tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post2606631839660950114..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Mr Myll yn cael y myll unwaith etoCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger5125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-43295951031127072642009-12-04T16:51:37.502+00:002009-12-04T16:51:37.502+00:00Diolch am y sylwadau Guto, ac mae’n dda dy weld di...Diolch am y sylwadau Guto, ac mae’n dda dy weld di allan yn batio drachefn tros Lais Gwynedd.

Mae’n dda gen i allu cytuno efo elfennau o’r hyn rwyt yn ei ddweud, ac mae’n braf dadlau ar sail ffeithiau. Mae dy ddehongliad o’r ffeithiau hynny’n llai na di duedd fodd bynnag. Ti’n gwbl gywir bod yna £500 y pen o wahaniaeth mewn gwariant ar addysg yng Nghymru a Lloegr. Mi fyddwn i hefyd yn cytuno efo ti nad ydi hyn yn dderbynol.

Ti’n garedig yn nodi nad ar Blaid Cymru mae’r bai ‘i gyd’. Mi fyddwn i’n holi os oes yna fai ar Blaid Cymru o gwbl. ‘Dwi’n ddim yn disgwyl i ti fod a ffigyrau gwariant addysg ar flaenau dy fysedd a bod yn deg, ond mae’n ffaith bod y cynnydd mewn gwariant y pen yng Nghymru ar gyfer 2008 – 2009 yn 3.8% - yn union yr un peth a Lloegr. Cafodd y gwahaniaeth sylweddol rhwng gwariant yn Lloegr a Chymru ei greu yn ystod y cyfnod hwnnw pan roedd Llafur mewn llywodraeth ar ei phen ei hun (hy ar ol clymblaid Llafur efo’r Lib Dems a chyn eu clymblaid efo Plaid Cymru).

Dydi hi ddim yn anodd gweld i lle mae’r pres wedi mynd – i gynlluniau o’r canol megis clybiau brecwast, presgripsiwns a pharcio mewn ysbytai ac ati am ddim. Does yna ddim o’i le mwn pethau felly ynddynt eu hunain wrth gwrs, ond mae’n gwestiwn gwleidyddol perthnasol os ydynt yn flaenoriaeth. Mae hefyd yn briodol egluro i bobl y gallai pethau felly ddioddef petai’r bwlch rhwng gwariant addysgol yng Nghymru a Lloegr yn cau.

O ran llythyr Gwilym, does gen i fawr o broblem os ydi o am anfon un. Fel ‘dwi wedi nodi dydi o ddim yn ffordd effeithiol o ymgyrchu am fwy o bres i addysg – ond wnaiff o ddim drwg chwaith. Y broblem oedd portreadu pobl nad oeddynt am gymryd rhan yn yr ymarferiad fel y pechaduriaid mwyaf ers i Adda ac Efa gael eu cicio allan o Ardd Eden.

Mae dy ymdrech i greu cysylltiad rhwng hyn oll a phenderfyniad dy gynghorydd lleol i gefnogi codiadau cyflog i grwp bychan o swyddogion yn sgil addewid i weithredu ar argymhelliad annibynnol, yn esiampl wych o grafu gwaelod casgen fach wleidyddol.

Fodd bynnag, ‘dwi wedi fy nghalonogi gan dy ddarn at ei gilydd. Mae’n dda bod gwleidydd Toriaidd a allai gael ei ethol i’r senedd y flwyddyn nesaf yn ymwybodol o effeithiadau tan wario ar addysg, a ‘dwi’n siwr y byddi o ganlyniad yn fwy na pharod i gefnogi dadl Plaid Cymru tros gyfundrefn o ariannu teg i Gymru.

Diolch.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-14659581359890134832009-12-04T12:04:30.816+00:002009-12-04T12:04:30.816+00:00Cyfraniad rhyfedd arall gan Cai ac mae HRF yn llyg...Cyfraniad rhyfedd arall gan Cai ac mae HRF yn llygad ei le. Mae'r gwaith cyson Cai i amddiffyn ei Blaid Cymru annwyl yn erbyn pawb a phopeth yn awgrymu diffyg cyd-bwysedd gwleidyddol a dweud y lleiaf.

Ta waeth, at bwynt mwy difrifol. Mae Cai yn llwyr golli'r pwynt am y diffyg hwn o £500 a mwy y disgybl. Yn 1999 doedd y gwarged hwn ddim yn bodoli. Wedi deng mlynedd o Ddatganoli mae blaenoriaethau tair Llywodraeth y Cynulliad wedi gweld addysg yn cael llai o arian na'r angen oherwydd penderfyniadau bwriadol y Cynulliad.

Nid bai Plaid Cymru yw'r cyfan o hyn yn amlwg ond fel yn achos setliad llywodraeth leol yr oedd Plaid Cymru yn gwneud lot o swn am y diffygion hyn cyn dod yn rhan o lywodraeth ac bellach mae arch flogwyr y Blaid yn honni fod tynnu sylw at y diffygion hyn yn rhywbeth plentynaidd a hurt. Diffyg cysondeb fyddwn i'n ddweud ond dyna ni.

