestr yn 'pathetic' - wel dwi'n digwydd anghytuno. Fel un sydd yn talu am bresenoldeb yr arffwysol di-ddim Janet Ryder dwi'n gweld yr holl drefn yn sarhad ar hawl yr etholwyr i ddewis. Mater i ti a'th blaid yw amddiffyn y fath ddirmyg tuag at dreth dalwyr gogledd Cymru.

Dwi wedi ymateb yn llawn i'th holl bwyntiau am Mr Ashgar - wn i ddim pam chwaith, mae o fel siarad efo'r wal.

Yn olaf, ti'n un da i gwyno am ensyniadau personol. I raddau helaeth mae dy holl ymdriniaeth o unrhyw un sy'n codi cwestiwm am dy blaid yn arwain at ddim mwy na llith di-ddiwedd o ensyniadau personol a dirmyg a hynny ar lefel tipyn yn fwy hyll na fy honiad caredig dy fod wedi blino ar ol tymor caled yn yr ysgol.

Gair o gyngor i ti Cai. Dwi'n rhoi'r gorau i wleidydda o ddydd Sadwrn hyd y flwyddyn nesaf. Efallai mai llesol i ti a'th baranoia fyddai cyfnod o dawelwch.

Guto

ON - waeth pa mor bryfoclyd dy ymateb nesaf dwi'n rhoi gorau i'r drafodaeth yma rwan. Game, set and match fel dywed y sais!

Anonymous said...

As a Plaid member in Carmarthenshire I am disgusted at the smearing of our internal election process by a candidate of another party. Postal votes in the said election accounted for less than a quarter of all ballots. Our brilliant new candidate Jonathan Edwards won on the first ballot with well over 50% of the vote. Even if therefore every postal ballot was cast in favour of Jonathan (which of course could never be the case), he clearly secured more votes than all the other candidates during the public hustings meetings. This would hardly be surprising as his performance was a cut above the rest. Shame on you Guto Bebb for your baseless accusations. If there are those in the local party briefing against Jonathan to the Tories – shame on them too and simple mathematics would indicate that this has more to do with sour grapes rather than any hard fact.

Cai Larsen said...

GB - O Cai, tyrd 'mlaen.

Enllibus! Beth, fod pledleisiau post wedi eu casglu cyn yr hystings? Dwi'n herio UNRHYW aelod o Blaid Cymru i wadu na fu i hyn ddigwydd.

Son oeddet ti am 'gam ddefnydd' o bleidleisiau post oedd wedi arwain at ganlyniad arbennig. Mae hynny'n anghyfreithlon 'dwi'n meddwl, ac mae cyhuddiad o dorri'r gyfraith yn enllib - er dy fod yn osgoi defnyddio enw. Y pwynt ydi hyn Guto - os ti'n dweud bod rhywun yn ddi glem am yr economi neu beth bynnag, mae hynny'n fair game mewn gwleidyddiaeth. 'Dydi ensynio bod pobl wedi torri'r gyfraith ddim yn fair game - ti angen tystiolaeth i wneud hynny a ti heb ddod i fyny efo dim - sero - zilch.

GB - Er gwaethaf dy holl honiadau am Mr Ashgar y mae'r ffeithiau'n syml. Ni all, ac nid yw o fewn gallu Nick Bourne i newid rheolau dewis y Blaid Geidwadol. Y mae swyddogion y blaid yr wyf wedi siarad â hwy oll yn gadarn na fydd newid i'r rheolau dewis. Ni chredaf fod modd i mi fod yn fwy agored na hynny efo chdi na dy ddarlenwyr.

Digon teg, ond dydi'r uchod ddim yn egluro pam bod y cyfryngau yn dweud i Bourne ac Asghar ddod i gytundeb. Efallai mai'r cwestiwn ydi hyn mewn gwirionedd - pwy sydd a'r mwyaf o ddylanwad yn y Blaid Geidwadol Gymreig yr aelodau etholedig ta gweision cyflog y blaid? Efallai y dof yn ol at hyn ar y dudalen flaen.

