Tuesday, December 08, 2009

O diar Oscar


Mae hanes taith ddisymwth Mohammad Asghar oddi wrth y Blaid i nyth fach glud y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd wedi dominyddu'r blogosffer Cymreig ar ddiwrnod olaf Rhodri Morgan - sy'n anffodus ar un olwg. Mae pob math o resymau yn cael eu cynnig ar gwahanol flogiau - y rhan fwyaf ohonynt yn adlewyrchu'n sal ar Oscar a'i flaenoriaethau. Wna i ddim mynd i'w hailadrodd - ceir blas ohonynt yma er enghraifft.

Wna i ddim treulio llawer o amser yn diawlio'r dyn, ond mae'r holl stori yn codi ambell i bwynt digon diddorol, ac mi gymraf olwg ar rai o'r rheiny.

Yn gyntaf mae'r honiad a gafwyd gan un neu ddau bod Oscar am gael ei de selectio erbyn etholiadau 2011. Go brin bod hynny'n wir mewn gwirionedd - byddai'n rhaid iddo fod wedi tramgwyddo ar rhyw reol neu'i gilydd cyn i hynny ddigwydd. Mae'n bosibl ei fod yn ofni na fyddai'n cael lle mor uchel ar y rhestr y tro nesaf, ac ni fyddai straeon am Adam Price yn sefyll yn Ne Ddwyrain Cymru wedi helpu pethau.

'Dwi ddim yn gwybod beth i'w wneud o'r stori bod Nick Bourne wedi cynnig y safle cyntaf iddo ar restr y Toriaid yn y De Ddwyrain (y son ydi bod William Graham yn ymddeol) . 'Dwi ddim yn gwybod os ydi hi'n wir, ond os felly mae'n codi cwestiynau sylfaenol am ddemocratiaeth mewnol y Blaid Geidwadol - byddai dyn wedi dychmygu bod gan y Toriaid drefn ddemocrataidd o ddewis ymgeiswyr yn hytrach na chael Nick Bourne yn rhannu enwebiadau allan fel rhyw arglwydd ffiwdal canol oesol neu dad bedydd yn Cosa Nostra Sicily.

Stori sydd yn sicr yn wir ydi nad oedd Oscar wedi dweud dim wrth ei staff (mae pedwar yn gweithio iddo) am ei benderfyniad. Dyma'r elfen fwyaf gwarthus o'r peth i gyd. Os ydi rhywun yn cymryd penderfyniad sy'n effeithio'n negyddol ar gyflogaeth pobl sy'n gweithio iddo, mae'n rhesymol disgwyl iddo egluro hynny'n bersonol iddynt. 'Dydi'r ffaith i Oscar adael iddynt ddarganfod y sefyllfa gan y cyfryngau ddim yn adlewyrchu'n dda ar ei hygrededd personol.

'Dydw i ddim yn disgwyl am eiliad y bydd Oscar yn ymddiswyddo, a go brin bod Dai Lloyd yn disgwyl hynny chwaith. Does yna ddim gofyn cyfreithiol arno i ymddiswyddo a dyna ddiwedd y mater mewn gwirionedd. Ond mae'r ffaith ei fod wedi ei ethol gan bobl oedd yn meddwl eu bod yn pleidleisio i Blaid Cymru yn tanlinellu gwendid y gyfundrefn bleidleisio sydd gennym yng Nghymru. Cyfaddawd bler rhwng drefn gyfrannol a threfn First Past the Post sydd gennym yng Nghymru. Yn y pen draw mae'n drefn sy'n gwobreuo methiant etholiadol. Yr unig reswm bod gan y Blaid ddwy sedd (un Oscar ydi'r ail o'r rheiny) yn y De Ddwyrain ydi oherwydd iddi fethu ennill sedd uniongyrchol. Mae'n creu sefyllfa ryfeddol lle mae o fudd i ymgeiswyr rhestr os ydi eu plaid yn ehangach yn perfformio'n siomedig. Mae'n ddigon posibl nad ydi rhai o'r ymgeiswyr rhestr eisiau gweld eu plaid yn gwneud yn dda. Mae yna ddulliau cyfrannol o bleidleisio llawer gwell na hyn, ac mae'n bryd i ni symud i'r cyfeiriad hwnnw.

Mae'n codi cwestiynau ynglyn a sut mae'r Blaid yn dewis ymgeiswyr. Mae yna rhywbeth o'i le pan mae cyn AC Plaid Cymru yn gallu honni ei fod yn gadael oherwydd ei fod yn hoff iawn o'r Frenhines ac yn Unoliaethwr mawr, heb i bawb chwerthin ar ei ben. Byddai sefydlu trefn o ofyn un neu ddau o gwestiynau cyffredin ym mhob cyfarfod enwebu trwy'r wlad yn gam i'r cyfeiriad cywir.

6 comments:

Anonymous said...

Beth am ddechrau rhestr o gwestiynnau addas?

1. Ysgolion Gwledig - Agor neu Gau
ateb: Cau
2. Cefn Gwlad - Sylw neu Anwybyddu
ateb: Anwybyddu

"Da chi i mewn!"

;-)

Guto Bebb said...