Ar lefel bersonnol dwi'n gweld effaith y diffyg hwn yn ysgol pedwar o'm plant (a chyn ysgol plant Cai). Er fod gan yr ysgol dan sylw bron 190 disgybl mae'r penderfyniad wedi ei wneud i golli un athro. Y mae hyn yn golygu y bydd fy merch yn gorfod rhannu grŵp oedran am y tro cyntaf gydag un blwyddyn yn cael ei rhannu ar sail pryd y ganwyd y plant (gan rannu ffrindiau ayb mae'n debyg). Yn achos yr ysgol dan sylw y mae 190 x £500 yn £95,000. Digon i gadw'r athro a chyflogi un neu ddau arall!

Rwan falle fod Cai yn gweld y peth yn blentynaidd ond i mi mae angen codi cywilydd ar y Cynulliad am eu blaenoriaethau. Cafwyd cynnydd o bron 100% yn nifer y swyddogion o fewn y Cynulliad o gymharu a'r Swyddfa Gymreig ond 'grant bloc' sy'n cyllido Cymru. Felly mae'r dewisiadau rhwng mwy o fiwrocratiaid a llai o athrawon yn fater o bolisi. Siawns bod ganddom hawl cwyno? Ond na, dim os yw Plaid Cymru yn rhan o'r gyfundrefn ym mae Caerdydd.

Difyr nodi hefyd fod Cadeirydd LLywodraethwyr yr ysgol dan sylw wedi codi ei law dros godiadau cyflog prif swyddogion Gwynedd (gan gynnwys dau brif swyddog y gwasanaeth addysg). (Y mae'n gynghorydd Plaid Cymru).

Agwedd Plaid Cymru?

Colli athro? = OK
Dosbarthiadau mwy? = OK

Cyflogau uwch i swyddogion oedd eisioes yn derbyn cyflogau o bedair a phum gwaith cyfartaledd Gwynedd? = ALLWEDDOL

Duw an helpo!Guto Bebbnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-44163510079115361122009-12-03T16:56:41.385+00:002009-12-03T16:56:41.385+00:00Dydw i ddim yn ymosod ar pob dim mae Llais Gwynedd...Dydw i ddim yn ymosod ar pob dim mae Llais Gwynedd yn eu wneud Alwyn. Ymosod ar eu tueddiad i gam gynrychioli'r gwir ydw i.

Os wnei di ddarllen fy mlogiadau diweddar ar y pwnc yn ofalus mi weli fy mod yn egluro sefyllfaoedd sy'n wynebu'r Cyngor yn fanwl (sori am fod yn hirwyntog anon), ac yn eu cyferbynu efo'r sefyllfaoedd hynny fel maent yn cael eu symleiddio a'u cynrychioli gan Ll G.

Os oes gen ti broblem efo hynny, does dim rhaid i ti ddarllen y blogiadau dan sylw, nag yn wir y blog ei hun.

Mi fyddwn hefyd yn tynnu dy sylw at y ffaith mai lleiafrif bach iawn o fy mlogiadau sy'n ymwneud a Ll G o gwbl.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-74858429564326489562009-12-03T12:35:11.218+00:002009-12-03T12:35:11.218+00:00O ddarllen yr ymosodiadau plentynnaidd parhaus ar ...O ddarllen yr ymosodiadau plentynnaidd parhaus ar y blog hon yn erbyn pob dim mae Gwilym a Llais Gwynedd yn dweud neu'n gwneud gellir ymateb i'r post uchod trwy ofyn os mae  Unig ideoleg Blog Menai mewn gwirionedd ydi'r gred fach syml bod Llais Gwynedd yn bobl sobor o ddrwg?

Llynedd danfonwyd llythyr o gŵyn i'r Cynulliad am y setliad sobor o wael a dderbyniwyd gan Cyngor Conwy, ar gais a gyflwynwyd gan gynghorwyr Plaid Cymru'r fwrdeistref. A'i hurtrwydd pobl wirion a chafodd y mwll oedd y llythyr hwnnw? Nag oedd siŵr! Mae Plaid Cymru yn cwyno i'r Cynulliad yn beth da, dim ond cwynion tebyg gan Lais Gwynedd sy'n ddrwg.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-56230250829988527372009-12-03T09:34:39.597+00:002009-12-03T09:34:39.597+00:00Diolch Blogmenai am hanesion Mr Myll ond gair o gy...Diolch Blogmenai am hanesion Mr Myll ond gair o gyngor - ond myn brain i, paid bod mor hirwyntog. Os oes gen ti rhywbeth i'w ddweud dwed e'n gryno. Mae amser byn brin.Anonymousnoreply@blogger.com