GB - Yr hyn sy'n berthnasol serch hynny yw fod gennyf lawn gymaint o hawl i ddatgan yr hyn dwi wedi glywed (o fwy nac un cyfeiriad) am y modd y mae dy blaid di yn dewis ymgeisydd i'r hyn sydd gennyt tithau i wneud honiadau am ddulliau dewis y Blaid Geidwadol.

Na mae gen i ofn - dwi'n seilio fy holi fi ar stwff sydd wedi ei gyhoeddi yn agored. Ti'n gwneud dy ensyniadau o dor cyfraith ar sail rhywbeth ti'n honni bod person neu bobl nad wyt ti'n eu henwi yn dweud wrthyt. Mae yna fyd o wahaniaeth. Ydi deall hynny mor ofnadwy o anodd?

GB - Yn olaf, ti'n un da i gwyno am ensyniadau personol. I raddau helaeth mae dy holl ymdriniaeth o unrhyw un sy'n codi cwestiwm am dy blaid yn arwain at ddim mwy na llith di-ddiwedd o ensyniadau personol a dirmyg a hynny ar lefel tipyn yn fwy hyll na fy honiad caredig dy fod wedi blino ar ol tymor caled yn yr ysgol.

Efallai y byddet cystal a thynnu sylw at ymysodiad felly?

GB - Gair o gyngor i ti Cai. Dwi'n rhoi'r gorau i wleidydda o ddydd Sadwrn hyd y flwyddyn nesaf. Efallai mai llesol i ti a'th baranoia fyddai cyfnod o dawelwch.

O diar Guto, fel 'dwi wedi awgrymu eisoes mae'n bwysig bod yn ofalus sut ti'n geirio pethau - petawn yn wir yn dioddef o baranoia mi fyddai cryn berygl i mi gymryd honna fel bygythiad.

GB - waeth pa mor bryfoclyd dy ymateb nesaf dwi'n rhoi gorau i'r drafodaeth yma rwan. Game, set and match fel dywed y sais!

Hmm - mi'r oeddwn yn arfer dweud bod dy dueddiad i ddadlau a mynnu barnu pwy oedd yn ennill y ddadl tipyn fel rhywun sy'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth Strictly Come Dancing yn mynnu dawnsio a bod yn feirniad. Mae'r trosiad wedi newid ychydig i rhywun yn mynnu chwarae tenis a bod yn ddyfarnwr, ond mae'r un mor addas.

Cai Larsen said...

To be honest anon I'd be extremely surprised if there was any briefing from within Plaid. This is just a case of somebody making cynical use of the sort of baseless tittle tattle that comes up in the immediate aftermath of every election in order to deflect attention from the nasty questions the Ashgar affair raise for his own party.

Anonymous said...

Dowch wan hogia, mae Guto bach yn siwr o ddeal y "deal" ma sydd wedi cael ei wneud dydi. Roedd o ei hun yn hynod falch o fod yn rhan o blaid cymru tan i Hywel gael ei ddewis dros Gaernarfon yn ei le, so mae o di arfer hefo symud pleidia! Guto bach, dwi gobeithio ti medru cygsu yn y nos - pobl fatha chdi sydd yn troi pobl i ffwrdd ag i beidio fotio o gwbwl. Tydi gwleidyddiaeth ddim am dan be fedri di gael allan ohono fo - mae o am dan wneud gwahaniaeth. Sa dy blaid "newydd" wrth gwrs ddim yn deall hynnu tra yn brysur yn gwneud plania i dorri trethi ar gyfer eu ffrindiau! Dwi gobeithio gei di gweir arall washi!!

Anonymous said...

It's a bloody disgrace if you ask me, a so called serious Tory politician indulging in rumour mongering on the internet like a schoolgirl with behavioural problems.