Hi Cai,

Dim ond dau beth (a dim bwriad i roi halen yn y briw);

1. Tydi'r ddamcaniaeth am addewid Nick Bourne yn ddim mwy na hynny - damcaniaeth. Y mae gan y Blaid Geidwadol drefn o ddewis ymgeiswyr rhanbarthol trwy bleidlais bost i bob aelod mewn rhanbarth. Yn 1999 cyfarfod cyhoeddus a hystings a gafwyd gyda pawb yn y neuadd yn bwrw pleidlais. Cafwyd sawl esiampl o 'bacio'r neuadd' megis cefnogwyr Peter Rogers yn y Gogledd. Erbyn 2003 yr oedd y drefn o bleidlais bost i bob aelod wedi ei sefydlu a dyna'r drefn a gafwyd yn 2007.

2. Ti'n hollol gywir am wendid arffwysol y drefn llwgwr yma o bledleisio cyfrannol. Dwi ddim yn hoff o PR ond os PR ydi'r dewis yna fersiwn go iawn os gwelwch yn dda. A cyn i ti ddweud dim mae trefniadau'r Weriniaeth yn weddol agos at drefn PR y gallwn ei derbyn (pe byddai rhaid).

Iawn, sori ond gai 1 pwynt arall?

Dwi ddim yn credu y dylai Mr Ashgar ymddiswyddo. O dderbyn y trefniadau rhestr hurt rhaid hefyd sicrhau fod yr Aelod Rhestr yn gallu gweithredu'n rhydd o ddylanwad ei blaid. Er fod datgan fod aelodaeth Mr Ashgar (ac aelodau rhanbarthol eraill) yn ddyledus i ymdrechion plaid ac nid unigolion y munud y mae nhw yn y Cynulliad y mae'n allweddol eu bod yn gweithredu gyda'r un hyder ac anibyniaeth ac unrhyw aelod arall. Heb hyn waeth i ti ethol ugain peiriant pledleisio yn hytrach nac ugain unigolyn (fe fyddai'n arbed arian hefyd!).

Guto

Cai Larsen said...

A Guto, roeddwn i'n rhyw feddwl y byddet ti'n ymweld rhywsut!

Diolch am glirio materion i fyny ynglyn a threfniadau'r Toriaid o ran dewis ymgeisyddion - rydych wedi dod ymhell ers y dyddiau pan oedd eich harweinyddion an 'ymddangos' (os mai dyna'r cyfeithiad am 'emerge'). Cofia mi fydd yn ddiddorol gweld yn os bydd Oscar (a Natasha) o ran hynny yn cael eu henwebu maes o law.

Mae dy bwynt olaf yn un digon synhwyrol - ond fel ti'n dweud, cynnyrch trefn bleidleisio idiotaidd ydi'r sefyllfa.

Guto Bebb said...

Dwi'n amau dim y caiff ef neu'r ferch enwebiad ond fe fydd yn rhaid iddynt ddenu cefnogaeth yr aelodau ar lawr gwlad yn y de-ddwyrain.

Wrth gwrs, mae plaid sy'n rhoi Janet Ryder ar frig rhestr y gogledd yn hytrach na Wigley er iddo fo gael mwy o bledleisiau mewn sefyllfa gref iawn i wneud honiadau am drefniadau mewnol plaid arall! :-)

Cai Larsen said...

Wel, 'dwi'n digwydd credu bod y drefn merched yn gyntaf wedi goroesi ei defnyddioldeb, ond mater o bolisi oedd wedi mynd trwy sianeli arferol oedd o.

Ti'n meddwl y gwnaiff Natasha yr A list? - mae'n edrych yn berffaith i mi (mi gafodd hi fy ail bleidlais i yn y broses enwebu ar gyfer etholiadau Ewrop - roedd yn dda iawn, llawer gwell na'i hen go - dwi'n magu record o gefnogi pobl sy'n troi at y Blaid Geidwadol)

Aled G J said...

Mae'r hanesyn hwn yn adlewyrchu'n wael ar y Toriaid a Phlaid Cymru fel ei gilydd. Ond mae gen i ofn mai difrod i'r Cynulliad ei hun fydd gwaddol difrifolaf heddiw.Hyd yma, mae narratif go gredadwy wedi ei chreu yma yng Nghymru ynghylch y ffaith bod y Cynulliad yn "wahanol" i san steffan, ac nad ydi ein gwleidyddion ni wedi syrthio i'r un pydew o hunan-les ac ymelwa ar draul yr etholwyr ag a welwyd yn Llundain. Wrth gwrs, tydi hanes Oscar ddim i'w gymharu a rhai o'r hanesion gwaethaf yn san steffan, ond eto'i gyd, dwi'n meddwl bod ei weithred dan-din ac oportiwnistaidd wedi llwyddo i ddryllio effeithioldeb y narratif uchod. Bydd carfan o etholwyr yn teimlo mai buddiannau personol sy'n dod gyntaf i wleidyddion yma yng Nghymru hefyd, a hynny uwchlaw gwasanaethu plaid, heb son am wasanaethu'r cyhoedd. Bydd yn ychwanegiad pellach at y canfyddiad cyhoeddus mai dyma ydi swm a sylwedd gwleidyddiaeth gyfoes.Yn sicr ddigon, nid dyma'r math o ganfyddiad y byddai rhywun am ei weld ar drothwy cyfnod mor bwysig yn hanes gwleidyddol Cymru. Rheswm arall dros bwyllo cyn rhuthro am refferendwm.